Pumlumon – y pum carnedd – a mwy
Mae cyfres o garneddau o'r Oes Efydd yn britho Pumlumon a'r copaon cyfagos. Mae'n bosibl mai safleoedd angladdol neu ddefodol oedd y safleoedd hynod hyn. Erbyn hyn, mae'r strwythurau gwreiddiol wedi'u haddasu i roi cysgod ar y copaon gwyntog, ac mae cerddwyr wedi ychwanegu eu cerrig eu hunain ar hyd y blynyddoedd.
Mae llawer o feini hirion o'r Oes Efydd hefyd wedi'u gwasgaru ar draws Mynyddoedd Cambria, eu pwrpas wedi mynd yn angof erbyn hyn. Ger bryngaer Dinas uwchben pentref Penrhyn-coch, mae'n debyg bod pâr o gerrig a elwir yn 'Buwch a Llo' yn dangos trywydd hen lwybr o'r Oes Efydd o Glarach ar draws godre Pumlumon.
Mae llawer mwy o fryngaerau i'w gweld ar gopaon ein bryniau, gyda'u rhagfuriau'n ymwthio o'r ddaear; mae eraill wedi'u cuddio mewn coedwigoedd erbyn hyn, fel yr hen fryngaer o'r Oes Haearn yn Nanteos ger Aberystwyth, neu fryngaer Pencoed-y-foel yn nyffryn Teifi. Mae eraill, fel Castell Bach ac Ynys Lochtyn sy'n edrych allan dros y môr o Lwybr Arfordir Ceredigion, yn hawdd eu cyrraedd.
Mae enwau'r safleoedd hynafol hyn yn amrywio o ddisgrifiadau syml fel y Gaer Fawr, Trichrug, a Phen y Castell, i enwau difyr fel Castell Rhyfel. Mae straeon a chwedlau'n gysylltiedig â rhai ohonyn nhw, fel Pencoed-y-foel ger Llandysul a Chastell Olwen ger Llambed, dwy gaer sy'n cael eu henwi yn y Mabinogi.
Efallai mai Pen Dinas yw'n bryngaer fwyaf eiconig, a hithau, mewn gwisg o eithin melyn, yn cadw llygad ar dref Aberystwyth islaw. O'r copa, fe gewch chi fwynhau golygfeydd pell dros yr arfordir ar y naill law a Mynyddoedd Cambria ar y llall. Ychwanegiad go ddiweddar yw'r tŵr ar ben y fryngaer a godwyd i gofio brwydrau Dug Wellington.