Llwybr Arfordir Ceredigion
Mae'r trigain milltir o Lwybr Arfordir Cymru sydd yng Ngheredigion gyda amrywiaeth arbennig o dirweddau, gyda golygfeydd godidog tua'r gogledd am fynyddoedd Eryri a phenrhyn Llŷn. Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn gyfoethog o fywyd gwyllt, nodweddion archaeolegol a daearyddol, a hanes a thraddodiadau lliwgar i'w darganfod ar hyd y daith.
Teithiau tywys a llwybrau cylchol Llwybr Arfordir Ceredigion
Mae cerdded mewn cwmni, gyda tywysydd, yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl a llefydd diddorol. I ddathlu pymtheg mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion mae tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion y eich gwahodd i ymuno â nhw ar gyfer o deithiau cerdded tywysiedig sy'n cysylltu â Llwybyr yr Arfordir.
Teithiau tywys a llwybrau cylchol Llwybr Arfordir Ceredigion
Cerdded ym Mynyddoedd Cambria Ceredigion
Mae llond gwlad o lwybrau cerdded rhagorol ym Mynyddoedd Cambria. Gallwch grwydro’n hamddenol drwy goetiroedd godidog a gweld rhaeadrau rhyfeddol, gan ddilyn ôl troed hen fynachod yr Oesoedd Canol, beirdd a llenorion, a phorthmyn a mwynwyr y 19eg ganrif. A gallwch ddianc rhag prysurdeb y byd a chael hyd i lonyddwch wrth i chi gerdded rhai o lwybrau mwyaf heriol Ceredigion i gopa Pumlumon. Ar ôl cyrraedd y copa, cewch fwynhau golygfeydd trawiadol dros Eryri a Bannau Brycheiniog drwy lygaid gwahanol.
Pum llwybr i gopa Pumlumon
Dewch i gerdded i gopa Pumlumon i ddarganfod llynnoedd a nentydd lle mae afonydd mawr yn tarddu. Cewch hefyd fwynhau golygfeydd di-dor dros gefn gwlad Ceredigion a mynyddoedd Cymru.
Llwybrau Ysbryd y Mwynwyr
Dewch i grwydro llwybrau Ysbryd y Mwynwyr i ddarganfod ein treftadaeth mwyngloddio, o arfordir Bae Ceredigion i ddyffrynnoedd Mynyddoedd Cambria.
Ceredigion wyllt
Mae cefn gwlad Ceredigion yn noddfa i fywyd gwyllt. Mae ein rhostiroedd, ein coedwigoedd, ein hafonydd, a’n lonydd tawel gyda’u perthi blodeuog yn gynefinoedd gwych lle gallwch weld amrywiaeth cyfoethog o adar a chreaduriaid eraill. Ewch am dro; ewch i ymweld ag un o’n gwarchodfeydd natur neu’n canolfannau bywyd gwyllt; neu gadewch i dywysydd lleol profiadol rannu cyfrinachau Ceredigion â chi ar deithiau cerdded a gwibdeithiau.
Ceredigion y Celtiaid: bryngaerau ac arwyr chwedlonol
Mae'r meini hirion a'r bryngaerau sy'n britho ein tir yn gofeb drawiadol i aneddiadau cynnar Ceredigion. Yn wir, mae dros 170 o fryngaerau a chlostiroedd wedi'u canfod ledled Ceredigion, o gopa Pumlumon i arfordir Bae Ceredigion, ac mae llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â storiau lleol a chwedlau enwocaf Cymru.
Llwybr Ystwyth
The Ystwyth Trail is a 20 mile (32km) scenic cycleway, bridleway & footpath route following the Ystwyth river from Aberystwyth before climbing up towards Cors Caron, Pontrhydfendigaid and Tregaron. Substantial off road sections of the trail follow the track of the old Great Western Railway line and are are suitable for families with young children. The complete trail is suitable for experienced cyclists.
Cerdded 100 Ceredigion
Dewch i adnabod Ceredigion gam wrth gam gyda detholiad o lwybrau cylchol ym mhob rhan o'r sir. Bydd sialens Cerdded Cant Ceredigion yn eich helpu i gadw'n iach wrth i chi gyfri'r milltiroedd a chyrraedd y targed yn raddol tra'n mwynhau'r gorau o gefn gwad ac arfordir Ceredigion.
Cychwynwch gyda llwybrau hawdd, cylchol, sydd hefyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis, sydd yn gyfanswm o ddeg milltir. Ewch ymlaen am yr hanner cant, a chyn pen dim byddwch wedi cyrraedd y cant a chwblhau'r sialens!
'Ar Gered' - Walk and Talk Cymraeg
Hoffi cerdded a chael clonc, ac am gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gallu i sgwrsio yn yr iaith?
Beth am fynychu ymuno â grwp cymysg o gerddwyr sy'n siaradwyr rhugl a dysgwyr. mae croeso cynnes i bawb, o siaradwyr rhugl a hyderus i ddysgwyr sy'n mentro ar y cam cyntaf o'u taithi feistroli'r Gymraeg.