Aberystwyth: canolbwynt y Canolbarth ers cyn cof
Os edrychwch chi ar yr adeiladau ar hyd strydoedd a glan môr Aberystwyth, fe welwch chi lawer o nodweddion pensaernïaeth oes y Sioriaid a’r Fictoriaid o hyd: ffenestri crog, drysau colofnog, ac ystafelloedd cyfforddus. Ond, os edrychwch chi’n agosach ar batrwm ac enwau rhai o’r strydoedd, fe welwch chi fod y dref yn llawer hŷn na hyn.
I weld yr anheddiad cynharaf Aberystwyth ewch am dro i ben bryngaer Pen Dinas ar gyrion y dre. Cewch Mae golygfa anhygoel o'r dref ac o Fae Ceredigion yn ei gyfanrwydd. Yna ymlwybrwch o gwmpas adfeilion y castell canoloesol - fe sylweddolwch ei fod yn llawer mwy nag ymddengys ar yr olwg gyntaf, ac wedi ei leoli i reoli masnach yr arfordir.
Cyfnod Oes Fictoria ddaeth a'r newid mwyaf, gyda dyfodiad y rheilffordd yn rhoi hwb i ddiwydiant twristiaeth y dref. Ar yr un diwrnod yr agorodd yr orsaf drenau, agorodd atyniad newydd sbon - y Pier 'Brenhinol' - a hwnnw'r un cyntaf yng Nghymru. Roedd y rhodfa wreiddiol bron gymaint ddwywaith (800 troedfedd, tua 248 medr) ei hyd heddiw, cyn i stormydd mawr ei ddifrodi. Yn ei sgil, datblygodd y promenad, ynghyd a gwestai, stafelloedd ymgynull, neuadd gyngherddau, theatr, bandstand a pwll nofio heli.
A sôn am reilffordd, beth am fynd ar daith ar drên stêm o Aberystwyth i Bontarfynach i weld tirwedd a rhaeadrau trawiadol dyffryn Rheidol? Ar ôl pasio Deddf Seneddol yn 1897, fe agorodd Rheilffordd Cwm Rheidol yn 1902. Fe adeiladwyd y trenau a’r cerbydau gan reilffordd y Great Western. Heddiw, gallwch chi fynd ar deithiau arbennig, a mwynhau bwyd a cherddoriaeth fyw ar y daith. Cadwch lygad hefyd am deithiau thematig adeg Calan Gaeaf a’r Nadolig.
Panorama o'r Prom a golygfa o Graig Glais
I gael golygfa wych o’r dref, beth am gerdded i ben Craig Glais gan ddilyn ôl troed ymwelwyr oes Fictoria a fyddai’n heidio i’r dref i gael awyr iach ar lan y môr? Os yw dringo'r llethr braidd yn ormod, beth am deithio'n hamddenol i ben Craig Glais ar Reilffordd y Clogwyn? Agorodd y rheilfordd yn 1896, a tan yn ddiweddar iawn, dyma'r rheilffordd hiraf o'i math yn y byd. Ar gopa Craig Glais mae'r golygfeydd yn ymestyn ar draws Bae Ceredigion, o benryn Llŷn i ogledd Penfro. Ar ddiwrnodau heulog gallwch weld y golygfeydd drwy lygad y Camera Obscura - un o atyniadau gwreiddiol Oes Fictoria.
Mae Aberystwyth yn enwog am ei machlud, stormydd y gaeaf a'i tonnau tymhestlog, a'r olygfa drawiadol o'r drudwy yn heidio. Dyma'r aderyn ddaeth â neges Branwen o Iwerddon at ei brawd, Bendigeidfran. Enw arall arnynt yw adar yr eira, a rhwng misoedd yr hydref a'r gwanwyn, fe'u gwelwch yn hedfan mewn patrymau hudolus dros y dre a'r môr cyn clwydo a distewi ar ddistiau haearn y pier fel mae'r haul yn machlud.
Aberystwyth: cadarnle diwylliant Cymru
Ar y bryn uwchlaw’r dref, mae’r adeilad mawr crand sy’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn bwrw golwg dros y dref. Mae dros bum miliwn o lyfrau ar ei silffoedd, ond nid llyfrgell gyffredin mo hon. Chewch chi ddim benthyg llyfr, ond fe gewch chi lawer mwy na hynny. Fe gewch chi ddarganfod diwylliant Cymru drwy ffilm, sain, celf, mapiau, llawysgrifau, a llyfrau. Bydd y cyfan yn dod yn fyw drwy arddangosfeydd, sgyrsiau, cyngherddau, a theithiau tu ôl i’r llen. Os hoffech chi wybod mwy am eich cyndeidiau, fe allwch chi hefyd fynd yno i olrhain hanes eich teulu.
Mae safle’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gartref i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Does dim dwywaith bod ganddi un o olygfeydd gorau Aberystwyth!
Ychydig ymhellach i fyny'r bryn, fe gewch chi hyd i Ganolfan y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Ganolfan yn croesawu perfformwyr ac arlunwyr o safon byd i’w llwyfannau, ei horielau, a’i stiwdios. Mae yno orielau, theatr, sinema a neuadd gyngerdd, yn ogystal â stiwdios arlunwyr, siop lyfrau, siop anrhegion, a chaffi. Fe gewch chi groeso cynnes yn y Ganolfan brysur hon, a bydd y golygfeydd o’r caffi yn siŵr o’ch swyno. Peidiwch â cholli’r cyfle i wylio’r haul yn machlud dros y môr.
Dafliad carreg o ganol y dref, mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth yn gartref i gasgliad o gelf gain a chelf addurniadol sy’n estyn o’r 15fed i’r 21ain ganrif. Mae’n cynnal arddangosfeydd rheolaidd ac yn arddangos gwaith ei graddedigion.
Aberystwyth: y porth i dreftadaeth Ceredigion
Mae treftadaeth ddiwylliannol a llên gwerin Ceredigion yn gyfoethog. Mae Archifdy Ceredigion, sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell y Dref, yn drysorfa o wybodaeth am blastai ac ystadau mawr y sir, fel yr Hafod, Nanteos a Thrawsgoed, heb sôn am drigolion cyffredin – ac anghyffredin – y sir. Ewch yno a gofynnwch am gopi o ganllaw i Geredigion sy’n dyddio o’r 1930au. Byddwch chi’n synnu o weld nad oes llawer wedi newid!
Gerllaw, mae Amgueddfa Ceredigion a Chanolfan Croeso Aberystwyth yn lle gwych i ddechrau darganfod Ceredigion ddoe a heddiw. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad gwych o ddodrefn, gwisgoedd ac arteffactau traddodiadol sy’n darlunio bywyd domestig a masnachol yr oes a fu. Mae hefyd yn trefnu rhaglen fywiog o arddangosfeydd, cyngherddau a gweithgareddau.