Ganrifoedd maith yn ôl, roedd Ceredigion yn deyrnas ynddi ei hun. O'i chwmpas i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r de, roedd tiroedd tywysogion a phenaduriaid pwerus, ac fe ddaeth y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr a'r Normaniaid i ymosod arni hefyd. Er bod y mynyddoedd, yr afonydd a'r môr yn amddiffynfeydd naturiol, fe godwyd nifer o gestyll yma hefyd. Yna, fe'u cipiwyd a'u dinistrio, gan adael adfeilion rhyfedd a rhamantaidd ar hyd a lled y sir.
O ystyried lleoliad strategol naturiol Aberteifi ar y llwybr o'r môr i'r wlad ar hyd afon Teifi, mae'n sicr y byddai unrhyw gadlywydd canoloesol wedi bod yn awyddus i'w rheoli.
Castell mwnt a beili syml oedd castell cyntaf Aberteifi. Fe gafodd ei adeiladu'n gyflym gan y Normaniaid ar benrhyn bach sy'n edrych allan dros aber afon Teifi, ryw filltir i lawr yr afon tua'r môr o'r castell presennol.
Yn 1110, fe gipiodd y Brenin Harri'r Cyntaf Aberteifi oddi ar Owain ap Cadwgan, a hynny i'w gosbi am nifer o droseddau, gan gynnwys herwgipio'r dywysoges Nest, gwraig y barwn Eingl-Normanaidd, Gerald de Windsor. Fe roddodd y brenin Arglwyddiaeth Aberteifi, gan gynnwys castell Aberteifi, i Gilbert Fitz Richard de Clare, un arall o'r barwniaid Eingl-Normanaidd pwerus.
Yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth
Roedd Rhys ap Gruffydd, neu'r Arglwydd Rhys fel y byddwn ni'n ei adnabod, yn un o ddisgynyddion Hywel Dda ac yn dywysog o Dŷ Dinefwr. Ac yntau wedi bod yn brwydro yn erbyn y Normaniaid o oedran ifanc, bu'n rhyfelwr ac yn wleidydd prysur am drigain mlynedd, ac yn llywodraethu fel un o dywysogion Cymru am dros ddeugain mlynedd.
Yn 25 oed, fe ddaeth yr Arglwydd Rhys yn dywysog y Deheubarth, teyrnas a oedd yn cynnwys Ceredigion, Ystrad Tywi, a Dyfed (Sir Benfro, Sir Gâr, y rhan fwyaf o Abertawe a rhan o Geredigion heddiw).
Wyth mlynedd ar ôl iddo ddod yn dywysog y Deheubarth, ac ar ôl cryn wrthdaro, fe wellodd y berthynas rhwng yr Arglwydd Rhys a'r brenin Harri'r Ail o Loegr, ac fe enwyd yr Arglwydd Rhys yn ustus de Cymru.
Castell Aberteifi - castell carreg cyntaf Cymru
Yn 1165, fe gipiodd yr Arglwydd Rhys gastell Normanaidd Aberteifi a'i ddymchwel. Yn fuan wedyn, fe gipiodd gastell cyfagos Cilgerran hefyd. Aeth yr Arglwydd Rhys ati i adeiladu castell carreg yn Aberteifi, gan ddefnyddio'r technegau milwrol diweddaraf. I ddathlu cwblhau'r gwaith adeiladu, fe gynhaliodd ŵyl yn 1176 – yr Eisteddfod gyntaf – ac fe'i cyhoeddwyd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, a Ffrainc o bosibl.
Roedd yr Arglwydd Rhys yn noddwr hael i abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion. Fe roddodd ddarnau mawr o dir i'r abaty, ac fe ddatblygodd i fod yn ganolfan dysg bwysig.
Fe gwympodd y castell i ddwylo Normanaidd eto pan gafodd ei gipio gan William Marshall, Iarll Penfro. Fe gipiodd y Cymry'r castell yn ôl, cyn i'r Normaniaid ei adfeddiannu. Ar ôl i Edward y Cyntaf goncro Cymru yn 1282, daeth castell Aberteifi dan reolaeth coron Lloegr unwaith eto.
Fe gafodd castell Aberteifi ei ddifrodi'n helaeth yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, ac ni chafwyd unrhyw ddatblygiadau yno tan y 19eg ganrif pan godwyd Castle Green House. Ymhen hir a hwyr, fe aeth y safle cyfan rhwng y cŵn a'r brain. Ond mae'r gaer a godwyd yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dangos bod swyddogaeth filwrol y castell wedi parhau. Ar ôl gwaith helaeth i'w adfer, fe agorodd y castell i'r cyhoedd yn 2015, ac mae'r safle'n fwrlwm o weithgarwch eto, gyda chyngherddau, priodasau, a dathliadau o bob math yn cael eu cynnal yno.
Castell Aberystwyth
Mae hanes cestyll Aberystwyth yn gythryblus, hanes sy'n arwydd o sefyllfa wan yr ynys Normanaidd hon mewn rhan gadarn Gymreig o Gymru. Fe godwyd y castell cyntaf uwchlaw afon Ystwyth yn Nhan-y-bwlch yn 1110.
Fe ddinistriodd Owain Gwynedd y castell hwnnw ar ôl curo'r Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr. Fe ailfeddiannwyd y safle gan Roger de Clare yn 1158, cyn i'r Arglwydd Rhys ei gipio chwe blynedd yn ddiweddarach. Fe newidiodd y castell ddwylo o leiaf bum gwaith ar ddechrau'r 13eg ganrif mewn brwydrau rhwng y Deheubarth, Gwynedd a'r Saeson. Fe'i cipiwyd gan Llywelyn Fawr yn 1221, ac mae'n debyg iddo ei ddinistrio gan fod y cofnodion hanesyddol yn dawel tan i Edward y Cyntaf ddechrau codi castell newydd yn Aberystwyth ryw filltir i'r gogledd o'r castell gwreiddiol.
Fe adeiladwyd castell mawr Edward y Cyntaf ger aber afon Rheidol o 1277 ymlaen. Yn ystod teyrnasiad Siarl y Cyntaf, fe gafodd y castell ei ddynodi'n Fathdy Brenhinol i gynhyrchu darnau arian gan ddefnyddio arian o fwyngloddiau cyfagos Mynyddoedd Cambria. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, â'r castell ym meddiant lluoedd y Brenin yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, fe ymosododd y lluoedd seneddol ar y castell yn 1649 a'i ddinistrio i raddau helaeth fel na allai gefnogi na chynnal gwrthryfel arall.
Efallai bod castell Aberystwyth yn adfail erbyn hyn, ond mae'r adfeilion yn dystiolaeth o'i hanes hir a chythryblus. Mae'n briodol, felly, bod cofeb ryfel hardd y dref yn sefyll yng nghanol yr adfeilion. Mae gwaelod y gofeb yn darlunio Dynoliaeth yn dianc o grafangau rhyfel. Uwchben, mae'r ffigur ag adenydd sy'n cynrychioli Buddugoliaeth yn estyn arwydd o heddwch tua'r gorwel.
Mae meini Gorsedd y Beirdd yn sefyll rhwng muriau'r castell hefyd. Yno, bydd y seremoni gyhoeddi'n cael ei chynnal pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag Aberystwyth.