Gwyliau bwyd a diod Ceredigion

Mae gŵyliau bwyd Ceredigion yn gyfle gwych i flasu cynnyrch lleol, i gwrdd â chynhyrchwyr a gwylio cogyddion enwog wrth eu gwaith, i grwydro o amgylch stondinau o bob math a chymeryd rhan mewn cystadlaethau, ac, wrth gwrs i ymlacio, mwynhau.


Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed - Chwefror 17, 2024

Ry'ch chi'n siŵr o gael croeso cynnes yn yr ŵyl hon sy’n dathlu cwrw, lagyr, a seidr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys diodydd newydd a lleol. Mae’r cyfan yn digwydd ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng nghanol Llambed.

Gŵyl Fwyd Llanbedr Pont Steffan: Sadwrn, Gorffennaf 27, 2024

Campws hyfryd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw lleoliad Gŵyl Fwyd Llambed. Yno, cewch gwrdd â chynhyrchwyr lleol, blasu cynnyrch rhagorol, a chrwydro o stondin i stondin a fydd yn gwerthu bwyd, diod, perlysiau a chrefftau dan gysgod y coed. Bydd cerddoriaeth yn llenwi’r awyr o amgylch y ffynnon yng nghwad y coleg, a bydd cogyddion adnabyddus yn rhannu eu cyfrinachau yn y babell arddangos boblogaidd.

Gŵyl Cwrw a Seidr Aberaeron: Sadwrn, Awst 10, 2024

Clwb Hwylio Aberaeron sy’n trefnu Gŵyl Cwrw a Seidr Aberaeron, un o uchafbwyntiau bwyd a diod y dref harbwr liwgar hon. Cewch flasu detholiad o seidr a chwrw gorau Cymru, a mwynhau cerddoriaeth fyw ac adloniant o ganol dydd tan yn hwyr y nos.

Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi: Sadwrn, Awst 17, 2024

Ar y cei yn Aberteifi, mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi yn cyfuno gweithgareddau hwyliog ar afon Teifi â rhaglen o gerddoriaeth fyw, arddangosfeydd coginio, gweithgareddau i blant, a stondinau bwyd a chrefft o bob math. Mae safle’r ŵyl yn ddelfrydol i weld cwryglau afon Teifi ac i gefnogi’r cystadleuwyr sy’n rasio ar yr afon. Cewch gyfle hefyd i fynd am daith mewn cwch ar y dŵr.

Gŵyl Bwyd Stryd Aberystwyth: i'w gadarnhau  

Bydd Street Food Warehouse yn dod i’r dref am benwythnos i rannu danteithion o bob rhan o’r byd: o Ogledd a De America, Asia ac Affrica, i Ewrop a Chymru. Bydd dwsinau o stondinau a faniau’n gweini bwyd o bob math yn awyrgylch hamddenol marina Aberystwyth. Bydd yno rywbeth at ddant pawb.

Dathlu'r Afal, Llanerchaeron: 27 - 29 Medi 2024

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn trefnu Diwrnod yr Afal i ddathlu tymor yr afalau. Ar ystad Llanerchaeron, mae dros 50 o wahanol fathau o goed afalau’n tyfu yn yr ardd furiog, gan gynnwys rhai coed afalau hynafol. Bydd yno deithiau tywys, gêmau a gweithgareddau i blant, a stondinau sy’n gwerthu cynnyrch afalau. Cewch hyd yn oed ddod â’ch afalau eich hun gyda chi i gael gwybod pa fath o goed afalau sy'n tyfu yn eich gardd chi.

Diwrnod Afalau Llambed: Hydref

Mae cwmni manwerthu a chyfanwerthu Watson and Pratt yn Llambed yn cynnal dathliad blynyddol gyda eu cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol. Mae'r digwyddiad yn cynnwys stondinau bwyd, sgyrsiau, crefftau a gweithgareddau yn ogystal â'r wasg afalau poblogaidd. Dewch â'ch afalau i'w gwasgu a photeli i fynd a'r sudd blasus a ddaw o'r broses gartref gyda chi.