Crefydd, radicaliaeth, a gwrthryfel

Mae gan Geredigion dipyn o enw am fod yn lle radical. Yma, mae ffermwyr, mwynwyr, a chapelwyr hyd yn oed wedi brwydro i fynnu eu hawliau. Dewch i ddarganfod y straeon difyr sy'n gysylltiedig â safleoedd ar hyd a lled Ceredigion, o'n tir comin i'n tollbyrth. 


Mor gynnar â 1654, roedd cynulleidfa o anghydffurfwyr crefyddol yn cwrdd yn gyfrinachol ar fferm yng Nghilgwyn ger Llangybi rhwng dyffrynnoedd Teifi ac Aeron. Roedd yr eglwys Anglicanaidd yn gwrthwynebu'r anghydffurfwyr. Ond ymhlith yr arweinwyr cynnar yng Ngheredigion, roedd ficer a daflwyd allan o'i blwyf yn Llanbadarn Fawr am iddo wrthod cefnu ar ei safbwyntiau anghydffurfiol.

Yn y 1670au, fe gafodd yr anghydffurfwyr rywfaint o ryddid i addoli, ac fe gafodd pregethwyr trwyddedig hawl i gynnal cyfarfodydd. Erbyn 1715, roedd gan y grŵp o dai cwrdd yng Nghilgwyn dros fil o aelodau neu wrandawyr, ac fe ddaeth yr ardal yn un o gadarnleoedd cynnar anghydffurfiaeth Bresbyteraidd.

Undodiaeth a'r Smotyn Du

Yn 1726, fe gafodd Jenkin Jones ei ordeinio'n weinidog grŵp Cilgwyn. Fe ddechreuodd bregethu athrawiaeth Arminiaeth. Roedd yr athrawiaeth hon yn credu bod pobl yn rhydd i ddewis ac y gallen nhw ennill iachawdwriaeth drwy eu gweithredoedd eu hunain, yn hytrach na derbyn bod popeth yn cael ei ragordeinio gan Dduw.

Yn 1733, fe adeiladodd Jenkin Jones gapel yn Llwynrhydowen yng Ngheredigion. Hwn oedd capel Arminaidd cyntaf Cymru. Fe wnaeth nifer o gynulleidfaoedd eraill yr ardal fabwysiadu Undodiaeth hefyd. Heddiw, mae clwstwr o 13 o gapeli Undodaidd rhwng Llandysul, Llambed ac Aberaeron. Roedd Presbyteriaid y 19eg ganrif yn feirniadol iawn o'r ardal ac yn rhwystredig bod eglwysi Undodaidd yr ardal mor gryf. Bydden nhw'n disgrifio'r ardal fel y Smotyn Du.

Llangeitho a'r diwygiad Methodistaidd

Ar yr un adeg, roedd diwygiad Methodistaidd yn digwydd yn Llangeitho ym mhen uchaf dyffryn Aeron. Y pregethwr carismatig, Daniel Rowland, oedd un o hoelion wyth y mudiad, ac fe fyddai torfeydd yn dod o bell ac agos i'w glywed yn pregethu. Fe gafodd Daniel Rowland ei ordeinio'n offeiriad yn yr eglwys Anglicanaidd yn 1735. Ond y flwyddyn honno, fe gafodd dröedigaeth ysbrydol ar ôl clywed Griffith Jones o Landdowror yn pregethu yn Llanddewi Brefi. O'r eiliad honno, fe newidiodd ei arddull yn llwyr.

Roedd pregethu angerddol Rowland yn cyfareddu'r torfeydd a fyddai'n ymgynnull i'w glywed, ac fe fydden nhw'n llafarganu 'Gogoniant' [i Dduw]. Gyda'i gyfaill Howell Harris, fe osododd Daniel Rowland sylfeini'r mudiad Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru.

Fe ddaeth Daniel Rowland i gael ei adnabod fel 'y Ffeirad Crac'. Fe ddisgrifiodd un o'i gyfoedion, yr emynwr William Williams Pantycelyn, Rowland fel 'Boanerges, mab y daran danllyd'.

Fe barhaodd yr angerdd tan yr 20fed ganrif pan ddaeth y Dr Martin Lloyd Jones, meddyg a phregethwr efengylaidd carismatig a fagwyd yn Llangeitho, yn weinidog yng nghapel San Steffan. Yn y pentref, mae plac ar wal y tŷ lle cafodd ei fagu (yno mae siop a chaffi'r pentref erbyn hyn).

Cenhadu i'r byd

Ar ôl iddo ddatblygu i fod yn fan cwrdd anffurfiol i anghydffurfwyr dyffryn Aeron, fe gafodd Neuaddlwyd drwydded ffurfiol i fod yn fan addoli yn 1746. Yn 1810, fe sefydlwyd academi yno dan arweiniad Thomas Phillips. Byddai'n hyfforddi gwŷr ifanc o gefndir tlawd nad oedden nhw'n gallu fforddio mynd i'r brifysgol. Dros y 30 mlynedd nesaf, fe gafodd dros 200 o ddynion ifanc eu hyfforddi yno i ymuno â'r weinidogaeth mewn eglwysi enwadol amrywiol ledled Cymru a thu hwnt. Fe enillodd yr academi enwogrwydd dros y dŵr yn yr Unol Daleithiau, ac fe gafodd Thomas Phillips ddoethuriaeth anrhydeddus gan y sefydliad sydd bellach yn cael ei adnabod fel Prifysgol Princetown.

Roedd dau o'r myfyrwyr mwyaf adnabyddus a gafodd eu hyfforddi gan Thomas Phillips yn fechgyn fferm lleol: David Jones a Thomas Bevan. Yn ddynion ifanc newydd briodi, fe aeth y ddau i Madagascar ar ran Cymdeithas Genhadol Llundain yn 1818, y cenhadon Cristnogol cyntaf i ymweld â'r wlad honno.

Cau tiroedd, chwalu tollbyrth, a chau allan

Roedd lles tenantiaid yn dibynnu i raddau helaeth ar garedigrwydd y landlord. Yn sgil Deddfau Cau Tiroedd y 18fed a'r 19eg ganrif, a chynhaeaf gwael 1816, fe ddechreuodd pobl ymfudo i chwilio am fywyd newydd yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia.

Yn 1819, fe ddefnyddiodd Augustus Brackenbury o Swydd Lincoln hanner ei etifeddiant i brynu tir comin ar y Mynydd Bach gan y Goron. Roedd pobl leol yn pryderu y bydden nhw'n colli eu hawliau i bori ac i dorri mawn ar y tir comin, ac fe aethon nhw ati i wrthryfela yn erbyn Brackenbury gan ymosod ar ei dŷ. Ar ôl hynny, fe gododd Brackenbury dŷ arall â ffos o'i amgylch, Castell Talwrn, ac fe gyflogodd ddynion i warchod y tŷ. Ond fe losgwyd y tŷ hwnnw hefyd, er bod ei olion yn dal i fod yno heddiw. Yna, fe gododd drydydd tŷ a'i alw'n Cofadail Heddwch. Ar ôl hynny, fe gafodd lonydd. Gallwch chi ddarllen mwy am hanes y gwrthdaro yn llyfr Eirian Jones, The War of the Little Englishman: Enclosure Riots on a Lonely Welsh Hillside (Y Lolfa).

Ddegawd ar ôl protest y tyddynwyr a'r crefftwyr yn erbyn Brackenbury, fe ddaeth Merched Beca i fynnu cyfiawnder yn nhrefi a chefn gwlad y Gorllewin. Â'r dynion wedi'u gwisgo fel merched, roedden nhw'n protestio yn ôl pob golwg yn erbyn y tollbyrth ar y ffyrdd tyrpeg a oedd yn peri iddi fod mor ddrud iddyn nhw ddefnyddio'r ffyrdd. Ond roedden nhw hefyd yn gwrthryfela yn erbyn yr amodau economaidd cyffredinol, y berthynas rhwng ffermwyr a landlordiaid, a'r taliadau degwm a oedd yn cael eu codi gan yr eglwys yng ngorllewin anghydffurfiol Cymru.

Yn ddiweddarach, bu un o bregethwyr yr Undodiaid, William Thomas, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol, Gwilym Marles, yn hybu achos y bobl yn erbyn y landlordiaid ac yn gefnogwr brwd o'r ffermwyr-denantiaid yn ystod Rhyfel y Degwm. Ac yntau'n ddiwygiwr brwd ac yn bregethwr angerddol, fe gododd wrychyn y landlord lleol. Fe arweiniodd hyn at wrthdaro yn 1876 pan gafodd yntau a'i gynulleidfa eu troi allan o gapel Llwynrhydowen, digwyddiad sy'n cael ei adnabod fel 'y Troad Allan'. Er gwaethaf hyn, fe aeth y gynulleidfa ati i agor capel newydd gerllaw o'r enw'r Capel Coffa. Pan fu farw'r landlord ifanc anfaddeugar, fe roddodd ei chwaer yr 'hen' gapel yn ôl i'r gynulleidfa. Ond roedd iechyd Gwilym Marles wedi dioddef dan y straen, a bu yntau farw'n 45 oed rai misoedd ar ôl i'r capel newydd agor. Ei or-nai oedd Dylan Thomas. Ac mae enw canol y bardd, Marlais, yn adlais o enw barddol ei hen ewythr, Marles.

Smyglwyr

Am ran helaeth o'r 18fed ganrif, bu smyglo'n weithgaredd poblogaidd a buddiol i lawer ar hyd arfordir Ceredigion. Yn ystod rhyfeloedd Napoleon, roedd rhaid talu trethi uchel ar nwyddau wedi'u mewnforio. Roedd y dreth ar de, er enghraifft, yn gymaint â 70 y cant o gost y te ei hun.

Roedd trethi uchel ar win, halen, gwirodydd a thybaco hefyd. Roedd y dreth ar halen yn arbennig o amhoblogaidd oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio i biclo, ac i halltu pysgod. Roedd y dreth ar halen yn is yn Iwerddon na thir mawr Prydain, felly roedd masnach anghyfreithlon brysur ar draws y dŵr.

Fe ddaeth dyn rhyfedd o'r enw John White i fyw ar y bancyn uchel cyntaf rhwng yr arfordir yng Nghwmtudu a dyffryn Teifi. Smyglwr oedd John White. Byddai'n gwisgo cotiau neu glogynnau wedi'u gwneud o glytiau lliwgar, ac mae'n bosibl mai dyna darddiad ei lysenw – Siôn Cwilt. Fe allai hefyd fod yn fersiwn lygredig o'r gair 'gwyllt', gair a fyddai wedi bod yn addas i ddisgrifio'r gŵr a fyddai'n marchogaeth i gwrdd â llongau'r smyglwyr.  

Roedd tŷ unnos Siôn Cwilt hanner ffordd rhwng yr arfordir yng Nghwmtudu a thref Llambed lle roedd sawl ffordd yn croesi. Banc Siôn Cwilt yw'r enw ar yr ardal hon hyd heddiw. Dyw hi ddim yn ymddangos bod Siôn Cwilt wedi cael ei ddal erioed ­– efallai oherwydd iddo ddarparu gwin a brandi anghyfreithlon i Uchel Siryf y sir a oedd yn byw yn Ffynnonbedr, Llambed. Ond doedd un arall o smyglwyr enwog Ceredigion, William Owen, ddim mor ffodus. Ac yntau'n fwrdrwr beiddgar a chreulon, roedd William Owen ei hun yn cyfaddef iddo ladd o leiaf chwe dyn cyn iddo gael ei ddal a'i grogi yn 1747 yn ddim ond 30 oed.

Mae'n debyg bod rhwydwaith o ogofâu ger Stryd yr Eglwys yng Nghei Newydd wedi'u cloddio'n benodol i guddio nwyddau wedi'u smyglo. Mor ddiweddar â 2016, fe gafwyd hyd i dwnnel dirgel tu cefn i un o siopau Cei Newydd.