Dathlu Gwyl Dewi yng Ngheredigion

Mae dathlu Dydd Gwyl Dewi ym mhob cymuned, bach a mawr, ar draws Ceredigion, gyda'r plant yn gwisgo lan i fynychu'r parêd lleol, a bwyd a diod, cerddoriaeth a phartio ar gael hefyd.  Y dyddiad swyddogol yw Mawrth 1af wrth gwrs, ond gall y dathliadau barhau am sawl diwrnod, i gynnwys y penwythnos.  

Dydd Gwyl Dewi hapus!


Parêd  Dydd Gwyl Dewi

Baneri, pypedau enfawr. plant yn eu gwisgoedd traddodiadol - mae parêds Gwyl Dewi Ceredigion yn llawn lliw a hwyl.  Mae'r cyfnod yn gyfle i gymunedau cyfan ddod at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau.   

Yn Aberystwyth, mae'r achlysur yn gyfle i anrhydeddu pobl leol sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'r gymdeithas leol a Chymru.  Pob blwyddyn dewisir 'tywysydd' i arwain y parêd ac i annerch y dorf.  

Dewch i ymuno a'r orymdaith - beth am wisgo mewn coch gyn a gwyrdd neu hyd yn oed wisg draddodiadol?

Yn Aberteifi mae draig enfawr cwmni theatr Byd Bychan yn arwain plant ysgolion yr ardal trwy'r dref am y castell.  

Plant y dref sy'n ganolog i barêd Llanbedr Pont Steffan  ac Aberaeron hefyd. 

Gwisg gennin yn dy gap a gwisg hi yn dy galon 

Bydd yn amlwg ei bod yn gyfnod dathlu Dydd Gwyl Dewi, gan y bydd ffenestri siopau'r trefi wedi eu haddurno gyda symbylau Cymru a chynnyrch lleol, a byrddau caffis gyda bwnsied o gennin Pedr yn addurno'u byrddau. 

Mae Dydd Gwyl Dewi yn gyfle i 'wneud y pethau bychain' fel dywedodd Dewi. Mae gweithred fach feddylgar a charedig yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. 

 

Gallwch weld cennin a chennin Pedr yn tyfu yn yr un ardd furiog ar ystad Llanerchaeron. 

Cawl, pice ar y maen a bara brith- blasus!

Fel pob traddodiad teuluol, mae pawb a'i rysait cawl arbennig, ond fel arfer mae'n cynnwys cig ( cig oen neu eidion) a chymusgedd o lysiau tymhorol.  Mae wastad yn cael ei weini gyda colffyn da o gaws, a bara menyn.

Mewn neuaddau pentref ar draws y sir mae cymunedau'n dod ynghyd i fwynhau disgl hael o gawl yng nghwmni ei gilydd.  Os bydd dal le yn y bola, bydd tarten afal neu bwdin reis i ddilyn a phaned a phice neu fara brith i orffen.  

Cewch gawl ar y fwydlen bron ym mhob caffi  - a gallwch gael llond cwpan fawr i fynd bant a chi o siop Coop Tregaron. Does dim gwell ar bod ma dro neu reid beic. 

Cerdd a dawns 

Yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth cynhelir cyngherddau ardderchog, a i ddathlu Dydd Gwyl Dewi bydd doniau adnabyddus yn ymgynnull i gynnal cyngerdd arbennig.  Yn ymuno a'r gantores fyd enwog, Gwawr Edwards, bydd talentau ifanc Band Pres Ysgolion Aberystwyth a chor  Ysgol Llanilar. Byddant yn cael eu cefnogi gan Fand Arian Aberystwyth, Sgarmes, Meibion y Mynydd  Triano, Banc chwyth Profysgol Aberystwyth a daua gor 'Choirs for Good' ardaloedd Aberystwyth a Llanidloes.

Bydd bandiau Cymraeg yn perfformio'n lleol hefyd, ac os digwydd Dydd Gwyl Dewi fod yr un pryd a gem rygbi - wel, dyna fydd hwyl - beth bynnag fo'r sgôr! 

Cynhelir twmpath dawsio gwerin yn fisol yn Aberystwyth, ac yn yr haf mae'n ddigon tebygol y gwelwch chi ddawnswyr Seithennin yn dawnsio ger y Bandstand ar y Prom yn Aberystwyth.  Mae croeso i chi ymuno a nhw a dysgu'r symudiadau, neu gallwch falle achub ar y cyfle i werthfawrogi crefft clocsiwr heini.  

Y wisg a'r het Gymreig 

Wyddoch chi bod mwy hag un canolfan gwneud hetiau yng Ngheredigion slawer dydd?.

Yn ol cofnod yn y Topographical Dictionary of Wales (1833) roedd gwlan Ceredigion ( Cardiganshire bryd hynny) yn ardderchog ar gyfer ffeltio i wneud hetiau  ‘Cardiganshire wool has long been noted for its felting quality, owing to which, and to the cheapness and abundance of peat fuel, the hat manufactories are very numerous: in these are made most of the common hats worn in South Wales, which are strong and durable: the wool of the Michaelmas shearing is the best for this purpose. The above manufactures consume the greater part of the wool produced in the county’

Mae casgliad arbennig o hetiau Cymreig yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, a gallwch weld esiamplau yn arddangosfa Canolfan Dreftadaeth Tregaron hefyd. r

Tra yn Aberystwyth, ewch draw at yr Hen Goleg i chwilio am y 'gargoyle' o ferch yn gwisgo het Gymreig. Mae aanifer o ddreigiau i'w gweld hefyd.  

 

Ewch i ymweld a llefydd Dewi Sant yng Ngheredigion

Un o'r ll fydd enwocaf yn hanes Dewi Sant yw Llanddewi Brefi. Dyma lle cododd y tir dan ei draed fel bod y dorf fawr oedd wedi ymgynnul i'w glywed yn siarad yn gallu ei weld hefyd.  Ewch lawr i'r arfordir hefyd - i bentref ac eglwys Llanon, ac ymlaen i eglwys fach Mwnt lle bu pererinion yn galw ar y ffordd i Dyddewi.