Pwmpenni, swynau ac ysbrydion Calan Gaeaf
Mae nifer o draddodiadau sy'n nodi diwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf – rhai ohonynt yn ymestyn nôl i’r cyfnod cyn-Gristnogol a’r Celtaidd, sef gwyl Samhain, sydd yn cael 'atgyfodiad' unwaith eto. Y gred oedd mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddai’r llen anweledig rhwng ein byd ni a byd yr ysbrydion yn teneuo i alluogi'r ysbrydion i gymysgu â bodau dynol.
Yng Nghymru, Tachwedd 1af oedd diwrnod cyntaf y gaeaf a'r noson gynt yn cael ei adnabod fel Calan Gaeaf, Noswyl Gaeaf neu Ysbrydnos - pan ddeuai ysbrydion allan i ymweld.
Mae Calan Gaeaf yn disgyn yn ystod hanner tymor yr ysgol, felly mae llawer o weithgareddau ar gael i ddiddanu'r plant a chyfle gwych i wisgo i fyny a chael tipyn o hwyl.
Yn gyntaf... dewiswch eich pwmpen! Mae yna gaeau pwmpenni lle gallwch chi gasglu eich pwmpen eich hun i'w cherfio gartref neu ymuno â gweithgareddau cerfio pwmpenni, gemau neu grefftau creadigol eraill ledled Ceredigion.
Gweithgareddau creadigol Calan Gaeaf i blant
Mae’r hydref yn adeg hyfryd i grwydro o gwmpas Llanerchaeron, ac heb os, gan ystyried bod y stad hanesyddol gyda sylfeini canoloesol, neu hyd yn oed hŷn, bydd ambell ysbryd a stori ddiddorol i’w darganfod. Ymunwch yn sbri'r ysbrydion gyda amrywiaeth o weithgareddau o amgylch y buarth y fferm a’r ardd furiog gan gynnwys gwisgo bwganod brain a dilyn llwybr drysau tylwyth teg arswydus. Bydd diodydd a danteithion yn cael eu paratoi yng nghegin y plasty, a storïwr wrth law i ddatgelu dirgelion a chymeriadau’r gorffennol.
Mae gan Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar Gorsydd Teifi ger Cilgerran Lwybr Sialens Natur Calan Gaeaf ac mae gweithgareddau crefftau ar gyfer plant ar gael trwy gydol wythnos hanner tymor.
Teithiau tywys yn y tywyllwch a straeon Calan Gaeaf
A allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau - pa stori arswyd sy'n anghredadwy? Bydd yr arbenigwraig ar fosaigiau Aberystwyth, Alison Pierse yn yn eich arwain ar daith gerdded i'ch trochi yn hanesion tref Aberystwyth. Mae rhai o'r straeon yn wir a rhai ohonynt yn gellwair coeglyd - ond pa rai?
Bydd yr arbenigwraig Delyth Badder yn Aberystwyth, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn siop lyfrau Waterstones yn cyflwyno a thrafod straeon a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru dros y canrifoedd
Anifeiliaid annwyl neu arswydus?
Ar ymweliad a gwarchodfa RSPB Ynys-hir gyda'r teulu gallwch ddilyn cliwiau i ddarganfod anifeiliaid 'arswydus' o bob math sy'n byw yn y warchodfa, a chael atebion i 'pwy sydd ond n mentro allan liw nos'? pa greadur sydd ag wyth coes?
Mae nifer o ddigwyddiadau eraill i'r teulu ar y warchodfa dros wyliau Hanner Tymor gan gynnwys gwylio adar, archwilio pyllau, crefftau a thaith dywys arbennig ar gyfer Calan Gaeaf ar Hydref 31ain gyda gemau a siocled poeth o gwmpas y tân.
Allwch chi daclo sialens natur Calan Gaeaf gwarchodfa Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a helpu i warchod natur rhag peryglon ynfyd?
Mae golygfa anhygoel i'w gweld gyda'r cyfnos yn Aberystwyth yn ysgod yr hydref a'r gaeaf. Dyma pryd daw'r drudwy i glwydo dan y Pier ar ol bod yn hedfan yr awyr mewn patrymau chwyrliog. Allan nhw eich hudo chi gyda'u patrymau cyfareddol?
Beth am ymweld a Phontarfynach i brofi awyrgylch y ceunant a gweld y bont drosto roddodd sail i'r chwedl enwog.
Halloween a Chalan Gaeaf yn y 'Silver Mountain Experience'
Mae safle mwynglawdd arian plwm o’r 19eg ganrif wedi’i adfer yn atyniad sy'n dehongli hanes mwyngloddio Ceredigion, ac mae eisoes yn atseinio â straeon arwrol a brawychus o’r gorffennol, ond dros gyfnod Calan Gaeaf mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal sy'n cynnwys profiadau newydd gyda nodweddion rhyngweithiol.
Mae’r teithiau tywys y Black Chasm yn arwain ymwelwyr drwy chwedlau am hanes, mythau a chwedlau Cymru ac ar gyfer Calan Gaeaf mae hanesion brawychus a straeon ysbryd wedi eu hychwanegu fydd yn siwr o godi gwallt eich pen!
Ar gyfer aelodau ifancach y teulu mae cyfle i gerfio pwmpenni, a gall plant o bob oed ddilyn Llwybr Swyn y Gwrachod trwy chwilio am y cynhwysion sydd eu hangen ar ein Gwrach preswyl i fragu ei sudd swynol? Efallai y bydd danteithion i’r rhai sy’n dod o hyd iddyn nhw i gyd…
Terror Mountain
Cynhelir digwyddiad Calan Gaeaf Terror Mountain ar safle'r Silver Mountain Experience ar nosweithiau dethol ym mis Hydref. Yn llawn gwefr a braw, mae’r digwyddiad arswyd rhyngweithiol unigryw yn cynnwys pum atyniad arswyd gwefreiddiol tra bod diddanwyr stryd yn crwydro’r safle. Byddan nhw’n sicr eisiau cwrdd â chi, ond a fyddwch chi eisiau cwrdd â nhw?
Archwilio'r Paranormal
Mae'r Silver Mountain Experience yn cynnal ymchwiliadau paranormal gyda'r nos ar ddyddiadau penodol yn ystod y flwyddyn. Yn ôl y sôn, mae’r mwynglawdd Fictorianaidd yn cael ei aflonyddu gan nifer o ysbrydion. Yn ystod yr archwiliad paranormal byddwch yn cael mynediad i wahanol rannau o'r mwynglawdd dan oruwchwyliaeth tîm arbenigol i gasglu tystiolaeth gyda'r offer gwyddonol diweddaraf yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol.
Gwyl ffilmiau arswyd Abertoir
Gŵyl ffilmiau sy'n arbenigo mewn ffilmiau arswyd o bob math yw Abertoir. Fe'i cynhelir yn flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn ogystal â dangos ffilmiau arswyd newydd sydd â chyllideb fawr, mae ffilmiau clasurol ac annibynnol yn rhan fawr a phwysig o arlwy’r ŵyl. Yn ogystal â dangosiadau ffilm, mae’r ŵyl yn cynnwys cyngherddau, sioeau theatr a dosbarthiadau meistr ar bynciau amrywiol yn ei rhaglen. Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth ffilm fer, sy'n arddangos ffilmiau byrion arswyd a ffantasi o bedwar ban byd.
Arddangosfeydd tân gwyllt
Mae cynnau coelcerthi yn draddodiad Calan Gaeaf hynafol iawn. ac ers canrifoedd yn gysylltiedig â choffáu Cynllwyn Guto Ffowc.
Trefnir arddangosfeydd tân gwyllt yng Ngheredigion gan sefydliadau elusennol a chymunedol i godi arian at achosion da lleol.