Ardaloedd Ceredigion: Darganfod tirweddau a chymunedau Ceredigion
Bae Ceredigion - bae mwyaf Cymru
Bae Ceredigion yw bae mwyaf Cymru. Mae’n estyn yr holl ffordd o ynysoedd arfordir Penfro i Enlli a phenrhyn Llŷn ac yn ffurfio rhan o arfordir dwyreiniol Môr Iwerddon. Mae Bae Ceredigion yn gynefin i gyfoeth o fywyd gwyllt y môr, gan gynnwys haid fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel.
Traethau a chymunedau arfordir Ceredigion
Dewch i fwynhau’r cyfan sydd gan arfordir Ceredigion i’w gynnig i chi drwy ymweld â phentrefi glan môr poblogaidd gyda traethau sydd yn gyson wedi ennill y Faner Las, y Wobr Glan Môr a’r Wobr Arfordir Gwyrdd. Cewch yma gildraethau bach cudd hefyd, o fewn cyrraedd ar droed neu ar gwch yn unig.
Mae 60 milltir o Lwybr Arfordir Cymru – llwybr sy’n estyn 870 milltir i gyd – wedi’u lleoli yng Ngheredigion. Yma, mae’r tir a’r dirwedd yn newid o le i le, ond mae’r golygfeydd bob amser yn odidog. Wrth i chi gerdded, fe gewch chi wylio bywyd gwyllt, darganfod nodweddion daearegol ac archeolegol difyr, a dysgu am hanes lliwgar yr arfordir.
Mynyddoedd Cambria yw un o’r ardaloedd gwyllt anghysbell olaf yn ne Ynysoedd Prydain. Yno, mae pentrefi bach yn swatio’n glyd ar ymylon y rhostir eang sy'n frith o lynnoedd a choedwigoedd. Nid anialwch gwyrdd mohono, fel y bydd rhai’n honni, ond lle i fwynhau ychydig o lonydd ac i ddarganfod harddwch wybren dywyll y nos â’r sêr yn disgleirio uwch eich pen.
Mae nifer o ffyrdd yn arwain i Geredigion, ond go brin fod unrhyw un mor ddramatig â’r rheini sy’n croesi Mynyddoedd Cambria. I gael taith hamddenol, gallwch chi ddilyn y ffyrdd dosbarth A sy’n ymlwybro dros ysgwyddau’r bryniau yng ngogledd a de’r sir. Ond os ydych chi’n teimlo’n fwy mentrus, gallwch chi yrru ar hyd y ffyrdd cul sy’n troi a throelli drwy’r rhostiroedd a’r dyffrynnoedd.
A hithau wedi'i lleoli ar lan bae bendigedig lle mae dwy afon fawr yn cyrraedd y môr, mae Aberystwyth yn dref â phersonoliaeth ddifyr. Ar y naill law, mae’n dref wyliau draddodiadol gyda phier, prom a rheilffordd sy'n dringo'r graig serth. Ond ar y llaw arall, mae’n dref brifysgol ac yn ganolfan ddiwylliannol bwysig, gyda llond lle o fwytai a siopau da a rhaglen brysur o ddigwyddiadau celfyddydol a chwaraeon.
Mae Aberaeron yn dref fach dlws, gyda’i hadeiladau lliwgar yn edrych yn union fel llun ar gerdyn post. A hithau’n dref a gynlluniwyd o’r dechrau’n deg, mae Aberaeron bellach yn dref harbwr brysur sy’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau poblogaidd bob haf.
Dilynwch yr afon am ystad Sioraidd Llanerchaeron, i ddarganfod dyffryn ffrwythlon a hanes diddorol.
Aberteifi yw’r porth hanesyddol i Geredigion o’r de-orllewin, ac mae’n ganolfan ddiwylliannol brysur gyda bwytai a siopau diddorol. Uwchlaw’r man croesi cyntaf ar draws afon lydan Teifi, mae’r castell carreg a godwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1176 yn dal i sefyll. Yn y 18fed ganrif, porthladd Aberteifi oedd y mwyaf ar arfordir y gorllewin.
Dewch i adnabod Ceredigion y Cardis drwy ymweld â’i threfi marchnad bach traddodiadol ond bywiog, pob un â’i chymeriad a’i hanes ei hun. Dewch i grwydro ein lonydd gwledig, ein llwybrau ceffylau a’n llwybrau cerdded. A dewch i fwynhau byd natur a'r wybren dywyll, a chlonc dda gyda cymeriadau go iawn Ceredigion.
Cymunedau cymoedd a dyffrynnoedd Ceredigion
Mae afonydd yn hollbwysig i ddaearyddiaeth Ceredigion. Mae dau aber mawr yn nodi ffiniau naturiol y sir – aber afon Dyfi yn y gogledd ac aber afon Teifi yn y de. Ac mae aberoedd ein hafonydd wedi rhoi eu henwau i dair o’n prif drefi ar hyd yr arfordir: Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth.