Daw'r llwybr celf â chreadigrwydd i galon Aberystwyth, gan wneud celf yn hygyrch i bawb. Yn cynnwys gwaith gan artistiaid lleol a myfyrwyr Coleg Ceredigion, mae’r llwybr hwn yn trawsnewid ffenestri siopau a mannau cyhoeddus yn orielau bach i bawb eu mwynhau.
Crwydrwch y dref, cymerwch y cyfan i mewn, a dathlwch y dalent y gymuned.
Marathon lluniau
Dyma gyfle i sylwi a chofnodi manylion a gwahanodd agweddau o Aberystwyth a'i phobl, trwy dynnu lluniau.
Cyfranwch eich lluniau chi o gariad a chreadigrwydd gyda’r marathon lluniau cymunedol. Ar agor i bawb, dyma wahoddiad i ateb heriau creadigol yn ystod Gŵyl Cariad Aber. Daw’r canlyniadau at ei gilydd mewn digwyddiad gweledol cyffrous, cydweithredol fydd yn ddiweddglo arbennig i’r ŵyl.
Gweithdai i bawb
Whether you’re looking to learn something new, connect with others, or simply have fun, our workshops are open to all.
P’un a ydych yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd, cysylltu ag eraill, neu hyd yn oed, yn syml, i fwynhau, mae nifer o weithdai yn cael eu cynnal yn ystod yr Wyl, ac maent ar agor i bawb. O sesiynau ymarferol creadigol i ddysgu sgiliau, bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnal gan artistiaid, busnesau a lleoliadau lleol.
Cerddoriaeth a barddoniaeth
Gyda pherfformiadau agos-atoch ar draws lleoliadau yn Aberystwyth, profwch wefr ddaw o wrando a mwynhau cerddoriaeth a pherfformiadau byw. O farddoniaeth i nosweithiau cerddorol wedi’u hysbrydoli gan gariad, bydd y digwyddiadau hyn yn tynnu talentau lleol i’r amlwg, gan ddathlu thema’r ŵyl mewn ffyrdd annisgwyl ac emosiynol