Mae Ceredigion yn paratoi ar gyfer y Nadolig o ganol Tachwedd pan mae busnesion a chymunedau'n addurno a gosod goleuadau i ddod a lliw a llawenydd i'r strydoedd. Mae ffeiriau a marchnadoedd Nadolig yn cael eu cynnal mewn neuaddau bach a mawr ar draws y sir, lle mae stondinau yn llawn danteithion, planhigion a chrefftau lliwgar wedi eu paratoi gan ddwylo celfydd cynhyrchwyr lleol.
'Polar Express' yn dod i Aberystwyth
Mae'r tren POLAR EXPRESS™ hudolus yn dod i Aerystwyth gyda Rheilffordd Cwm Rheidol a phrofiad theatrig sy'n ail- greu golygfeydd bythgofiadwy o'r ffilm Nadoligaidd enwog. Bydd pawb yn derbyn tocyn euriadd, diod siocled twym gyda bisged, yn union fel yn y ffilm! Os dymunwch gallwch wisgo lan yn eich pyjamas a'ch dressing-gown. Fel mae'r trên yn gadael platfform gorsaf Rheilffordd Cwm Rheidol yn Aberystwyth byddwch yn clywed caneuon cyfarwydd o'r ffilm yn cael eu perfformio gan ddawnswyr-gogyddion y Polar Express ac efallai gan ay Conductor ei hun! Mae'n bosib bydd Sion Corn yn teithio ar y trên hefyd.
Mae'r profiad ar y trên yn para' tua awr, gyda'r trên yn teithio i orsaf Capel Bangor (nid Pontarfynach), ond gwnewch yn siwr eich bod yn neilltuo digon o amser i fwynhau'r holl brofiad - o leiaf awr a hanner - gan y bydd canu, dawnsio a chyfarfod a chymeriadau diddorol yng ngorsaf Rheilffordd Cwm Rheidol yn Aberystwyth ac ar y trên hefyd.
Nodwch mai dim ond ar lein mae posib archebu tocynnau, ac nid swyddfa docynnau Rheilffordd Cwm Rheidol.
Nadolig rhyfeddol yn y Silver Mountain Experience
Bwciwch amser i ddod i weld gweithdy prysur yr elffod cyn mynd i gyfarfod a Sion Corn yn ei grotto yn y Silver Mountain Experience yn Llywernog lle mae digon i ddiddanu plant ac oedolion fel ei gilydd. gallwch ddilyn trywydd trysor Rwdolff a Patches y ceirw, ymweld a'r tŷ bara sinsir, addurno bisgedi Nadoligaidd ac archwilio cartref tanddaearol y cymeriad crintachlyd The Grinch - allwch chi feddalu ei galon?
Bydd Santa ei hun yn galw i daro golwg dros waith yr elffod ac i gyfarfod â phlant yn ei grotto. Yn ogystal a'r cyfle i gyfarfod a'r dyn ei hun, mae anrheg yn cael ei gyflwyno i bob plentyn.
Yn ogystal â gweithdy'r elffod a grotto Sion Corn, mae llawr o weithgareddau eraill yn gynwysiedig yn y tocyn mynediad.
Yn y caffi, gweinir danateithion Nadoligaidd o flaen tanllwyth mawr o dân ac mae'r siop yn llawn anrhegion bach diddorol i lenwi'r hosan Nadolig.
Cyrhaeddwch yn gynnar er mwyn gwneud y gorau o'ch amser yn y Silver Mountain Experience a'i holl atyniadau. Dilynwch y linc yn y rhestr er mwyn archebu eich amser arbennig gyda Sion Corn.
Gwyl y Golau, Aberteifi
Gwyl Nadolig Aberystwyth
Ble mae Siôn Corn ?
Bydd Siôn Corn yn ymweld â threfi, siopau a sawl lleoliad lleoliad arall yng Ngheredigion cyn y Nadolig i gwrdd â phlant Ceredigion. Gwelwch y rhestr ffeiriau i weld ble a phryd bydd yn ymweld.
Bwciwch amser i weld gweithdy'r tylwyth teg ac ogof Sion Corn yn atyniad Silver Mountain Experience yn Llywernog. Mae gweithgareddau di ri i'ch diddanu yno. Bydd Sion Corn yn treulio sawl diwrnod yn yr atyniad lle gallwch archwilio gweithdy a chwrdd â Siôn Corn yn ei Groto!
Fe wyddom mai mewn car llusg mae Siôn Corn yn arfer teithio ond gallwch chi deithio ar y tren gyda Rheilffordd Dyffryn Teifi i gyrraedd Groto Siôn Corn yn nyffryn Teifi. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw, gan fod y gweithdy a Groto Siôn Corn yn lefydd prysur iawn.
Perfformiadau clasurol y Nadolig a hwyl a sbri pantomeim
Ni fyddai'n Nadolig heb gyfle i ymweliad â'r theatr!
Mae Theatr Mwldan yn Aberteifi yn cynnig arlwy gyfoethog o berfformiadau theatr, cyngherddau a phanto blynyddol gan Theatr Aberteifi.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn gartref i gerddorfa symffoni Aberystwyth, Philomusica sy'n cynnal cyngerdd ym mis Rhagfyr ac mae cantorion unigol yn dod â hud i dymor y Nadolig hefyd gan gynnwys y seren deledu Wynne Evans.
Bob blwyddyn mae disgwyl mawr am gabaret Nadolig Cabarela yn ogystal â’r cyngerdd elusennol blynyddol gan Sgarmes, côr cymysg poblogaidd Aberystwyth.
Cyngerdd arall sy'n rhan bwysig o arlwy'r Nadolig yw pan ddaw Cymry’r West End i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae cwmni actorion o' gymuned Theatr Felinfach wedi bod yn perfformio pantomeim gwreiddiol bron bob blwyddyn ers dros hanner can mlynedd. Mae hwyl a sbri go iawn wrth i giamocs pantomeim ddiddanu tra'n tynnu sylw at straeon a helyntion lleol.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cyflwyno cynyrchiadau theatr drwy gydol y flwyddyn, gyda perfformiadau theatr gan grwpiau cymunedol a chwmniau teithiol proffesiynol.
Hefyd, mae Theatr Mwldan a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth yn lleoliadau lle gallwch fwynhau darllediadau o berfformiadau o theatrau enwocaf y byd gan gynnwys balé ac opera o Dŷ Opera Brenhinol Llundain a'r Met yn Efrog Newydd.
Carolau a cherddoriaeth Nadolig
Mae croeso i bawb ymuno yng ngwasanaethau Nadolig eglwysi a chapeli Ceredigion. Un o'r lleoliadau mwyaf deniadol i brofi gwasanaeth yng ngolau cannwyll ar noswyl Nadolig yw Eglwys y Grog, Mwnt, a bydd awyrgylch arbennig yng ngwasanaeth golau cannwyll Ystrad Fflur.
Cewch gyfle i ymweld â chapel hanesyddol Hen Gapel, Llwynrhydowen lle cynhelir plygain yng ngolau cannwyll ar noswyl Nadolig gan gymuned Undodaidd dyffryn Teifi.
Mae eglwysi urddasol Tysul Sant, Llandysul, ac eglwys Padarn Sant, Llanbadarn Fawr yn leoliadau hanesyddol eraill i fwynhau gwasanaeth carolau. Cynhelir oedfa Nadolig yng nghapel hardd campws Llambed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd.
Mae eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth yn dechrau Rhagfyr gyda 'trywydd y stabl', a dilynir hyn bob Sul tan y Nadolig gan wasanaethau carolau hwyliog.
Yn draddodiadol, 'does dim rhaglen a 'does neb yn arwain gwasanaeth Plygain, gan fod unawdwyr, grwpiau a hyd yn oed ambell i gor yn cymeryd eu tro i ganu carolau traddodiadol. Mae'r canu i gyd yn ddi-gyfeiliant ac ni chaiff yr un ei ail adrodd. Mae'r traddodiad unigryw yma yn fyw ac iach yng eglwys Ioan Fedyddiwr, Penrhyncoch, ger Aberystwyth, ac yn brofiad bythgofiadwy.
Un o'r lleoliadau mwayf annisgwyl lle cynhelir gwasanaeth carolau bob Noswyl Nadolig yw'r capel a grewyd gan garcharorion rhyfel o'r Eidal. Mae'r capel wedi ei addurno o ddenyddiau bob dydd, ond yn edrych fel capel bychan yn yr Eidal. Rhaid bwcio a thalu o flaen llaw i fynychu'r digwyddiad.
Ffeiriau a marchnadoedd Nadolig
Dewch ar draws ffeiriau Nadolig bron ym mhob neuadd bentref rhywbryd rhwng canol Tachwedd a'r Nadolig.
Llanerchaeron yw lleoliad hyfryd ffair Nadolig dros benwythnos cyntaf mis Rhagfyr. Bydd y stondinau yno'n llawn anrhegion, bwyd ac addurniadau Nadolig deniadol.
Castell Aberteifi yw lleoliad hudolus Ffair Nadolig y dref, gyda dros 40 o stondinau i'w darganfod yn y pafilwn a thŷ'r castell. Cofiwch fynd i weld Sion Corn gyda'r plant, neu fwynhau gwydriaid o win Nadolig twym.
Bydd siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agor yn hwyr ar noson y Ffair Nadolig yno, a gerllaw yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth mae dros 50 o stondinau yn llawn cynnyrch bwyd, crefftau ac anrhegion drwy gydol Rhagfyr. Mae'r arddangosfa ar agor bob dydd, ac ychydig yn hwyrach yn ystod yr wythnos.
Bwyd a diod Nadolig da o Geredigion
Mae Ceredigion yn haeddiannol falch o'r cynnyrch lleol sydd ar gael mewn siopau ac erbyn hyn gael tu hwnt i'r sir ar-lein hefyd. Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth a Marchnad Ffermwyr Llandudoch yn cael eu cydnabod ymysg y goreuon yn y DU, gyda stondinau’n cynnig danteithion blasus – cynnyrch traddodiadol a danteithion wedi’u dylanwadu gan dreftadaeth diwylliannau eraill.
Cynhelir Marchnad yr Hen Dref yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ar y penwythnosau sy'n arwain at y Nadolig.
Mae gan drefi Ceredigion gigyddion a phoptai teuluol o’r safon uchaf, ac mae ein danteithion melys a’n diodydd yn cael eu dosbarthu i’r siopau gorau ledled y wlad.
Nid yn unig ar y stryd fawr cewch gynnig arbennig o gynnyrch lleol ar werth, ond mewn siopau fferm a delis fel Bargoed Farm, yn Llwyncelyn, Cherry Picked yn Sarnau, Riverside yn Nhregaron a siop gymunedol Cletwr yn Nhre'r Ddol.
Siopau ar
Coed, torchau ac addurniadau Nadolig
Caru arogl coeden Nadolig go iawn?
Gallwch archebu addurniadau naturiol a choeden Nadolig wedi ei thyfu ym Mynyddoedd Cambrian Ceredigion neu lethrau dyffryn y Teifi yn uniongyrchol gan y tyfwyr eu hunain. Mae dewis o fath a maint o goed.
Deunyddiau naturiol a chynaladwy sy'n cael eu defnyddio i greu torchau ac addurniadau Nadolig mewn gweithdai yn Llanerchaeron, ac yng nghanolfan ardd The Flower Meadow ger Llandysul, lle gallwch greu torch ar un penwythnos ac addurn ar gyfer y bwrdd cinio Nadolig ar benwythnos arall. Yng nghanolfan ymwelwyr gwarchodfa'r RSPB Ynyshir gallwch ddysgu sut i greu torch fach wedi ei chrosio, neu greu torch helyg, neu os dymunwch, gallwch fynychu'r ddau weithdy. Yn gynwysiedig yn y pris, gallwch fwynhau cinio Nadolig os trefnwch i fynychu gweithdy creu torchau Nadolig Plas Nanteos.