Aberaeron

Tref fach dlws, fel darlun cerdyn post, gydag adeiladau lliwgar, harbwr hamddenol,  'Slawer dydd, roedd yn borthladd pysgota a masnachu prysur, o lle hwyliodd rhai o deuluoedd Ceredigion i chwilio am fywyd newydd yn America. Erbyn heddiw, gyda'i rhaglen brysur o ddigwyddiadau bob haf, Aberaeron yw un o drefi mwyaf poblogaidd Ceredigion.


Aberaeron: campwaith pensaernïol 

Mae Aberaeron yn enghraifft brin o dref a gynlluniwyd o’r dechrau’n deg, gyda’r tai a’r adeiladau masnachol wedi’u gosod mewn llinellau hardd o amgylch yr harbwr a’r sgwâr. Fe gafodd y dref a’r harbwr eu datblygu ar ddechrau’r 1800au gan entrepreneur lleol, y Parchedig Alban Jones-Gwynne, a oedd wedi cael Deddf Seneddol i ddatblygu un o drefi cynlluniedig cyntaf Cymru.

aerial

Fe gynlluniwyd y tai yn yr arddull Sioraidd, ac wedi eu peintio’n lliwiau amrywiol gyda phatrwm rendr gwyn ar yr ymylon, tebyg i ymyl stamp. Fel mae'n digwydd, fe ymddangosodd yr adeiladau hyn ar y stamp ceiniog mewn cyfres i ddathlu pensaernïaeth wledig Prydain.

Does ryfedd i’r dref gael ei dewis yn ‘Lle Gorau Cymru’ gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.

Aberaeron: lle sy’n tynnu dŵr i’r dannedd

Heb os, mae Aberaeron yn dipyn o ffefryn ymhlith rhai sy’n chwilio am fwyd da. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yw Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion sy’n cael ei chynnal bob mis Gorffennaf ar y cei ac yn rhai o gaffis, bistros a bwytai poblogaidd y dref. Mae hwn yn gyfle penigamp i flasu bwyd môr a chynnyrch lleol wedi'i baratoi gan gogyddion lleol a chogyddion adnabyddus.

Boed law neu hindda, haf neu aeaf, bydd ymwelwyr a thrigolion lleol, fel ei gilydd, yn heidio i’r cei i fwynhau pysgod a sglodion blasus, a hufen iâ mêl.

Aberaeron: lawr ar lan y môr

Mae’r harbwr, lle mae afon Aeron yn llifo i Fae Ceredigion, yn hollti glan môr a thraeth Aberaeron yn ddau.

Mae cymeriad prif harbwr Aberaeron yn newid gyda’r llanw, gyda phob diferyn yn diflannu pan fydd y llanw ar drai. Mae hefyd yn newid o dymor i dymor, gyda thonnau mawr yr Iwerydd yn rholio ar hyd wal yr harbwr yn y gaeaf, a phobl yn eistedd ar ymyl y cei yn gwylio’r haul yn machlud yn fendigedig yn yr haf. Tybed oeddech chi’n gwybod mai Pwll Cam yw enw’r harbwr mewnol cysgodol?

Mae’n bosib bod olion hen Gastell Cadwgan yn dal i lechu dan y tywod a’r cerrig i’r gogledd o’r harbwr, ond fe gafodd ei strwythur pren ei hawlio gan y môr amser maith yn ôl. Erbyn heddiw, mae’r amddiffynfa fôr fodern ar hyd y rhan hon o lan môr Aberaeron yn darparu llwybr hygyrch rhwng yr harbwr, y meysydd parcio, a’r caeau chwarae.

Pan oedd porthladd Aberaeron yn ei anterth, fe fu morwyr Aberaeron yn teithio i bedwar ban byd. Mae enwau rhai o’r tai yn cofnodi’r hanes hwn, gyda Bari, Gambia a Lima wedi’u henwi ar ôl llefydd yn ne Ewrop, gorllewin Affrica a De America. Beth am ddilyn llwybr y dref i weld yr arwydd ar ochr ddeheuol yr harbwr sy’n rhestru’r llongau a gofrestrwyd yn Aberaeron?

Ar lan afon Aeron

Mae afon Aeron yn cyrraedd yr harbwr drwy gyfres o goredau. Yn y gwanwyn, fe allwch chi fynd am dro ar hyd yr afon i weld carped o glychau’r gog yng nghoedwig Panteg. Cofiwch gadw llygad am fywyd gwyllt, gan gynnwys pysgod yn y dŵr clir a chrehyrod yn aros yn amyneddgar i’w dal ar lan yr afon. Wrth i chi ddychwelyd i ganol y dref, fe allwch chi gerdded drwy’r parc a heibio i’r clwb tenis a’r Neuadd Goffa i’r Cae Sgwâr, y sgwâr yng nghanol y dref lle bydd pawb yn ymgynnull i fwynhau digwyddiadau blynyddol y dref.

Fe allech chi hefyd barhau i gerdded neu i feicio ar hyd yr afon i Lanerchaeron, ystad fonedd gyda hanes hir a diddorol sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Fe gafodd y plasdy ei gynllunio yn y 1790au gan John Nash, pensaer Stryd Regent a Pharc Regent yn Llundain. Llanerchaeron yw’r enghraifft fwyaf cyflawn o'i waith cynnar.

Am dair canrif a hanner a mwy, fe fu deg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes yn byw yn Llanerchaeron. Dyw’r ystad hunangynhaliol ddim wedi newid ers dros ddwy ganrif, ac mae’n cynnwys fferm, gerddi muriog, a llyn. Yno, fe gewch chi flas ar fywyd y bonedd drwy ymweld â’r plasdy, a bywyd y werin drwy ymweld â’r iard gwasanaethau sy’n cynnwys llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu.

 

Mae Aberaeron yn lle poblogaidd i stopio wrth deithio ar hyd yr arfordir rhwng y de a'r gogledd. Mae hefyd yn fan cychwyn perffaith i’r rheini sydd am droi tua’r wlad a theithio drwy ddyffryn coediog afon Aeron i Lambed, Tregaron a Mynyddoedd Cambria.