Ceredigion yn oes y Seintiau

Yn ôl yr hanes, cafodd Dewi Sant – nawddsant Cymru – ei fagu ar arfordir Ceredigion, ac fe gyflawnodd ei wyrth enwocaf yn Llanddewi Brefi ym Mynyddoedd Cambria. Mae llawer o safleoedd cysegredig hynafol yn dal i gael eu defnyddio ar hyd a lled y sir heddiw, o ffynhonnau sanctaidd i eglwysi cynnar. 


 

Dewi Sant - Nawddsant Cymru

Mae cysylltiadau cryf rhwng Ceredigion a Dewi Sant, yr unig un o nawddseintiau Prydain a anwyd ar yr ynysoedd hyn. Roedd ei fam, Non, yn lleian. Mae'n bosibl ei bod yn ferch i bennaeth lleol, a hyd yn oed yn nith i'r Brenin Arthur. Sant, mab Ceredig ap Cunedda, Brenin Ceredigion, oedd ei dad.

Yn ôl Rhygyfarch, bywgraffydd Dewi Sant yn yr 11eg ganrif, fe ddaeth angel at ei dad, cyn geni Dewi, a dweud wrtho am gasglu tri pheth byw: carw, eog, a haid o wenyn, creaduriaid sy'n cynrychioli tair o'r elfennau, sef daear, dŵr, ac aer.

Fe ddigwyddodd un o wyrthiau enwocaf Dewi Sant yn Llanddewi Brefi. Yn ôl yr hanes, fe gododd y ddaear o dan ei draed wrth iddo annerch tyrfa fawr o bobl.

Padarn Sant yng Ngeredigion

Roedd Padarn Sant yn byw ar yr un adeg â Dewi Sant ac, yn ôl beirdd yr Oesoedd Canol, mae'n bosibl iddo fedyddio Dewi. Roedd Padarn yn dod o dras bonheddig yn Llydaw, ac fe aeth y tri sant, Padarn, Dewi a Teilo, gyda'i gilydd i Jerwsalem lle cafodd y tri eu sefydlu'n esgobion. Ac yntau'n gydradd â Dewi, roedd rhai'n credu unwaith y gallai Padarn gystadlu â Dewi am deitl Nawddsant Cymru.

Mae tair eglwys yng Ngheredigion wedi'u cysegru i Badarn Sant. Yr eglwys yn Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth, yw'r mwyaf nodedig o'r tair. Mae'r ddwy arall yn Llanbadarn Odwyn, rhwng Tregaron a Llangeitho yn nyffryn Aeron, ac yn Llanbadarn Trefeglwys ym Mhennant, i'r dwyrain o Aberaeron.

Mae Eglwys Padarn Sant yn Llanbadarn Fawr yn adeilad mawr – bron cymaint â chadeirlan – ac fe fu'n ganolfan ddysg bwysig am ganrifoedd lawer. Yno, fe ysgrifennodd Rhygyfarch ap Sulien, mab Esgob Tyddewi, hanes bywyd Dewi Sant, Buchedd Dewi. Yno hefyd, bu William Morgan yn pregethu cyn iddo ddod yn esgob Llanelwy a chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Mae copi o'i Feibl yn yr eglwys o hyd.

Yn un o gapeli eglwys Llanbadarn Fawr, fe welwch chi arddangosfa o groesau cerrig wedi'u cerfio'n gain o'r cyfnod Cristnogol cynnar. Tybed allwch chi weld y ffigurau'n cofleidio ar waelod y garreg tair metr o uchder?

Sylwch hefyd ar fwa cain y drws gorllewinol. Mae'n bosibl iddo ddod o Ystrad Fflur. Fe welwch chi fedyddfan ganoloesol, a llawr teils tlws hefyd. Beth am geisio ymweld pan fydd deg cloch yr eglwys yn canu? Mae'r hynaf yn dyddio o 1749, a'r ieuengaf wedi'i gosod yno yn 2001.

Abaty Ystrad Fflur 

Gan fod cysegrfan Dewi Sant mewn man mor anghysbell yng ngorllewin Cymru, fe gyhoeddodd y Pab fod dwy bererindod i Dyddewi yn gydradd ag un bererindod i Rufain, a bod tair pererindod yn gydradd â thaith i Jerwsalem.

Mewn dyffryn prydferth ym mynyddoedd Ceredigion, mae safle sanctaidd hynafol Ystrad Fflur hyd yn oed yn fwy anghysbell. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol gan y Normaniaid, fe ddatblygodd yn fuan iawn i fod yn ganolfan ddysg bwysig ac yn fan pererindod o dan nawdd y tywysog pwerus, yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth. Fe roddodd yntau ddarnau mawr o dir i'r abaty Sistersaidd, o lannau Bae Ceredigion i rostiroedd Mynyddoedd Cambria.

Heddiw, mae adfeilion abaty Ystrad Fflur yn sefyll mewn dyffryn tawel. Ond pan oedd yr abaty yn ei anterth, roedd y mynachod yn brysur yn ffermio defaid ac yn cloddio am fwynau ar eu hystadau mawr ym mhob cwr o'r rhanbarth, ac fe ddaeth yr abaty a'i glostiroedd yn ganolfan ddiwylliannol bwerus o dan nawdd tywysogion Cymru.

Fe gafodd llawysgrifau sy'n cynnwys llawer o drysorau llenyddol cynharaf y Gymraeg eu llunio neu'u copïo yn ysgrifdy Ystrad Fflur. Mae'r llawysgrifau hyn wedi goroesi hyd heddiw, nifer ohonyn nhw'n ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ochr yn ochr â thrysorau eraill y genedl.

Ond mae i'r llecyn tawel hwn hanes cythryblus hefyd. Yn 1401, ac yntau'n amau bod y mynachod yn cefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr, fe gipiodd Harri'r Pedwerydd, brenin Lloegr, yr abaty a throi'r adeiladau crefyddol yn ganolfan filwrol i gipio ac i guro gwrthryfelwyr yr ardal. Yna, pan ddiddymwyd y mynachlogydd gan Harri'r Wythfed yn yr 16eg ganrif, fe aeth Ystrad Fflur yn adfail. Ond mae'r porth carreg â'i gerfiadau cain yn dal i sefyll yn arwydd o bwysigrwydd y safle yn hanes Cymru. Ryw 16 milltir (25km) i ffwrdd yn eglwys Llanbadarn Fawr, gallwch chi weld porth arall wedi'i gerfio sydd, o bosibl, yn dod o Ystrad Fflur.

Tua 1180, fe aeth yr Arglwydd Rhys ati i sefydlu lleiandy Sistersaidd – yn chwaer i abaty Ystrad Fflur – yn Llanllŷr yn nyffryn Aeron. Fe oroesodd y lleiandy tan ddiddymiad y mynachlogydd. Erbyn heddiw, gerddi sydd yno, ond mae carreg wedi'i cherfio o'r cyfnod Celtaidd cynnar sydd ynghudd yn yr ardd yn adleisio hanes y safle. Gallwch chi ymweld â'r gerddi fel rhan o raglen diwrnodau agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Cwpan Nanteos 

Ac yntau wedi'i leoli mewn man mor anghysbell, fe dybir bod mynachod wedi dod â chreiriau sanctaidd o Ynys Wydrin i abaty Ystrad Fflur i'w cadw'n ddiogel. Yn eu plith roedd dysgl masarn hynafol a ddaeth i gael ei adnabod fel Cwpan Nanteos.

Mae llawer o straeon yn adrodd yr hanes am bobl a gafodd eu hiacháu ar ôl yfed o'r Cwpan neu hyd yn oed gyffwrdd ag e. Cymaint oedd y gred yng ngallu'r cwpan i iacháu nes i rai ddechrau credu mai hwn oedd y Greal Sanctaidd ei hun.

Fe aeth y ddysgl o Ystrad Fflur i Nanteos. Erbyn hyn, mae'n cael ei gadw'n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle gall ymwelwyr ei weld a dysgu mwy am ei hanes.

Safleoedd cyn-Gristnogol a safleoedd Cristnogol cynnar

Mae'n bosibl bod abaty Ystrad Fflur wedi'i adeiladu ar safle cysegredig cynharach. Ac mae rhai o'n heglwysi eraill wedi'u codi ar safleoedd crefyddol cyn-Gristnogol hefyd. Yn aml, bydd waliau crwn o amgylch ffiniau'r safleoedd hyn. Er enghraifft, yn Ysbyty Cynfyn ym Mynyddoedd Cambria, mae pum carreg fawr wedi'u gosod yn wal y fynwent, ac mae'n bosibl bod y cerrig hyn yn dod o gylch o feini cynharach.

Fe gafodd llawer o eglwysi cynnar Ceredigion eu codi mewn llefydd diarffordd, tu hwnt i gyrraedd cyrchoedd y Llychlynwyr paganaidd. Mae eglwys Llangrannog wedi'i chuddio o'r môr mewn dyffryn cysgodol, ac er bod eglwys Penbryn wedi'i lleoli ar fryncyn, doedd hi ddim yn bosibl i ymosodwyr ei gweld o'r môr. Roedd yr eglwysi hyn yn llefydd syml ond croesawgar. Erbyn heddiw, maen nhw'n llefydd llonydd i ddianc iddyn nhw am awren i ymlacio ac i adfywio'r enaid.

Ymhlith yr eglwysi sydd wedi'u lleoli ar lwybrau'r pererinion mae eglwys fawr Llanfihangel-y-Creuddyn yn nyffryn Ystwyth, yr eglwys fach ar ochr y bryn yn Ysbyty Ystwyth, ac Eglwys y Grog, yr eglwys fach wyngalchog sy'n swatio ar ymyl y clogwyn uwchlaw traeth melyn y Mwnt. Byddai pererinion yn aros yn y Mwnt ar eu siwrnai i Dyddewi, ryw 40 milltir i'r de-orllewin ar hyd yr arfordir.

Seintiau benywaidd Ceredigion

Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae nifer o eglwysi Ceredigion wedi'u cysegru i'r Forwyn Fair (cadwch lygad am lefydd â Llanfair yn eu henwau). Yn Aberteifi, fe gewch chi hyd i hen eglwys priordy'r Santes Fair, yn ogystal â Chysegrfan Gatholig Cymru sydd wedi'i chysegru iddi.

Ond mae nifer o eglwysi eraill Ceredigion wedi'u cysegru i seintiau benywaidd eraill.

Mae eglwys Llanwenog yn nyffryn Teifi wedi'i chysegru i'r Santes Gwenog, ond dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ei bywyd hi. Yn y fynwent gron, mae hen garreg ag arysgrif arni. Yn yr eglwys ei hun, mae bedyddfan sydd wedi'i cherfio'n gain, yn ogystal â cherfiadau pren a wnaed gan Joseph Rubens, artist a oedd wedi ffoi o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar Lwybr yr Arfordir rhwng Aberaeron a Llanrhystud, mae eglwys Llannon Llansanffraid wedi'i chysegru i Non, mam Dewi Sant, ac i'r Santes Ffraid, nawddsantes Iwerddon.

I'r dwyrain o Lanrhystud, ym mhentref Llangwyryfon, mae'r eglwys wedi'i chysegru i'r Santes Ursula a'r Gwyryfon. Tywysoges Frythonaidd-Rufeinig oedd y Santes Ursula, ac fe gafodd ei merthyru yn ninas Köln gydag, o bosibl, 11,000 o wyryfon. Mae cadeirlan y ddinas Almaenig hefyd wedi'i chysegru iddyn nhw.