Llwybrau Ysbryd y Mwynwyr

Dewch i grwydro llwybrau Ysbryd y Mwynwyr i ddarganfod ein treftadaeth mwyngloddio, o arfordir Bae Ceredigion i ddyffrynnoedd Mynyddoedd Cambria.


Dewch i ddarganfod gorffennol diwydiannol Ceredigion drwy ddilyn y llwybr o arfordir Ceredigion yn y Borth i Bontarfynach, ac yna ymlaen i Bont-rhyd-y-groes a Phontrhydfendigaid ym Mynyddoedd Cambria. Yma, ry’n ni’n disgrifio’r llwybr mewn chwe rhan:

1 Y Borth i Dal-y-bont: mae archeolegwyr wedi darganfod olion safleoedd toddi plwm o Oes y Rhufeiniaid ar ymyl Cors Fochno; ond yn ystod y 19eg ganrif roedd mwyngloddiau a melinau Tal-y-bont yn eu hanterth.

2 Tal-y-bont i Fwlch Nant-yr-arian: O’r llwybr rhwng Tal-y-bont a Bont-goch, fe welwch hen adeiladau tyrbin, coredau, a dyfrffosydd. Yng Nghwmsymlog, fe allwch weld treftadaeth y mwynwyr o hyd ar ffurf simnai, bythynnod mwynwyr, a chapel. Oddi yno, mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen i Fwlch Nant yr Arian.

3 Bwlch Nant yr Arian i Bontarfynach: Mae’r llwybr yn pasio drwy gymuned Ystumtuen a heibio i gapel a adeiladwyd ar gyfer mwynwyr plwm o Gernyw. Yna, mae’n disgyn i Gwm Rheidol cyn dringo eto i Bontarfynach.

4 Pontarfynach i Bont-rhyd-y-groes: Rhwng Pontarfynach a Chwmystwyth, byddwch yn dringo i ran uchaf y llwybr cyn cyrraedd tirwedd mwyngloddio dramatig Cwmystwyth ac ystad goediog yr Hafod.

5 Pont-rhyd-y-groes i Bontrhydfendigaid: Mae llawer o olion y mwynwyr i’w gweld ym Mhont-rhyd-y-groes o hyd. Bydd yn werth i chi chwilio amdanyn nhw cyn dringo i’r rhostir agored ac i Fanc Esgair Mwyn. Oddi yno, byddwch yn mynd yn eich blaen i Ffair Rhos ac i fryngaer Pen y Bannau uwchlaw abaty Ystrad Fflur. 

6 Pontrhydfendigaid i Lwybr Ystwyth: Ry'n ni'n gwybod bod mynachod Ystrad Fflur wedi bod yn ddiwyd yn copïo llawysgrifau, ond roedden nhw hefyd yn fwynwyr ac yn ffermwyr. Dilynwch afon Teifi i ymyl Cors Caron i ymuno â Llwybr Ystwyth. Gallwch ddilyn Llwybr Ystwyth yn ôl i Aberystwyth neu fynd yn eich blaen i Dregaron.

 

Mewn mannau lle mae’n werth treulio ychydig mwy o amser yn chwilota, gallwch gerdded ar hyd llwybrau cylchol:

Tal-y-bont: Bydd y llwybr yn eich tywys ar hyd llethrau dyffrynnoedd Ceulan a Chletwr heibio i weithfeydd hynafol, rhai ohonyn nhw’n dyddio o Oes y Rhufeiniaid. 

Bont-goch: Yno, cewch weld gweithfeydd a chronfeydd dŵr, ynghyd â golygfeydd a rhaeadrau sy’n nodweddiadol o’r llwybr cyfan.

Cwmsymlog: Yno, cewch weld gweithfeydd hynafol a bryngaer, yn ogystal â phentrefi’r mwynwyr yng Nghwmsymlog a Goginan.

Bwlch Nant yr Arian: Yno, cewch weld olion gweithfeydd Cwmbrwyno, a bryngaerau a adeiladwyd, fwy na thebyg, i warchod cyfoeth y mwyngloddiau.

Pontarfynach: Gallwch groesi ceunant Rheidol i fwynglawdd Temple, a cherdded dros Bont y Person i Ystumtuen. Os croeswch chi’r afon eto, i gyfeiriad llif yr afon, gallwch ddringo i fyny at reilffordd Cwm Rheidol.