Yn ôl y chwedl, roedd teyrnas y brenin Gwyddno Garanhir yn cynnwys tir ffrwythlon Cantre'r Gwaelod ac un ar bymtheg o ddinasoedd. Roedd palas Gwyddno, Caer Wyddno, wedi'i leoli yn agos at leoliad tref Aberystwyth heddiw, ac roedd ei deyrnas yn estyn allan i'r man lle mae môr Bae Ceredigion erbyn hyn. Roedd muriau wedi'u codi o amgylch y tir oherwydd ei fod yn is na lefel y môr. Seithennyn, un o gyfeillion y brenin, oedd yn gyfrifol am warchod y muriau a chau'r gatiau bob nos. Un noson, roedd Seithennyn wedi meddwi ar ôl bod yn gwledda ym mhalas y brenin, ac fe gwympodd i gysgu heb gau'r gatiau. Roedd hi'n noson stormus ac fe lifodd y môr drwy'r muriau gan foddi Cantre'r Gwaelod dan y dŵr.
Mae’r cofnod cynharaf o’r chwedl yn ymddangos yn Llyfr Du Caerfyrddin, ochr yn ochr â chwedlau am Arthur a Myrddin. Mae’r llawysgrif werthfawr hon yn cael ei chadw’n ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Taliesin
Ger Tal-y-bont, mae carnedd hynafol o'r enw Bedd Taliesin. Taliesin oedd enw bardd y Gododdin o’r chweched ganrif, ond mae Taliesin hefyd yn gymeriad chwedlonol a oedd yn meddu ar bwerau hud. Roedd y Taliesin chwedlonol yn gallu newid ei ffurf fel y mynnai ac fe gafodd ei ail-eni.
Yn ôl y chwedl, mae gan y wrach Ceridwen fab hyll iawn. I’w helpu, mae'r wrach yn mynd ati i greu diod yn ei phair a fydd yn rhoi awen gwybodaeth iddo ar ôl iddo yfed y tri diferyn cyntaf. Mae hi’n gorchymyn bod ei gwas, Gwion Bach, yn troi’r cymysgedd yn y pair. Ond wrth iddo wneud hynny, mae tri diferyn o’r ddiod boeth yn tasgu ar ei fawd, ac mae’n rhoi ei fawd yn syth yn ei geg i leddfu’r boen. Mae Gwion Bach yn ennill pob gwybodaeth a doethineb ar unwaith, ac mae’n sylweddoli y bydd mewn perygl mawr os bydd Ceridwen yn ei ddal.
Mae’n troi’n ysgyfarnog ac yn ffoi nerth ei draed, ond mae Ceridwen yn troi’n gi hela ac yn erlid Gwion. Mae Gwion yn cyrraedd afon ac yn troi’n bysgodyn, ond mae hithau’n dal i’w gwrso ar ffurf dyfrgi. Yna, mae Gwion yn troi’n aderyn, ond mae Ceridwen yn troi’n hebog. Â’r hebog ond y dim â’i ddal, mae Gwion yn gweld pentwr o wenith, ac mae’n troi ei hun yn ronyn gwenith. Heb roi’r ffidil yn y to, mae Ceridwen yn troi’n iâr ac yn llyncu Gwion.
Mae Ceridwen yn beichiogi ac mae Gwion yn cael ei ail-eni, ond all hi mo’i ladd oherwydd ei fod e mor dlws. Yn hytrach na'i ladd, mae'n ei roi mewn cwdyn lledr a’i daflu i’r môr, ac mae’n cael ei ddarganfod mewn cored ger pentref y Borth heddiw. Mae’r gored yn eiddo i Gwyddno Garanhir, brenin Cantre’r Gwaelod, ac mae’r baban yn cael ei fabwysiadu gan Elffin, mab Gwyddno. Mae’n rhoi’r enw Taliesin – talcen teg – iddo, ac mae Taliesin yn barddoni, hyd yn oed yn faban.
Mae Elffin yn brolio bod ganddo'r wraig brydferthaf a’r bardd doethaf. Mae hyn yn cythruddo tywysog pwerus Gwynedd, Maelgwn, sy’n ei daflu i’r carchar. Ond mae barddoniaeth brydferth Taliesin yn darbwyllo Maelgwn i ryddhau Elffin.
Mae un arall o’r chwedlau sy’n gysylltiedig ag aber afon Dyfi’n adrodd yr hanes am sut bu i Maelgwn gadw ei goron yn wyneb gwrthryfel gan dywysogion eraill. Fe wnaeth hyn drwy eu herio i weld pwy allai wrthsefyll y llanw a dod i’r lan yn dal i eistedd ar ei orsedd. Byddai’r enillydd yn dod yn ben ar y lleill. Roedd Maelgwn wedi rhoi cwyr ar ei gadair a’i gorchuddio â phlu er mwyn iddi arnofio, ac fe lwyddodd i drechu ei wrthwynebwyr. Yn ôl y traddodiad, fe fu farw Maelgwn o’r pla melyn, ac fe ddywedir bod Taliesin wedi rhagweld hyn.
Mae Taliesin hefyd yn honni iddo deithio gyda’r Brenin Arthur i Annwfn. Tybed allwch chi ddilyn ôl ei droed…?
Hud a lledrith Annwfn
Mae’r Mabinogi – ein chwedlau enwocaf sydd wedi’u cofnodi mewn llawysgrifau canoloesol – yn adrodd straeon llawn dirgelwch a hud a lledrith am dywysogion, menywod prydferth, a champau beiddgar. Mae’r chwedlau hyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn nhir a daear Cymru, ac maen nhw’n cyfeirio at nifer o leoliadau ry’n ni’n dal i allu eu hadnabod ym mhob cwr o'r wlad heddiw. Ymhlith cymeriadau pwysicaf y chwedlau mae Pwyll Pendefig Dyfed a’i deulu.
Wedi i gŵn Pwyll gwrso carw a oedd yn cael ei hela gan Arawn, brenin Annwfn – yr arallfyd Celtaidd – mae Pwyll yn teithio i Annwfn i gymryd lle Arawn am flwyddyn i wneud iawn am ei gam. Fe ddywedir bod yr helfa wedi digwydd ger y fynedfa i Annwfn yng Nglyn Cuch, dyffryn coediog dwfn lle mae un o is-afonydd afon Teifi’n tarddu ger Cenarth, ar y ffin rhwng tair sir gyfoes Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.
Mae un o ddywediadau Ceredigion yn cyfeirio at yr hanes: “Hir yw’r dydd a hir yw’r nos, a hir yw aros Arawn.” Pryd bynnag ddowch chi i ymweld â Cheredigion, ry’ch chi’n siŵr o fwynhau dyddiau hir o haf tan i'r haul fachlud yn goch dros y gorwel neu nosweithiau hir tywyll y gaeaf yn syllu ar y sêr yn disgleirio uwch eich pen – adeg ddelfrydol o'r flwyddyn i rannu straeon o amgylch tanllwyth o dân mewn tafarn wledig.