Rali Ceredigion 2024 - - cymal ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop

Rali Ceredigion yw un o ddigwyddiadau mwyaf y byd moduro ym Mhrydain gyda cefnogwyr o bob rhan o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth i fwynhau penwythnos cyffrous o ralio. Mae Rali Ceredigion yn gymal ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA sy’n dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd. Bydd gwylwyr yn cael cyfleoedd gwych i archwilio’r ceir, cwrdd â’r gyrwyr a gwylio eu harwyr ar waith dros y penwythnos.


Rali Ceredigion fydd y hiraf a’r mwyaf heriol yn hanes y digwyddiad gyda 14 cymal cystadleuol dros 120 milltir (183 km) o ffyrdd.

Mae’r Rali wedi denu gyrwyr o safon fyd-eang yn y gorffennol fel Hayden Paddon o Seland Newydd a Phencampwr Rali Prydain Cymru, Osian Pryce.

Cymalau'r rali mewn lleoliadau bendigedig 

Bydd digwyddiadau Rali Ceredigion yn dechrau fore Gwener gyda 'shakedown' a rhagbrofion o gwmpas lonydd ardal Cwmerfyn sy'n gosod y drefn ar gyfer y cystadlu. 

Dechreuad swyddogol y Rali yw'r cymal cyffrous o ddau rediad trwy ganol tref Aberystwyth. 

Mae'r prif gymal cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn ar ffyrdd heriol o amgylch Coedwig Brechfa yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys wyth cam gyda phrofion yn cael eu dilyn gan brawf hiraf y dydd - llwybr heriol ond golygfaol yn cychwyn ym Mhowys ac yn mynd ymlaen ar draws tirwedd ysblennydd  Ceredigion o amgylch cronfa ddŵr Llyn Brianne.

Mae Nant y Moch yn un o glasuron Rali Ceredigion erbyn hyn ac yn cael ei rhedeg ar ffordd gul o gwmpas y gronfa ddŵr fydd yn herio'r gyrwyr i'r eithaf. Daw'r noson i ben gyda dau rediad o amgylch canol tref Aberystwyth.

Mae dydd Sul yn cynnig dolen ddwbl o ddau gam gan ddechrau gyda prawf yn ardal Bethania – cymal cefn gwlad anodd gyda chymysgedd o ffyrdd sengl a dwbl. Mae cymal yr Hafod, Pontarfynach yn rhedeg trwy amrywiaeth o dirweddau. Ail rediad cymal yr Hafod yw cymal pŵer yr ERC.

Daw'r penwythnos i ben gyda dathliadau podiwm yn ôl yn Aberystwyth brynhawn Sul.

Ardaloedd gwylio  

Mae cyfle i gwrdd â'r gyrwyr, cael eu llofnodion a chymryd hunluniau yn Sioe'r Rali ar Bromenâd Aberystwyth ar brynhawn Gwener cyn y seremonïau swyddogol. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous ar gyfer y teulu cyfan gydag awyrgylch wefreiddiol. Bydd amrywiaeth o stondinau bwyd yno yn ogystal â sgrin fawr fydd yn dangos y digwyddiad yn fyw.

Mae ardaloedd arbennig wedi eu neilltuo ar gyfer dilynwyr y rali. Mae'r ardaloedd diogel hyn wedi eu dewis yn arbennig am yr olygfa wych maent yn eu cynnig o gymalau mwyaf cyffrous y ralio.

Yn ystod penwythnos y rali mae ardal arddangos Rally Engage yn y maes gwasanaethau rhyngwladol yn Aberystwyth yn gyfle i ddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd, cyfarfod cynhyrchwyr bwyd lleol a chyfleoedd i ddysgu am hyfforddiant a datblygu gyrfa mewn moduro a'r gadwyn gyflenwi.