Llên Ceredigion

Dewch i ddarganfod trysorfa o dreftadaeth lafar ac ysgrifenedig sy’n estyn nôl dros ganrifoedd lawer. Trysorfa sy'n dangos mai Ceredigion yw'r lle i saernïo geiriau i ddiddanu, darbwyllo a dadlau. O hen chwedlau a barddoniaeth gynnar i nofelau cyfoes, dramâu a straeon i blant, mae Ceredigion wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at lenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig.


Ar gopa’r Mynydd Bach, gyda’i olygfeydd gwych dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambrian, mae cofeb i grŵp o feirdd yr ardal a fu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Arni, mae’r geiriau: I gofio'r gwŷr / fu'n nyddu llên /uwch llonyddwch /Llyn Eiddwen. Mae beirdd Ceredigion a'u gwreiddiau'n ddwfn yn y tir, a'r traddodiad o feirdd gwlad. Roedd grwp cyffelyb yn gysylltiedig ag ardal Ffair Rhos ger Pontrhydfendigaid, ddaeth i'r brig ar y llwyfan cenedlaethol hefyd. 

Teulu o feirdd a fagwyd ar fferm y Cilie (fferm deuluol ger Llangrannog) oedd Bois y Cilie. Roedd ganddyn nhw gysylltiadau cryf â’r tir a’r môr, ac roedd yr amgylchedd a’r gymuned o’u hamgylch yn ysbrydoliaeth iddyn nhw. Fe ddysgodd Dic Jones, un o feirdd mwyaf Ceredigion a ddaeth yn Archdderwydd, grefft y gynghanedd gan Fois y Cilie. Byddai Dic yn dweud mai ffermio oedd ei fara menyn, ac mai barddoniaeth oedd y jam. Gerllaw Llwybr Arfordir Ceredigion, gallwch chi ddilyn llwybr barddoniaeth o amgylch yr Hendre, fferm y teulu ym Mlaenannerch, i ddarganfod ei ddawn dweud a’i hiwmor.

Dafydd ap Gwilym  - cywyddwr canoloesol

Fe anwyd Dafydd ap Gwilym ym Mrogynin ger Aberystwyth rhwng 1315 ac 1320. Roedd yn un o feirdd mawr Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Dan ddylanwad barddoniaeth troubadour Provençe, roedd ei gerddi a oedd yn trafod themâu fel cariad a byd natur yn chwa o awyr iach.

Mae cerddi fel Mis Mai neu awdl Y Gwynt yn dal i gyfareddu heddiw oherwydd eu gwreiddioldeb a rhythm gref y gynghanedd. Roedd rhai o’i gerddi, fel Trafferth Mewn Tafarn, yn llawn hiwmor, ac eraill braidd yn goch. Yn Merched Llanbadarn mae’n honni ei fod yn mynd i’r eglwys dim ond i wylio’r merched!

Gallwch chi ddilyn ôl troed Dafydd ap Gwilym drwy grwydro Brogynin ar odre Mynyddoedd Cambria, ymweld ag eglwys Llanbadarn Fawr, ac ymweld â’i fedd o dan yr ywen ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn Ystrad Fflur. Yng nghysgod adfeilion yr abaty, mae’r fynwent dafliad carreg o safle claddu meibion yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth, cadlywydd pwerus a noddwr hael mynachod Ystrad Fflur a’r celfyddydau. Fe gynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr eisteddfod gyntaf erioed yng nghastell Aberteifi yn 1176.

Cymeriadau lliwgar

Fe gafodd y nofelydd a’r dramodydd dadleuol, Caradoc Evans, ei fagu yn Rhydlewis. Fe deithiodd Dylan Thomas i Aberystwyth yn 1934 i ymweld ag e. Adeg ei gyhoeddi yn 1915, roedd pobl yn credu bod ei gasgliad o straeon am fywyd y werin yng ngorllewin Cymru, My People, yn gywilyddus. Ond ers hynny, fe gafodd y gwaith ei gymharu â chasgliad straeon byrion James Joyce, Dubliners. Gallwch chi ymweld â Rhydlewis yng nghefn gwlad Ceredigion lle cafodd ei fagu, neu bentref bach y Gors ger Aberystwyth lle bu’n byw gyda’i wraig, yr awdur Marguerite Evans, Iarlles Barcynska, a fyddai’n ysgrifennu dan y ffugenw Oliver Sandys. Addasiad o’i nofel hithau, The Pleasure Garden, oedd ffilm nodwedd gyntaf Alfred Hitchcock.

Roedd yr awdur Islwyn Ffowc Ellis yn dod yn wreiddiol o Wrecsam, ond fe ymgartrefodd yn Llambed lle’r oedd e'n ddarlithydd prifysgol. Fe ysgrifennodd nifer o nofelau a oedd yn trafod gwleidyddiaeth yr 20fed ganrif. Cysgod y Cryman yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau erioed, ac fe gafodd ei nofel ddychan, Wythnos yng Nghymru Fydd, ei haddasu’n opera gan Gareth Glyn yn ddiweddar.

Mae’r awduron cyfoes, Niall Griffiths a Malcolm Pryce, yn gweld Aberystwyth a chefn gwlad Cymru drwy lygaid gwahanol. Mae Pryce yn adrodd straeon doniol am Aberystwyth dan reolaeth maffia o dderwyddon mewn arddull noir Cymreig. Mae cymeriadau Griffith, enillydd Llyfr y Flwyddyn, yn wrtharwyr caled, ond efallai bod y rhestr o’i hoff awduron yn dangos ei fod e'n dilyn ôl troed rhai o’i arwyr ei hun.

Gallwch chi ddilyn taith sain sy’n seiliedig ar nofel Malcolm Pryce, Aberystwyth mon amour. Mae hon yn daith gerdded ymarferol ac yn gyflwyniad difyr i fyd Louie Knight, ditectif Pryce.

Beirdd ac awduron yr arfordir a'r wlad

Ac yntau wedi’i fagu yn Llandre, fe ysgrifennodd Tom McDonald nofelau a oedd yn darlunio bywyd yng Ngheredigion ar droad yr 20fed ganrif, gan gynnwys White Lanes of Summer. Gallwch chi ymweld ag Eglwys Sant Mihangel yn Llandre i ddarganfod treftadaeth gyfoethog y pentref, a’r fynwent â beddau morwyr. Gallwch chi hefyd ddilyn llwybr barddoniaeth drwy’r coed i ddarganfod gwaith 16 o feirdd lleol sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith.

Mae dylanwad bywyd Ceredigion i’w weld yn glir yng ngwaith dau o’n hawduron cyfoes, Caryl Lewis a Cynan Jones. Mae nofel Caryl, Martha, Jac a Sianco, yn adrodd hanes teulu amaethyddol sy’n wynebu newidiadau mawr ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Yn nofel Cynan, The Long Dry, fe gawn ni ddisgrifiad atmosfferig o haf poeth a chipolwg ar fywyd, ei harddwch a’i dristwch.

Awduron benywaidd Ceredigion

Un arall o awduron llwyddiannus yr 20fed ganrif a gafodd ei hysbrydoli gan chwedlau a phobl leol oedd Anna Adeliza Puddicombe. Byddai’n ysgrifennu dan y ffugenw Allen Raine. A hithau wedi’i geni yn nyffryn Teifi, fe gyhoeddodd Allen Raine un ar ddeg o nofelau. Fe addaswyd tair ohonyn nhw’n ffilmiau, ond mae’r rheini wedi mynd ar goll erbyn hyn. Fe gafodd rhywfaint o’i gwaith ei ailgyhoeddi’n ddiweddar, gan gynnwys Welsh Witch, stori am gyfeillgarwch, dewrder a gwydnwch ar arfordir y Gorllewin ac ym mhyllau glo’r De.

Roedd Eluned Phillips yn hanu o Genarth. Ond yn ei hunangofiant, The Reluctant Redhead, mae’n sôn am ei bywyd yn Llundain a Pharis lle roedd hi’n adnabod ffigurau fel Augustus John, Edith Piaf, Jean Cocteau, a Pablo Picasso. Roedd hi'n fardd medrus, a hi yw’r unig fenyw i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Ymhlith ein llenorion cyfoes mae Fflur Dafydd, awdur ac un o gymrodorion Gŵyl y Gelli, a’i mam, y bardd, dramodydd a libretydd, Menna Elfyn. Fe gafodd gwaith Menna ei gyfieithu i bymtheg o ieithoedd. Mae Gillian Clarke wedi cyhoeddi barddoniaeth a straeon sy’n trin a thrafod y berthynas rhwng llefydd ac ieithoedd, ac yn disgrifio’r profiad o fyw a gweithio ar y tir yng Ngheredigion. Mae Samantha Wynne Rhydderch yn hanu o deulu o forwyr yng Nghei Newydd, ac mae’n dal i fyw a gweithio yn y pentref. Fe gafodd ei henwebu ddwywaith ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac mae ei gwaith yn aml yn cyfeirio at fro ei mebyd.