Fe gafodd cyfres Y Gwyll a’i phartner Saesneg, Hinterland, eu ffilmio ochr yn ochr â’i gilydd dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Gyda’r gair ‘gwyll’ yn disgrifio’r adeg o’r dydd rhwng dau olau, mae’n creu delwedd o le dirgel ar ymyl y byd. Mae’n anodd meddwl am le mwy addas i leoli’r ditectif anniddig, DCI Tom Mathias.
Mae’r ddrama dditectif lwyddiannus yn taflu goleuni newydd ar dirwedd Ceredigion, gyda phob lleoliad yn ychwanegu’i naws ei hun at y straeon: o strydoedd Aberystwyth, cors y Borth a thwyni Ynys-las i goedwigoedd, llynnoedd a hen gymunedau mwyngloddio Mynyddoedd Cambria.
Y Gwyll a chwedlau lleol
Er bod y gyfres yn dilyn hynt a helynt tîm o dditectifs cyfoes, mae hen chwedlau Ceredigion a Chymru wedi’u gwau drwy nifer o’r straeon, ac mae tirweddau moel Mynyddoedd Cambria yn creu naws arbennig ar gyfer y ddrama.
Ar yr wyneb, tref brifysgol gosmopolitaidd â ffasâd Fictorianaidd yw Aberystwyth. Ond mae’r cynhyrchwyr wedi mynd dan groen y dref a’i disgrifio fel “pair naturiol ble daw hanes a chwedl wyneb yn wyneb â’r byd cyfoes”.
Mae un o’r prif leoliadau ffilmio – Pontarfynach – yn gysylltiedig ag un o’n chwedlau gwerin mwyaf cyfarwydd. Yn ôl y chwedl, fe adeiladwyd y bont gyntaf dros y rhaeadrau dramatig lle mae afon Mynach yn naddu ceunant dwfn drwy’r coed deri hynafol gan y Diafol ei hun. Ac mae’r ceunant â’u gwrlid o fwsog a rhedyn yn gefndir dramatig i bennod gyntaf Y Gwyll.
O Bontarfynach, gallwch chi fynd i ddarganfod dyffrynnoedd ucheldir Mynyddoedd Cambria a cherdded y llwybrau sy’n mynd heibio i adfeilion yr hen fwyngloddiau arian a phlwm, pob un â’i stori ei hun i’w hadrodd. Mae Cwmsymlog a Thrisant, dwy hen gymuned fwyngloddio ac amaethu sy’n nodweddiadol o Fynyddoedd Cambria, yn darparu nifer o leoliadau pentref ffuglennol Penwyllt.
Yn ogystal â cherdded a beicio ar hyd llwybrau’r coetiroedd, gallwch chi ddilyn milltiroedd o lonydd mynydd cul a thawel i fwynhau golygfeydd gwych dros y rhostiroedd a’r ffermydd anghysbell yr holl ffordd i’r arfordir. Beth am yrru i’r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth ar hyd y ffyrdd mynydd i Nant-y-moch? Gallech chi ddychwelyd drwy ddyffryn Rheidol neu fynd yn eich blaen i weld olion mwyngloddiau dyffryn Ystwyth – mwyngloddiau a fu unwaith yn eiddo i fynachod Ystrad Fflur. Oddi yno, gallech chi alw heibio i’r Hafod i weld y coetir, y rhaeadrau a’r dirwedd Bictiwrésg, cyn dychwelyd i’r dref.
Gyda’r ffilmio’n digwydd liw nos ac ym mhob tywydd, mae'r gyfres yn dangos tirwedd Ceredigion yn union fel y mae. Ond mae’r tîm cynhyrchu wedi gwisgo rhai o’r adeiladau’n fedrus er mwyn iddi ymddangos fel pe baen nhw’n dadfeilio, wedi’u difrodi gan dân, neu’n llefydd llawn arswyd.
Mae’r rheilffordd o Aberystwyth yn galw ym mhentref y Borth, gyda’i dair milltir o draeth tywod a syrff. Mae’r orsaf, gyda’i hamgueddfa hynod, yn edrych allan dros Gors Fochno sy’n estyn hyd at Ynys-las ac aber afon Dyfi. Pan fydd y llanw ar drai, bydd olion hen goedwig gynhanesyddol yn dod i’r golwg ar y traeth – adlais o chwedl Cantre’r Gwaelod a brwydr Maelgwyn â’r môr. Hwn hefyd yw man geni chwedlonol y bardd Taliesin. Ac mae chwedlau lleol yn sôn am ysbrydion a gwrachod ar rostir gwyllt Cors Fochno.
Gyda’i chlogwyni garw, ei thraethau cudd, a’i chreigiau sy’n denu adar y môr, morloi a dolffiniaid, does ryfedd bod y cynhyrchwyr wedi dewis safle ar arfordir Ceredigion fel lle i Mathias ddianc iddo rhag helbulon ei fywyd. Does dim dwywaith fod yr olygfa banoramig dros Fae Ceredigion hyd at fynyddoedd ac ynysoedd Eryri yn falm i’r enaid.
Y Syrcas
Yn y ffilm hon, mae’r syrcas yn dod i dref dawel yng Ngheredigion ac mae popeth yn newid am byth. Mae’r stori ddychmygol yn canolbwyntio ar ferch gweinidog Calfinaidd llym sydd, a hithau yn ei harddegau, yn ceisio dod i delerau â chonfensiynau crefyddol digyfaddawd ei thad, a’i gaethiwed i’r cyffur lawdanwm.
Wedi’i gosod yn Sir Aberteifi yn oes Fictoria (Ceredigion erbyn hyn), mae’r ffilm yn adleisio hanes lleol am ymweliad syrcas deithiol a’i eliffant â Thregaron yn 1848.
Er eu bod yn amheus o’r newydd-ddyfodiaid i ddechrau, mae trigolion y dref yn croesawu’r ymwelwyr egsotig yn y pen draw pan fydd un o eliffantod y syrcas yn helpu i achub criw o fwynwyr sydd wedi mynd yn sownd dan y ddaear. Yn anffodus, mae un o’r eliffantod yn marw ar ôl yfed dŵr ym mwynglawdd plwm Bronmwyn. Yn ôl yr hanes lleol, fe gafodd yr eliffant ei gladdu tu ôl i westy’r Talbot, un o dafarndai traddodiadol y porthmyn a man adnabyddus iawn yng nghanol y dref.
Fe gafodd y ffilm atmosfferig hon ei ffilmio ar leoliad yng Ngheredigion o amgylch tref Tregaron, plwyf Llangeitho, a llwybrau’r porthmyn ym Mynyddoedd Cambria.
Mae hanes yr eliffant yn dal i fod yn agos at galon trigolion lleol ac, yn 2011, fe aeth tîm o archeolegwyr o Brifysgol y Drindod Dewi Sant ati i gloddio’r safle i gael gwybod mwy am yr hanes. Beth am gerdded y pum milltir rhwng Tregaron a Bronmwyn ar hyd llwybr yr eliffant, a chrwydro ymhellach i Fynyddoedd Cambria ar hyd llwybrau’r porthmyn a lonydd eraill? Gallwch chi hefyd archwilio safleoedd mwyngloddiau eraill yr ardal a darganfod treftadaeth y mwynwyr, a hanes y Cardis a wnaeth eu marc ar y llwyfan byd-eang.
Y Llyfrgell
Ffilm ddirgelwch wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i rhyddhau yn 2016 yw Y Llyfrgell. Gyda hanes teulu a dyddiaduron yn gefndir iddi, mae’r ffilm gyffrous yn trin a thrafod cyfrinachau a chelwyddau, ac yn gofyn gan bwy mae’r hawl i adrodd y stori…
Dwy chwaer – yr efeilliaid Nan ac Ana – sy'n archifyddion yn y Llyfrgell Genedlaethol yw’r prif gymeriadau (y ddwy wedi’u portreadu gan Catrin Stewart). Mae’r ddwy’n torri eu calonnau ar ôl marwolaeth eu mam, yr awdur llwyddiannus Elena Wdig (Sharon Morgan). Ac mae geiriau olaf eu mam yn fyw yn eu cof wedi iddi awgrymu bod ei chofiannydd, Eben Prydderch (Ryland Teifi), wedi’i llofruddio.
Yn ystod shifft nos yn y Llyfrgell Genedlaethol, mae'r efeilliaid yn mynd ati i ddial am farwolaeth eu mam. Ond mae Dan, y porthor nos (Dyfan Dwyfor), yn tarfu arnyn nhw ac yn dod yn rhan o’r saga o’i anfodd. Fel pob ffilm gyffrous dda, mae pethau’n mynd ar gyfeiliorn, mae cynlluniau’n cael eu difetha, ac mae amheuon yn codi. Mae’r ffilm yn gwneud y gorau o’i lleoliad yn adeilad crand y Llyfrgell Genedlaethol sy’n edrych allan dros dref Aberystwyth. Fydd ymweliad â’r Llyfrgell fyth yr un peth eto ar ôl i chi wylio’r ffilm hon.
Y Llyfrgell yw ffilm nodwedd gyntaf Euros Lyn, cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau am ei waith teledu. Mae’r sgript yn addasiad gan Fflur Dafydd o’i nofel a enillodd Wobr Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2009. Fe ffilmiwyd dwy fersiwn o’r ffilm ar yr un pryd – y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg.