Gweledigaeth y trefnwyr ar gyfer Gŵyl Gomedi Aberystwyth yw darparu gofod i berfformwyr i gyflwyno sioeau caboledig yn dilyn slotiau ‘gwaith ar y gweill’ yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth yn y gwanwyn, a Gŵyl Ffrinj Caeredin dros yr haf.
Beth i'w ddisgwyl
Mae lleoliadau Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn amrywio o fannau bach, agos-atoch ar gyfer hyd at 50 o bobl i leoliadau mawr gyda chymaint â 900 o seddi. Mae nifer o'r lleoliadau o fewn tafliaid carreg o'u gilydd ger glan môr Aberystwyth neu gerllaw yn y dref, gan gynnwys lleoliadau fel Theatr Arad Goch, Y Cŵps ac Amgueddfa Ceredigion. Mae’r ŵyl yn dal i dyfu tyfu ac yn ehangu ei chyrhaeddiad drwy’r dref ac i fyny i gampws Prifysgol Aberystwyth.
Ar nos Wener a nos Sadwrn cynhelir sioe fawr gyda nifer o wahanol ddigrifwyr yn perfformio. Cynhelir y sioeau dwy awr o hyd yma yn sinema'r Commodore yn y dref. Mae lein-yp gwahanol ar y ddwy noson.
Comedi ar gyfer y teulu cyfan
Mae gan lawer o’r sioeau gyfyngiad oedran, felly mae’n werth gwirio cyn prynu tocynnau i unrhyw un o dan 18 oed.
Mae yna sioeau pwrpasol i deuluoedd, gan gynnwys perfformiadau i blant ifanc.
Comedi Cymraeg
Ni fyddai Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn gyflawn heb sawl sioe drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r sioeau yma'n boblogaidd iawn ac yn gwerthu allan yn gyflym.
Sioe arall sy'n boblogaidd yw'r sioe ' cyfieithu ar y pryd'. Mae'n sioe anarchaidd gyda'r digrifwyr yn perfformio yn Gymraeg a'r gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Dim problem, heblaw am fod pob cyfieithydd yn y wlad wedi gwrthod gwneud dim ar gyfer y digwyddiad, yn ôl y sôn, felly mae rhaid i'r comediwyr eu hunain ddarparu'r gwasanaeth cyfieithu! Yn serennu’r cyfieithydd-digrifwr Steffan Alun a rhestr o berfformwyr gorau’r sîn Gymraeg.
Llanast hollol ddoniol - byddwch chi’n chwerthin o’r dechrau i’r diwedd – a bron yn sicr yn dysgu llawer am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ar hyd y ffordd os ydych yn deall Cymraeg neu beidio!.
Tocynnau ar gyfer y sioeau
Dim ond ar gyfer y sioeau rydych eisiau eu gweld mae angen i chi brynu tocynnau ar eu cyfer, sy'n golygu y gallwch weld unrhyw nifer y dymunwch eu gweld dros y penwythnos. mae rhai sioeau'n gwerthu allan yn gyflym iawn, felly os oes sioe rydych wirioneddol eisiau ei gweld, mae'n well archebu o flaen llaw trwy wefan Gŵyl Gomedi Aberystwyth. C
Os gwell gennych ddewis ar y pryd yn ystod y penwythnos, mae swyddfa docynnau yn y Bandstand ar y Prom yn gwerthu tocynnau ar gyfer y sioeau sydd dal gyda seddi ar ôl.