Mwy i’w ddarganfod – treftadaeth a diwylliant cyfoethog Ceredigion
Dewch i ddarganfod treftadaeth a diwylliant cyfoethog Ceredigion – o safleoedd hynafol i leoliadau ffilm a theledu. Mae ein hanes yn llawn straeon difyr am grefydd a gwrthryfel, arloeswyr a dyngarwyr, ac mae gan bob mwynglawdd a melin, pob plas a gardd, hanes i’w adrodd. Dewch i ddarganfod ein trysorfa o chwedlau a llên gwerin sy’n dod â’r dirwedd yn fyw ac yn rhannu ein treftadaeth Geltaidd hynafol. A dewch i fwynhau ein sîn ddiwylliannol gyfoes – ry'ch chi'n siŵr o fwynhau gwledd o gerddoriaeth, comedi a chelf.
Celf, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau
Mae tirwedd, môr, bywyd gwyllt a chymeriadau Ceredigion wedi bod yn ysbrydoli arlunwyr, ffotograffwyr ac awduron lu. Beth am dynnu’ch lluniau’ch hunan, mynd ar gwrs byr, ymweld â stiwdio arlunydd, mynd i gyngerdd neu ymarfer côr, neu dreulio penwythnos i’w gofio yn un o’n gŵyliau niferus?
Bwyd môr Bae Ceredigion. Pysgod afon Teifi. Cig oen, eidion a phorc Mynyddoedd Cambria. Ffrwythau, perlysiau, a bwyd gwyllt diddorol. Dim ond rhai o’r cynhyrchion bwyd a diod sy’n dod o ddŵr a daear Ceredigion. Mae cogyddion Ceredigion wrth eu bodd â’n cynhwysion lleol, a gallwch chithau brynu’r cynhyrchion hyn i gyd yn lleol, yn aml gan y cynhyrchwyr eu hunain.
Gyda’i hinsawdd fwyn a’i phridd asidig, mae Ceredigion yn lle perffaith i arddwyr creadigol. Mae garddwyr a meithrinwyr planhigion Ceredigion yn deall y dirwedd, y tywydd a’r hinsawdd i’r dim. Ac maen nhw wedi llenwi rhai lleoliadau annisgwyl â phlanhigion o bob lliw a llun. Mae pob gardd hefyd yn noddfa i fywyd gwyllt.