Y Brenin Arthur yng ngwlad y cewri

Mae ein chwedlau a’n llên gwerin yn egluro llawer o nodweddion arbennig tirwedd Ceredigion – o byllau ar waelod rhaeadrau i greigiau ar ganol traethau. Beth am gerdded i ben bryngaer, mynd am dro ar lan afon, neu fynd am antur ar lan y môr i gael hyd i’r nodweddion sydd wedi ysbrydoli’r straeon hyn, a darganfod tirwedd amrywiol Ceredigion ar yr un pryd? 


Mae’r Brenin Arthur a’i farchogion yn gysylltiedig â nifer o lefydd yng Ngheredigion, o arfordir Bae Ceredigion i lannau afon Teifi a charneddau Mynyddoedd Cambria. Mae rhai straeon yn llawn hiwmor a direidi, ond mae eraill yn sôn am gampau arwrol ac am ladd cewri.

Y Brenin Arthur a’i farchogion

Mae un o’r straeon am y Brenin Arthur yn sôn amdano’n cael ei ddal yn ceisio dwyn clogyn Padarn Sant. Fe barodd y sant i’r ddaear agor a llyncu’r Brenin Arthur. Ac fe fu’n gaeth dan y ddaear tan iddo ymddiheuro!

Mae stori arall yn sôn am Gwalchmai, nai’r Brenin Arthur, yn lladd tri o gewri mileinig Ceredigion. Fe gafodd Maelor Gawr, cawr a oedd yn byw ger Aberystwyth, ei ddal, ond fe roddwyd ei ddymuniad olaf iddo – sef chwythu ei gorn dair gwaith. Roedd mab Maelor, Cornipyn, allan yn hela ac fe glywodd gorn ei dad yn seinio. Fe garlamodd fel mellten ar ei geffyl i achub ei dad, gan lamu dros afon Ystwyth, ond fe gafodd yntau ei ladd yn y frwydr a ddilynodd. Y noson honno, fe gafodd meibion milain eraill Maelor, Crugyn a Bwba, eu lladd hefyd mewn amgylchiadau anesboniadwy. 

Fe ddywedir bod Geraint, un arall o farchogion y Brenin Arthur, wedi’i gladdu ym Mhenbryn, dafliad carreg o'r safle lle cafodd ei ladd ym mrwydr Llongborth. Fe gyfansoddodd Llywarch Hen farwnad iddo, Marwnad Geraint ab Erbin, ac mae Alfred Lord Tennyson hefyd yn canu mawl iddo yn ei gerdd Geraint and Enid. Dungeraint oedd enw caer Geraint, ac fe ddywedir bod castell Cilgerran yn sefyll ar yr un safle yn nyffryn Teifi heddiw.

Sant yn dofi draig

Fe gafodd eglwys gynnar ei sefydlu yn Llangrannog gan sant o’r enw Crannog. Mae’r sant hefyd yn gysylltiedig â llefydd yn Nyfnaint a Chernyw, ac fe fu’n teithio ar draws y moroedd Celtaidd gan fynd ag allor symudol gydag e.

Yn ôl un o chwedlau de-orllewin Lloegr, fe gollodd Crannog (neu Carantoc) ei allor werthfawr pan oedd yn croesi Môr Hafren, ac fe aeth i weld y Brenin Arthur i ofyn iddo ei helpu i gael hyd i'w allor. Yn gyfnewid am hyn, fe ofynnodd Arthur iddo ddofi draig ffyrnig a oedd yn peri gofid i’r gymuned. Fe aeth Crannog ati i weddïo, ac fe ddaeth y ddraig ato a gadael iddo ei dywys i ffwrdd fel oen bach.

Cewri - o'u pen i'w traed

Ar draeth Llangrannog, fe welwch chi graig fawr o’r enw Carreg Bica. Cawr mawr lleol oedd Bica ac, yn ôl y chwedl, roedd yn dioddef o’r ddannodd. Mae un fersiwn o’r stori’n honni bod Bica wedi gwylltio a phoeri’r dant drwg o’i ben, a bod y dant wedi glanio yn y tywod ar draeth Llangrannog. Mae’n rhaid bod Bica’n glamp o gawr o ystyried maint y graig sy’n gwahanu’r ddau draeth yn Llangrannog heddiw.

Mae fersiwn arall o’r stori’n egluro tarddiad Ynys Lochtyn gerllaw. Yn gyfnewid am helpu Bica i dynnu’r dant drwg o’i ben, fe fynnodd Lochtyn ei fod yn cael ei ynys ei hun. Ac fe aeth Bica ati i greu ynys i Lochtyn drwy redeg ei fys ar hyd y tir hyd at y gorwel. Ynys Lochtyn yw enw’r penrhyn i’r gogledd o Langrannog ag ynys fechan ar ei ben.

Nid nepell i ffwrdd, yn Nhroed-y-rhiw, mae carreg a daflwyd yno gan gawr ar ôl iddo ei thynnu o'i glocsen.  Allwn ni ddim ond cydymdeimlo â’r cewri hyn – hyd yn oed y rhai crac!

Fe gafodd ein cewri brofiad mwy pleserus mewn man delfrydol ym Mynyddoedd Cambria. Yno, mae rhaeadr yn disgyn i bwll dwfn diwaelod.  Yn ôl y chwedl, byddai cawr yn golchi ei ddwylo yno. Mae’r safle hwn yn agos at Lynnoedd Teifi uwchlaw pentref Pontrhydfendigiad a’r bwthyn bach ar lannau nant Claerddu.

Brenin y cewri yn gosod her

Culhwch ac Olwen yw prif gymeriadau un o chwedlau rhamantaidd y Mabinogi, ac un o’r chwedlau Cymraeg cynharaf am y Brenin Arthur. Olwen yw’r ferch brydferthaf yn y byd, ac mae ei thad, Ysbaddaden Bencawr, yn gawr grymus. Mae Culhwch, y tywysog, am briodi Olwen, ond cyn iddo wneud hynny, mae’n rhaid iddo gyflawni nifer o dasgau amhosib a osodwyd gan Ysbaddaden. I gwblhau’r tasgau, mae Culhwch yn gofyn i’w gefnder, y Brenin Arthur, ei helpu.

Lle bynnag y bydd Olwen yn cerdded, bydd blodau gwynion yn ymddangos yn olion ei thraed. Mae Caer Olwen, un o gyfres o fryngaerau ar hyd crib hir goediog i’r gorllewin o afon Teifi, ger Llambed, yn adleisio ei henw. Hwn yw un o’r llwybrau posib a ddilynwyd gan Culhwch, Arthur a’i farchogion i gwblhau un o'r tasgau a osodwyd gan Ysbaddaden, sef hela’r Twrch Trwyth. I gyflawni’r dasg hon, mae'n rhaid iddyn nhw gael gafael ar y grib a’r siswrn sy'n cael eu cadw rhwng clustiau’r Twrch Trwyth. 

Hela'r Twrch Trwyth

Mae’r chwedl yn dilyn yr helfa ar draws y De a’r Gorllewin. Mae un bennod yn sôn am ddau o farchogion Arthur, Cai a Bedwyr, yn eistedd ar lethrau Pumlumon. Yno, maen nhw’n ystyried sut i fynd ati i dynnu blewyn o farf y cawr Dillus Farfog i wneud tennyn i'r cŵn sy’n hela’r Twrch Trwyth a’i deulu o faeddod bach.

Maen nhw’n sylwi ar fwg yn codi o dân y cawr, yn gosod trap, ac yn llwyddo i dynnu digon o flew o’i farf i wneud tennyn. Tybed ai’r ceunant dwfn islaw’r caeau ar fferm rhwng Pontarfynach a Phonterwyd o’r enw Erwbarfau oedd y man lle llwyddodd y marchogion i ddal y cawr?   

Yn y pen draw, fe gafodd y Twrch Trwyth ei ddal yng Ngarth Grugyn, bryngaer yn nyffryn Ystwyth, ac fe lwyddwyd i gael gafael ar y grib a’r siswrn a oedd yn cael eu cadw rhwng ei glustiau. Ond fe lwyddodd y Twrch i ddianc a diflannu i’r môr.