Y Llwybr Cerdd
Mae’r Llwybr Cerdd yn ymestyn ar draws tref Aberteifi gyda dros 80 o setiau byw yn cael eu perfformio gan rai o dalentau newydd disgleiriaf Cymru ac Iwerddon.
Cyflwynir cerddoriaeth o bob math, gan gynnwys popeth o hip-hop, grime ac electronica i ôl-bync, traddodiadol a gwerin a phopeth yn y canol yn Lleisiau Eraill Aberteifi eleni.
Bydd band garddwn penwythnos Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi mynediad i bob sioe ar y Llwybr Cerdd drwy'r penwythnos, ar sail y cyntaf i'r felin!
Rhoddir nifer cyfyngedig o 'docynnau aur' ar gyfer sesiynau arbennig yn Eglwys y Santes Fair lle mae perfformiadau'n cael eu recordio ar gyfer y teledu a ffrydiau Other Voices rhyngwladol. Ni ellir prynu'r tocynnau hyn ond bydd prynu band garddwn y Llwybr Cerdd yn eich cynnwys yn awtomatig yn y raffl i ennill tocyn awr.
Clebran - sgyrsiau eangfrydig a diddorol
Mae’r sesiynau Clebran yn ystod Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi yn cyfuno syniadau, straeon, trafodaeth a pherfformiad. Daw siaradwyr, meddylwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid o Gymru ac Iwerddon ynghyd i ystyried pynciau a materion trwy drafod cymuned, cyfunoliaeth, traddodiadau a defod.
Mae thema digwyddiad eleni, Ar y Groesffordd, Where Spirits Gather, yn cychwyn gyda seremoni dderwyddol yn nodi Nos Calan Gaeaf/Samhain. Mae’r rhaglen eangfrydig yn cynnwys trafodaethau am weithrediadau pêl-droed y tu hwnt i’r cae, hanes ffermio ac arwyddocâd gwreiddiau mewn byd sy’n newid yn barhaus, ac amlygrwydd hyrwyddo cerddoriaeth ddu yng Nghymru ac Iwerddon.
Yn Newydd i Leisiau Eraill Aberteifi 2024 fydd ‘Clebran ar y Trywydd’ – cyfres o sgyrsiau ysbrydoledig gyda cherddorion ar draws y dref, yn archwilio’r pethau sy’n tanio eu creadigrwydd.