Gwybodaeth ymarferol i'ch cynorthwyo i gynllunio eich ymweliad
Rydym wrth ein bodd i estyn croeso i ffrindiau hen a newydd i’n cymuned ni yma yng Ngheredigion. Fel ymwelwyr rydych chithau’n rhan o’r gymuned hon nawr. Hydewrwn y cewch fwynhad o'ch ymweliad ag un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru lle cewch groeso twymgalon. Mae Ceredigion yn amcanu i fod yn gyrchfan ymwelwyr groesawgar, gyfrifol a chynaliadwy. Gwnewn bob ymdrech i wneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae cynllunio o flaen llaw yn ffordd o sicrhau y cewch y gorau o'ch ymweliad. Dilynwch y linciau ar y wefan am fwy o wybodaeth a cysylltwch gyda'r Canolfannau Croeso i holi am wybodaeth leol.
I gael diwrnod diogel a hwyliog ar arfordir Ceredigion, cofiwch edrych ar y tablau llanw cyn mynd. y llanw os ydych am ymweld â'r arfordir. Os am gerdded llwybr yr arfordir, gallwch groesi rhai traethau ar lanw isel. Cadwch lygad ar y llanw os ydych yn bwriadu mynd i bysgota, i hwylio, i syrffio, neu i chwilota mewn pyllau glan môr.
Edrychwch beth yw rhagolygon y tywydd hefyd, a byddwch yn barod am dywydd cyfnewidiol.
Mae un peth yn sicr: bydd eich siwrnai i Geredigion yn bleser ac yn antur. Sut bynnag fyddwch chi’n teithio – ar droed, ar feic, ar fws, ar drên, neu mewn car – fe gewch chi wledd i’r llygaid. O’r de neu’r gogledd, gallwch ddilyn Ffordd yr Arfordir sy’n mynd o naill ben Bae Ceredigion i’r llall. O’r dwyrain, cewch groesi Mynyddoedd Cambria wrth i chi adael Ffordd Cambria a theithio tua’r gorllewin.
Mae llety yn ail-agor yn raddol yng Nghymru, ond ar wedd wahanol.
Cysylltwch a'ch hoff lety'n uniongyrchol i wneud yn siwr eu bod yn gallu eich croesawu, neu defnyddiwch wasanaeth asiant llety lleol, fydd yn adnabod yr ardal a'r llety'n dda. Os defnyddiwch wasanaeth un o'r asiantaethau prydeinig neu ryngwladol, gwewch yr ymdrech i gysylltu gyda'r llety i gael manylion lleol.
Chwiliwch hefyd am y label 'Barod Amdani' /'Good to Go'
Tripiau tywys a mewn tren a bws
Gallwch ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog, heb orfod cadw eich llygad ar y ffordd mewn bws neu ar drên. Bydd trenau Lein y Cambrian yn dod â chi bob cam i Aberystwyth.
Neu beth am gael rhywyn arall i wneud y gyrru. Mae tywysyddion lleol Ceredigion yn cynnig dewis o dripiau diddorol.
Am syniadau ar gyfer cerdded a beicio ewch i'r adran Antur a Gweithgareddau Awyr Agored
Fel arfer mae rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i’ch diddanu ar draws Ceredigion. Ry’n ni’r Cardis wastad yn barod i gael hwyl, gan ddathlu popeth o’n ceffylau cynhenid i’r cerddorion mwyaf cyfoes. Mae bwyd da a cherddoriaeth dda yn rhan annatod o’n bywyd – ac mae bob amser digon i bawb. ewch i wylio, i fwynhau, i gymryd rhan - pan ddaw'r amser y cawn ddod ynghyd unwaith eto.
Yn y cyfamser, gallwch ddarganfod nifer o ddoniau Ceredigion ar lein.