Aberystwyth: Traeth y Gogledd a Glan y Môr
Ger Traeth y Gogledd, Glan y Môr yw rhan brysuraf y prom, gyda’i res o westai ac adeiladau o oes y Sioriaid a’r Fictoriaid. Yno hefyd fe welwch chi'r pier a’r bandstand. Dafliad carreg o’r dref, mae’r traeth o raean a thywod tywyll yn lle delfrydol i ymlacio a chael oriau o hwyl ar lan y môr.
Bob hyn a hyn, bydd cyfres o grwynau'n hollti’r traeth gan roi cysgod rhag y gwynt. Gerllaw’r bandstand, efallai cewch chi gyfle i weld ein clwb achubwyr bywyd yn ymarfer ar y traeth ac yn y dŵr.
Gyda'r hwyr, ymunwch â’r trigolion lleol i fynd am dro ar hyd y prom a gwylio’r haul yn suddo i’r môr ar y gorwel. Dros fisoedd y gaeaf, dewch i weld heidiau o ddrudwy’n gwau patrymau yn yr awyr wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r pier i glwydo dros nos.
Gallwch chi gyrraedd y traeth o’r llithrfa goncrid neu ddefnyddio’r grisiau tua phen gogleddol y traeth.
Ar ben draw’r traeth, islaw clogwyni Craig Glais, fe welwch chi greigiau mawr sy’n amddiffyn wal y môr a’r prom, a thraeth bach o raean mân. Bydd trigolion a myfyrwyr Aberystwyth yn rhoi cic i’r bar metel sy’n nodi diwedd y prom. Ymunwch â nhw i gadw traddodiad 'cicio'r bar' yn fyw.
I fwynhau adloniant o bob math, cadwch lygad am raglen o ddigwyddiadau yn y bandstand. Fe gewch chi hefyd ddigon o gyfle i fwynhau gweithgareddau glan môr traddodiadol: reid ar gefn asyn, arcêd ddifyrion y pier Fictorianaidd, heb anghofio pysgod a sglodion, a hufen iâ.
Mae’r prom yn lle poblogaidd i gerdded ac i loncian, yn enwedig yn y bore a gyda’r hwyr. Mae hefyd yn lle gwych i dynnu llun cofiadwy o’r machlud drwy’r flwyddyn, neu lun o’r drudwy’n troi a throelli tua'r pier o ddiwedd yr hydref tan ddechrau’r gwanwyn.
Aberystwyth: Traeth y De a’r harbwr
Mae Traeth y De ychydig yn dawelach na Thraeth y Gogledd, ac fe gewch chi lolian yn llygad yr haul o fore gwyn tan nos. Yno, mae’r traeth tywod a graean mân yn llydan ac yn disgyn yn raddol tua’r môr. Mae wedi ennill Gwobr Glan Môr ac mae achubwyr bywyd yn cadw llygad arno dros fisoedd yr haf.
Ar ben deheuol y traeth, fe welwch chi syrffwyr profiadol yn reidio’r tonnau. Mae hefyd yn lle gwych i weld dolffiniaid a llamhidyddion.
Gallwch chi gyrraedd y traeth ar hyd llithrfa goncrid gyferbyn â diwedd Y Ro Fawr, neu ddefnyddio’r grisiau rhwng y llithrfa a thrwyn y castell. Mae dwy set arall o risiau rhwng y llithrfa a’r morglawdd ar ben deheuol y traeth.