Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, mae yna nifer o orielau, yn ogystal â stiwdio serameg a phodiau creadigol ar gyfer artistiaid preswyl.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd hefyd yn Aberystwyth, gasgliad mawr o bortreadau, paentiadau, printiau, ffotograffau a gweithiau celf eraill, ochr yn ochr â’i chasgliadau o lawysgrifau, mapiau a llyfrau. Mae’r Llyfrgell yn arbenigo mewn delweddau sy’n gysylltiedig â Chymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r casgliad yn cynnwys gweithiau gan JMW Turner, Thomas Gainsborough a Paul Sandby, yn ogystal â gwaith arlunwyr adnabyddus o Gymru, gan gynnwys Kyffin Williams, Ceri Richards, Mary Lloyd Davies a Richard Wilson.
Mae gan y Llyfrgell nifer o orielau, gydag arddangosfa barhaol a nifer o arddangosfeydd dros dro.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gasgliad o serameg o bwys rhyngwladol, gan gynnwys crochenwaith stiwdio flaengar Prydain ar ddechrau’r 20fed ganrif. Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith y Brodyr Martin, Bernard Leach, ac eraill. Bob dwy flynedd, bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn llwyfannu Gŵyl Serameg Ryngwladol lle bydd artistiaid serameg yn arddangos eu crefft ac yn arwain sgyrsiau.
Mae porslen enwog Abertawe a Nantgarw yn rhan o’r casgliad, ochr yn ochr â chrochenwaith stiwdio o Brydain, Ewrop, America a Japan.
Taith Celf a Chrefft Ceredigion
Mae llawer o arlunwyr a gwneuthurwyr yn byw ac yn gweithio yng Ngheredigion, ac maen nhw wrth eu bodd yn croesawu ymwelwyr i’w gweithdai a’u stiwdios ledled y sir. Beth am ddilyn Taith Celf a Chrefft Ceredigion a fydd yn mynd â chi o stiwdio i stiwdio ac o oriel i oriel? Ry'ch chi'n siŵr o gael croeso cynnes gan arlunwyr a gwneuthurwyr talentog sy’n ysu i rannu eu brwdfrydedd am eu crefft a’u milltir sgwâr.