Anturiaethwyr ac arloeswyr oes Fictoria

Yng nghyfnod Fictoria, cynyddodd masnach ar y môr drwy borthladdoedd Ceredigion. O'r un porthladdoedd, aeth nifer o Gardis i chwilio am fywyd gwell dros yr Iwerydd. Roedd hefyd yn gyfnod o syniadau radical, diwydiant newydd, a dyngarwyr yn mynd ati i sefydlu 'prifysgol y bobl'.


Henry Richard: yr Apostol Heddwch

Gweinidog anghudffurfiol oedd Henry Richard a ddaeth i gael ei adnabod ar y llwyfan rhyngwladol fel yr Apostol Heddwch. Ac yntau wedi'i eni yn Nhregaron yn 1812 a'i addysgu yn Llangeitho a Llundain, roedd Henry Richard yn gwrthwynebu rhyfel am resymau moesol a chrefyddol. Fe ddywedodd mai argyhoeddiad y bobl fyddai'n dod â rhyfel i ben, nid polisi unrhyw gabinet na thrafodaeth unrhyw senedd.

Fe ddaeth Henry Richard yn Aelod Seneddol Merthyr Tudful lle roedd llawer o wŷr Ceredigion yn byw ar ôl symud yno i weithio yn y pyllau glo. Roedd Henry hefyd yn siaradwr brwd dros faterion Cymreig, rhywbeth a enillodd y llysenw 'yr aelod dros Gymru' iddo. Fe gafodd ei benodi'n Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch yn 1848. Y gymdeithas hon oedd rhagflaenydd Cynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig. Fe fu hefyd yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth ac yn arloesi ym maes addysg, gan ddod yn Is-lywydd cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd.

'Cranogwen': capten llong, bardd ac ymgyrchydd 

Roedd Sarah Jane Rees (1839-1916) yn gapten llong, yn fardd, ac yn ymgyrchydd dros hawliau menywod. Cranogwen oedd ei henw barddol. Yn 1865, hi oedd y fenyw gyntaf i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol wedi iddi guro llawer o feirdd adnabyddus. Er mai Llangrannog oedd ei chynefin, fe deithiodd Cranogwen yn helaeth fel siaradwr cyhoeddus poblogaidd, gan ymweld â nifer o leoliadau ar draws yr Unol Daleithiau. Ar ben hynny, fe aeth ati i sefydlu Undeb Dirwestol Merched y De, ac i olygu a chyhoeddi cyfnodolyn Cymraeg i fenywod.

Merch i forwr oedd Sarah Jane, ac roedd hi wrth ei bodd yng nghwmni ei thad ar ei longau cargo. Er bod hyn yn anarferol i ferch bryd hynny, fe aeth ati i ddysgu sgiliau morwriaeth yng Nghei Newydd, ac yna yn Lerpwl a Llundain, gan ennill tystysgrif capten. Gyda'r dystysgrif hon, byddai Sarah Jane wedi gallu bod yn gapten ar ei llong ei hun a hwylio i bedwar ban byd. Ond fe ddewisodd hi aros yn Llangrannog i ddysgu sgiliau morwriaeth i ddynion ifanc lleol, i ddysgu plant i ddarllen ac i ysgrifennu, ac i ddysgu cerddoriaeth. Mae bedd Cranogwen mewn man amlwg yn Eglwys Sant Crannog yn Llangrannog

Y Cardis ar wasgar

Gyda bywyd mor galed yng Ngheredigion yn y 19eg ganrif, fe wnaeth llawer o Gardis y penderfyniad anodd i ymfudo. Fe hwyliodd llawer ohonyn nhw ar longau o Aberteifi i daleithiau Quebec a New Brunswick yng Nghanada. Fe adawodd eraill o Gei Newydd ac Aberaeron, gan deithio drwy Lerpwl ar eu ffordd i'r Byd Newydd. Yn eu plith, roedd chwe theulu a adawodd ardal Cilcennin yn 1818. Erbyn 1850, roedd cynifer â thair mil o bobl wedi dilyn ôl eu troed, gyda llawer ohonyn nhw'n ymgartrefu yn ardaloedd Gallia a Jackson yn nhalaith Ohio.

Fe arhosodd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr yng Ngogledd America, gan fwrw eu gwreiddiau ymhell o dir Ceredigion. Ond fe ddaeth nifer syfrdanol o bobl yn ôl. Yn eu plith roedd Edward Jones, gŵr a oedd wedi ymfudo i Cincinatti yn 1831. Ar ôl dychwelyd i Geredigion, fe gyhoeddodd Y Teithiwr Americanaidd, un o'r eitemau yng nghasgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol o bethau Americanaidd. Fe fu Evan Rowland Jones, ymfudwr hwyrach o Dregaron, yn ymhel â gwleidyddiaeth yn fuan ar ôl iddo ymfudo i Wisconsin yn 1855. Ac yntau'n gwrthwynebu caethwasiaeth ac yn cefnogi Abraham Lincoln, fe fu'n ymladd ym mrwydrau Rhyfel Cartref America yn Williamsburg a Gettysburg. Yn 1880, fe gyhoeddodd ei ganllaw i'r Unol Daleithiau, The Emigrant's Friend.

Fe ddaeth un o berthnasau Evan Rowland Jones, Joseph E Davies, yn gyfreithiwr rhyngwladol llwyddiannus ac yn llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Undeb Sofietaidd. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd hon, fe fu'n cynghori'r Arlywydd Truman yn nhrafodaethau Potsdam yn 1945. Ac yntau'n fab i bâr a oedd wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau, roedd Joseph wedi elwa'n fawr o'r cyfleoedd yn y Byd Newydd, ond wnaeth e ddim anghofio ei wreiddiau. Fe roddodd enw tref enedigol ei dad, Tregaron, i'w ystad fawr yn Washington DC. Mae ffilm bropaganda Walter Huston o 1943, Mission to Moscow, yn seiliedig ar gofiant Joseph am ei gyfnod fel Llysgennad.

Y Swagman o Geredigion

Ffermwr blaengar a llwyddiannus o Dregaron oedd Joseph Jenkins. Ac yntau'n weithgar yn ei gymuned, fe chwaraeodd ran allweddol er mwyn datrys y broblem o osod rheilffordd ar draws tir gwlyb Cors Caron. Ei ateb? Defnyddio sachau o wlân yn sylfaen i'r cledrau.

Ond ym mis Rhagfyr 1868, yn hanner cant oed, fe gododd ei bac yn ddisymwth a gadael ei fferm, ei deulu, a’i gymuned i deithio i Awstralia. Fe dreuliodd y chwarter canrif nesaf yn gweithio fel swagman o amgylch talaith Victoria lle bu'n ymgyrchu dros hawliau ei gydweithwyr.

Drwy gydol ei oes, bu Joseph Jenkins yn cadw dyddiadur. Roedd hefyd wrth ei fodd yn ysgrifennu barddoniaeth. Tra roedd yn Awstralia, fe fu'n llythyru’n gyson â'i frawd, yn aml ar ffurf cerddi. Erbyn hyn, mae ei ddyddiaduron o'i gyfnod yn Awstralia yn gofnod unigryw a gwerthfawr o hanes cymdeithasol, diwylliannol a diwydiannol Awstralia yn oes Fictoria. Mae'r dyddiaduron yn ddiogel ym meddiant Llyfrgell Talaith Fictoria yn Awstralia.

 

Sir John Rhys - ysgolhaig Celtaidd

Yn fab i deulu amaethyddol o Bonterwyd, fe gafodd Syr John Rhys ei drwytho mewn barddoniaeth, llên gwerin, a hanes lleol o oedran cynnar.

Roedd yn ysgolhaig arloesol ym maes chwedlau'r Brenin Arthur a mytholeg Cymru, a bu'n teithio'n helaeth yn Ewrop, Prydain ac Iwerddon yn cofnodi arysgrifau hynafol. Fe'i gwnaed yn Gymrawd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac fe gafodd ei benodi'n athro Astudiaethau Celtaidd cyntaf y Brifysgol. Roedd hefyd yn aelod o'r Academi Brydeinig, yn gadeirydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.

Bu JRR Tolkien yn astudio iaith a llenyddiaeth yn Rhydychen yn ystod blynyddoedd olaf bywyd Syr John, ac mae'n debygol iddo fynd i'w ddosbarthiadau am y Mabinogi. Mae iaith y corachod yn Lord of the Rings yn swnio'n debyg i'r Gymraeg. Ac fe honnodd Tolkien fod Lord of the Rings yn gyfieithiad o Lyfr Coch Westmarch – llyfr sy'n seiliedig ar Lyfr Coch Hergest, un o lawysgrifau hynaf a phwysicaf Cymru. Mae Llyfr Coch Hergest yn cael ei gadw yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen.

Mae llawysgrif ganoloesol bwysig arall sy'n cynnwys y copi cyflawn cynharaf o'r Mabinogi, Llyfr Gwyn Rhydderch, yn ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae'n debygol i'r llawysgrif hon gael ei llunio ar gyfer noddwr cefnog o Geredigion. Mae papurau Syr John Rhys ei hun ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol hefyd.

Coleg Prifysgol i Gymru

Gyda chryn ffanffer, fe agorodd gorsaf drenau Aberystwyth yn 1864 ar gyfer teithwyr ar Reilffyrdd y Cambrian. Roedd y Senedd hefyd wedi rhoi caniatâd i agor Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru i gysylltu trefi ar hyd arfordir Bae Ceredigion. Yn y pen draw, fe gafodd y ddau gwmni eu huno â Rheilffordd y Great Western.

Yn yr un flwyddyn, fe brynodd y gŵr busnes, Thomas Savin, adeilad ar lan y môr o'r enw Tŷ'r Castell. Roedd y pensaer enwog o Gymru, John Nash, wedi cynllunio'r adeilad hwnnw yn y 1790au ar gyfer Syr Thomas Uvedale, un o  gefnogwyr y mudiad Pictiwrésg. Ac yntau'n un o entrepreneuriaid y rheilffyrdd, fe aeth Savin ati i godi gwesty crand a gynlluniwyd gan JP Seddon. Ond chafodd ei weledigaeth mo'i gwireddu. Yn hytrach, fe brynwyd yr adeilad gan grŵp a oedd am greu prifysgol i Gymru, gan sefydlu ei choleg cyntaf yn Aberystwyth. Fe ddaliodd Seddon ati i godi'r adeilad ac fe agorodd 'Prifysgol y Bobl' yn 1872 gyda chefnogaeth tanysgrifwyr cyhoeddus a phreifat. Mae'r adeilad sydd bellach yn cael ei adnabod fel yr Hen Goleg wrthi'n cael ei drawsnewid yn ganolfan diwylliant, dysg a menter. Bydd hefyd yn cynnwys gwesty â 33 ystafell wely – adlais o orffennol yr adeilad rhestredig Gradd I ger y lli.

Diwydiant gwlân y wlad

Erbyn canol y 19eg ganrif, Ceredigion oedd un o'r canolfannau gweithgynhyrchu tecstiliau pwysicaf yng Nghymru. Roedd ein ffermydd da byw'n cynhyrchu gwartheg a defaid, ac roedd y porthmyn yn dal i'w gyrru ar droed dros y mynyddoedd i farchnadoedd Lloegr. Gyda dyfodiad y rheilffordd, roedd hi hefyd yn bosibl cludo llaeth, caws ac wyau i'r trefi a'r dinasoedd.

Byddai dillad a thecstiliau eraill, o sanau i garthenni patrymog, yn cael eu cynhyrchu mewn bythynnod a melinau ar hyd a lled yr ardal gan ddefnyddio gwlân lleol. Fe gafodd sachau gwlân hyd yn oed eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer Rheilffordd Manceinion i Aberdaugleddau er mwyn iddi groesi Cors Caron (Llwybr Ystwyth rhwng Aberystwyth a Thregaron erbyn hyn).

Yng ngogledd y sir, byddai melinau Tal-y-bont yn gwasanaethu mwynwyr plwm Mynyddoedd Cambria. Yn y de, roedd dwsinau o felinau yn nyffryn Teifi'n cyflogi cannoedd o ddynion a menywod ac yn cyflenwi tecstiliau i gymoedd glofaol y De. Yn ddiweddarach, fe fuon nhw'n cyflenwi blancedi ac iwnifform i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe adeiladwyd Rock Mill yn nyffryn afon Cletwr, un o is-afonydd afon Teifi, ger Llandysul yn 1890. Heddiw, hon yw'r unig felin wlân fasnachol sy'n dal i weithio gyda grym y dŵr yng Nghymru. Yn Nrefach Felindre, lle mae tair o is-afonydd afon Teifi'n cwrdd, mae Amgueddfa Wlân Cymru wedi'i lleoli yng nghanol nifer o hen felinau.

Cadwch lygad ar ein hadran digwyddiadau i gael gwybod am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyrsiau yn yr Amgueddfa, gan gynnwys sesiynau gydag artistiaid preswyl.

Diwydiant a masnach yr arfordir

Gyda chyflenwad da o bren lleol, roedd y diwydiant adeiladau llongau yn rhan bwysig o economi Ceredigion. Byddai llongau'n cael eu hadeiladu ar hyd yr arfordir o Aberteifi i Ynys-las, a hynny'n aml ar y traeth neu gerllaw. Mae cofnodion yn awgrymu bod 240 o longau wedi'u hadeiladu yng Nghei Newydd, 280 yn Aberystwyth, 25 yn Aberarth, a nifer debyg yn Llansanffraid, rhai ohonyn nhw mor fawr â 200 tunnell.

Byddai pob dim, o angorau i raffau i hwyliau, yn cael eu gwneud yn lleol. Ar un adeg, roedd chwe llofft hwyliau yng Nghei Newydd. A gan fod angen yswirio'r llongau, roedd tri chwmni yswiriant yn y pentref hefyd. Yn 1900, roedd 213 llong wedi'u cofrestru yn Aberystwyth, ac roedden nhw'n cyflogi 900 o ddynion a bechgyn.

Byddai rhai llongau'n masnachu ar hyd yr arfordir, gan gasglu a dosbarthu calch a glo. Ond byddai eraill yn croesi'r moroedd, gan gludo coed o'r Baltig a Gogledd America, neu gwano o Dde America.

Mae cymunedau mawr a bach Ceredigion, gan gynnwys y Borth, Llannon Llansanffraid, a Llangrannog, wedi magu cenedlaethau o gapteiniaid llongau. Fe gafodd y nifer fwyaf eu magu yng Nghei Newydd, ac yna yn Aberteifi, Aberystwyth ac Aberaeron.

Beth am ddilyn llwybr tref Aberaeron a chael hyd i'r plac sy'n rhestru'r holl longau a gafodd eu hadeiladu yn y dref? Os byddwch chi'n crwydro o amgylch Aberaeron, Cei Newydd neu'r Borth, fe welwch chi lawer o enwau tai sy'n cyfeirio at y môr: enwau gwledydd a phorthladdoedd pell fel Gambia a Bari, neu enwau aelodau o deuluoedd y morwyr.

Fe wnaeth menywod gyfraniad pwysig at y ffordd hon o fyw hefyd. Bu nifer o fenywod, fel Cranogwen, yn dysgu morwriaeth a Saesneg i forwyr ifanc.

Mae llawer o fynwentydd Ceredigion yn datgelu ein treftadaeth forol. Cewch gipolwg ar y beddau yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre), Llanrhystud, Llannon Llansanffraid, Llanddewi Aber-arth, Llanerchaeron, Llanarth, Llanina, Aberporth ac Aberteifi. Cadwch lygad hefyd am garreg fedd drawiadol Cranogwen yn Llangrannog.