Nodweddir y ddau arfordir gan draethau hir, heb eu difetha a childraethau cudd, sydd wedyn yn ildio i gefn gwlad gwyrddlas, tonnog ac, yn codi i fyny yn y pellter, mynyddoedd dramatig. Credai'r hen Geltiaid fod hanfod ysbrydol i bob peth boed yn blanhigion, anifeiliaid neu gerrig a thirwedd. Fe drosglwyddwyd eu straeon bywiog am antur, arwriaeth, rhamant a hud ar lafar gwlad. Bydd pob ffordd yn ein rhan benodol ni o'r byd yn eich arwain at wlad ein henuriaid.
Profai Celtiaid Cymru ac Iwerddon y byd mewn tair teyrnas: Yr Awyr, y Ddaear a’r Môr ac roeddent yn byw mewn cytgord â natur. Maent yn sail i greu antur berffaith i deithiwr chwilfrydig heddiw. Dewch i deimlo grym natur ym mhob mynydd, afon, coeden a chraig.
Awyr - Pa ffordd well o geisio cysylltiad ysbrydol â'r bydysawd na thrwy edrych tuag at y sêr? Mwynhewch y wybren dywyll ar hyd Llwybyr Sêr Mynyddoedd Cambrian, a darganfyddwch fytholeg Geltaidd yn ogystal â'r straeon Clasurol sy'n dehongli'r cysylltiadau rhwng y cytserau.
Daear - Y mynegiant uchaf o Deyrnas y Tir yw'r mynydd. Pumlumon Fawr yw'r pwynt uchaf yng Ngheredigion, gyda golygfeydd pellgyrhaeddol i bob cyfeiriad. Amlygir ei arwyddocâd fel cefndeuddwr afonydd mawr a ffynhonnell mwynau gwerthfawr wedi ei bwysleisio ar fapiau hynafol.
Mae llwybrau hynafol yn croesi mynydd-dir Elenydd hefyd, lle cewch fwynhau tawelwch yr ucheldir, a chlywed can yr ehedydd yn glir ar yr awel.
Môr – defnyddiai’r Celtiaid lwybrau’r môr i fasnachu a rhannu diwylliant gan gynnwys neges yr eglwys Geltaidd gynnar. Fe ddewch ar draws gerrig gyda ysgrif ogham arnynt yn nyffryn y Teifi ac eglwysi wedi eu cysegru i seintiau Gwyddelig ar yr arfordir. Mae yna straeon am diroedd coll i'w darganfod ar hyd y glannau hefyd, gydag olion rhyfeddol sy'n awgrymu y gallai'r rhain, efallai, fod â sail mewn gwirionedd
Dewch i ymgolli yn yr elfennau’r tymhorau a chrwydro ar draws y dirwedd i safleoedd hynafol lle cafodd straeon eu adrodd a'u hail-ddyfeisio ar gyfer yr oes fodern, a’u hailadrodd eto fel eu bod ar gof a chadw ar gyfer y dyfodol.
Dewch i ddarganfod y lleoedd a'r bobl a luniodd ddiwylliant Cymru ac Iwerddon heddiw.