Pentref a thraethau Borth ac Ynyslas
Bron i dair milltir o dywod euraid. Dŵr bas. Baner Las a Gwobr Glan Môr. Does ryfedd mai’r Borth yw un o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion ymhlith teuluoedd. Mae digonedd o le i redwyr, syrffwyr a barcudfyrddwyr ar draeth cyfagos Ynys-las hefyd.
Clarach a Wallog
Traeth cysgodol Clarach yw un o draethau pentref gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion. O Glarach, fe allwch chi gerdded i Aberystwyth dros Graig Glais neu i draeth anghysbell Wallog i weld Sarn Gynfelyn, un o sarnau colledig Cantre’r Gwaelod yn ôl yr hanes.
Traethau Aberystwyth
Glan y môr yw calon Aberystwyth, a bydd ymwelwyr a thrigolion lleol, fel ei gilydd, wrth eu bodd yn mynd am dro ar hyd y prom sy’n cysylltu traethau’r de a’r gogledd, y naill ochr a’r llall i bentir y castell.
Aberystwyth
Peidiwch â gadael i’w ffordd o fyw hamddenol a’i lleoliad ar arfordir y gorllewin eich twyllo. Mae Aberystwyth yn dref brifysgol â gorwelion eang sy’n fwrlwm o ddiwylliant a syniadau. I ddarganfod ei threftadaeth gyfoethog, ewch i ymweld ag amgueddfeydd, archifdai ac orielau’r dref. Tybed allwch chi gyfrif sawl gwaith byddwch chi’n dod ar draws termau fel ‘y cyntaf’, ‘yr hynaf’, ‘yr hiraf’, ‘y gorau’…?
Mae Aberystwyth yn lle delfrydol i aros er mwyn darganfod arfordir Bae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Glannau Llanrhystud, Llannon, Aber-arth ac Aberaeron
I’r de o Aberystwyth mae’r arfordir yn wyllt, a rhwng Llanrhystud ac Aberaeron mae traethau caregog, ond tywodlyd pan mae'r llanw ar drai, a chreigiau wedi’u llyfnhau gan donnau’r môr. Mae'n boblogaidd gyda syrffwyr profiadol lleol ac mae hanes diddorol i’w ddarganfod ar hyd y glannau hyn hefyd.
Aberaeron
Tref fach dlws, fel darlun cerdyn post, gydag adeiladau lliwgar, harbwr hamddenol, 'Slawer dydd, roedd yn borthladd pysgota a masnachu prysur, o lle hwyliodd rhai o deuluoedd Ceredigion i chwilio am fywyd newydd yn America. Erbyn heddiw, gyda'i rhaglen brysur o ddigwyddiadau bob haf, Aberaeron yw un o drefi mwyaf poblogaidd Ceredigion.
Traethau a phentref y Cei Newydd
Mae tri thraeth braf yng Nghei Newydd – Traeth yr Harbwr, Traeth y Dolau, a Thraeth Gwyn. Traeth yr Harbwr, gyda’i dywod euraid gwych, yw’r prif draeth. Mae’n swatio islaw’r pentref, ac mae wal yr harbwr yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd y môr. Gyda Baner Las, dŵr glân clir, ardal nofio ddiogel, a thywod mân meddal, mae Traeth yr Harbwr yn ffefryn ymhlith teuluoedd, ac yn lle delfrydol i folaheulo ac i godi cestyll tywod.
Pentref a thraethau Llangrannog
Llangrannog yw un o bentrefi glan môr mwyaf poblogaidd Ceredigion, ac mae'n denu teuluoedd a syrffwyr fel ei gilydd. Mae Carreg Bica, y graig sy’n ymwthio fel dant o’r tywod, yn gwahanu’r ddau draeth.
Gerllaw mae gwersyll a chanolfan gweithgareddau'r Urdd.
Penbryn
Mae traeth Penbryn, gyda’i dywod mân euraidd, yn swatio dan lethrau coediog. Yno, fe allwch chi chwilota mewn pyllau glan môr ac ogof smyglwyr. Mae hefyd yn lle hyfryd i syllu ar y sêr liw nos.
Pentref a thraeth Tresaith
Beth sydd i’w weled yn Nhre-saith? Dyna un o gwestiynau Cynan yn ei gerdd fawl i’r pentref. Wel, heddiw, fe welwch chi draeth o dywod euraid braf, Baner Las yn cyhwfan yn yr awel, pobl yn syrffio ac yn hwylio yn y tonnau, a phlant yn chwilota mewn pyllau glan môr. Mae enw’r pentref yn tarddu o chwedl Geltaidd, ac mae nofel boblogaidd wedi’i lleoli yno hefyd.
Pentrf a thraeth Aberporth
Islaw’r pentref prydferth hwn, mae penrhyn bach yn gwahanu’r traeth euraid braf yn ddau: Traeth Dolwen ar y naill law a Thraeth y Dyffryn ar y llall. Gyda theuluoedd yn heidio yno, mae’n lle poblogaidd i adeiladu cestyll tywod, creu celf tywod, a chwilota mewn pyllau glan môr.
Traeth Mwnt
Llecyn delfrydol ar arfordir Ceredigion yw’r Mwnt. O ben Foel y Mwnt, uwchlaw’r traeth euraid cysgodol, fe gewch chi olygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. I gyrraedd y traeth ei hun, rhaid i chi gerdded i lawr rhes o risiau wrth ymyl y nant.
Aberteifi - tref harbwr hanesyddol ar lannau'r Teifi
Aberteifi yw’r porth hanesyddol i Geredigion o’r de-orllewin. Yn y 18fed ganrif, roedd yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu arhyd arfordir Cymru ac Iwerddon ac draws yr Iwerydd.