Digwyddiadau Capital of Craft LIVE
Dros dridiau Gŵyl Grefftau Cymru, bydd The Capital of Craft Live yn cael ei gynnal yn Ystafell Tŵr Castell Aberteifi. Mae Capital of Craft Live yn cynnwys sgyrsiau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau panel gyda gwneuthurwyr blaenllaw, gan archwilio pwysigrwydd gwneud a dyfnder ymarfer crefft yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi archebu eich sedd ar gyfer Capital of Craft Live i osgoi cael eich siomi.
Archebwch weithdy a rhowch gynnig ar grefft
Mae mwynhau dwy awr o ymlacio, gwneud a dysgu sgil newydd yn rhan bwysig o brofiad yr Ŵyl Grefft. Mae’r gweithdai’n rhoi cipolwg ar y sgil, yr amynedd a’r dycnwch sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr proffesiynol, mae’n helpu i egluro gwerth y gwaith ac mae’n hollol ddifyr!
Gallwch fwynhau peintio crochenwaith, gwneud gemwaith, rhwymo llyfrau, ffeltio nodwydd, brodwaith, gwehyddu a chrosio.
Teuluoedd
Dros y penwythnos yn y castell, bydd Labordy Crefftau Plant, a gefnogir gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Jim Parkyn a Theatr Byd Bychan, yn cynnig cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl. Mae'r sesiynau yma yn rhai galw heibio ac am ddim.
Bydd canlyniadau prosiect ieuenctid gyda Theatr Byd Bychan a QEST yn cael eu harddangos yn Ystafell Miss Woods yn ystod yr Ŵyl Grefft.
Mwy na phenwythnos
Yn ogystal gweithgareddau ar dir Castell Aberteifi dros benwythnos yr Ŵyl, mae gwyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ychwanegol o gwmpas tref Aberteifi fydd yn parhau drwy gydol mis Medi.
Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys arddangosfa o waith serameg gorau Cymru. Mae'r gweithiau yn yr arddangosfa hon, Significant Forms, wedi ei guradu gan y crochennydd o orllewin Cymru, Peter Bodenham i'w gweld yn Oriel Canfas.
Ar wasgar drwy dir Castell Aberteifi drwy gydol mis Medi ((ar ôl yr Ŵyl, mae mynediad i’r Castell yn berthnasol) mae Llwybr Cerfluniau yn cael ei gyflwyno gan Ysgol Gelf Caerfyrddin a Choleg Ceredigion. Hefyd bydd porth arbennig wedi ei greu gan Michelle Cain, artist lleol sy'n creu gwaith trawiadol allan o helyg, yn croesawu ymwelwyr i Ŵyl Grefft Cymru yn y Castell. Bydd y bwa i'w weld yno tan ddechrau mis Hydref.
Trywydd crefftau tref Aberteifi
Mae trefnwyr Gŵyl Grefftau Cymru wedi partneru gyda Oriel Myrddin a chwech lleoliad arbennig yn Aberteifi i greu trywydd crefftau cyfoes ar draws y dref fydd yn arddangos gwaith newydd gan chwe gwneuthurwr dawnus o bob rhan o Gymru. Gwahoddwyd pob gwneuthurwr i ymateb i weithiau celf o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.
Mae’r gwaith a gomisiynwyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfryngau artistig, gan gynnwys cerameg, tecstilau a gwehyddu helyg, i ailddehongli gweithiau celf o’r Casgliadau Cenedlaethol. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, y nod yw gwneud y casgliadau gwerthfawr hyn yn fwy hygyrch ac atyniadol i bawb.