Digwyddiadau
Gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i’ch diddanu, mae Ceredigion yn fwrlwm o weithgareddau gydol y flwyddyn. Ry’n ni’r Cardis yn gwybod sut i gael hwyl, ac ry’n ni’n barod i ddathlu popeth, o’n ceffylau cynhenid a’r macrell di-nod i gerddorion ac artistiaid o fri. Mae bwyd da a cherddoriaeth dda yn rhan annatod o’n bywyd ac mae yma ddigon i'w rannnu gyda pawb.
Dewch i ymuno yn yr hwyl. Fe welwn ni chi yno!
Dilynwch y linciau ar y tudalennau isod i gael mwy o fanylion, a gwelwch restr digwyddiadau tudalen gweplyfr Darganfod Ceredigion Facebook Events

Mae Gŵyl Cariad Aber yn ŵyl gelfyddydol arbrofol sy’n dathlu cariad ym mhob ffurf - rhamantus, teuluol, a chariad at greadigrwydd a’r gymuned.
Cynhelir digwyddiadau ar draws Aberystwyth rhwng Dydd Santes Dwynwen ar Ionawr 25 a Dydd San Ffolant ar Chwefror 14. Mae'r ŵyl yn trawsnewid y dref gyda creadigrwydd i'w weld mewn ffenestri busnesion o bob math, digwyddiadau cerddorol a barddoniaeth, gweithdai creadigol i bob oedran a digwyddiadau lliwgar.

Mae Ceredigion yn dathlu nawddsant Cymru mewn steil gyda gorymdeithiau, bwyd a diod, cerddoriaeth a dawnsio. Y dyddiad swyddogol yw Mawrth 1af, ond gall dathliadau gael eu cynnal dros ychydig ddyddiau i gynnwys y penwythnos.
Dewch i ddathlu gyda ni, ond cofiwch y gallwch fwynhau'r iaith Gymraeg ac ymweld â rhai o’r lleoedd sy’n gysylltiedig â Dewi Sant a manteisio ar y cyfle i ymarfer eich sgiliau Cymraeg yng Ngheredigion unrhyw adeg o'r flwyddyn.

Chwilio am hwyl a sbri gyda'r teulu dros wyliau'r Pasg yng Ngheredigion?
Dyma syniadau i ddiddanu'r plant dros yr wyl gan gynnwys helfa wyau mewn lleoliadau hyfryd fel Ystad Llanerchaeron a Gerddi Cae Hir lle gall yr oedolion ymlacio gyda phaned hefyd.
Mae dewis o weithgareddau celf, crefft, stori a natur i'r plant lleiaf, ac adloniant gan gymeriadau a theatr i blant o bob oed. Ceir gweithgraddeddau dan do mewn pyllau nofio, canolfannau hamdden a hwyl , neu gallwch weld anifeiliad fferm, neu mynd ar drip cwch neu mewn tren.

NEWYDD ar gyfer Medi 2024 - Mae Gŵyl Grefft Cymru yn Aberteifi yn dod â’r goreuon ynghyd o blith crefftau cyfoes - gemwaith, cyfryngau cymysg a metel, papur, pren a thecstilau.
Dros dridiau ar ddechrau Medi bydd Castell Aberteifi yn fwrlwm o weithgaredd gyda gweithdai, arddangosiadau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau gydag ystod o wneuthurwyr blaenllaw.
O gwmpas y dref mae trywydd celf yn cyflwyno gwaith chwe artist mewn chwe lleoliad diddorol.
Mae gweithgareddau ar gyfer plant, theatr, adrodd straeon, cerddoriaeth a bwyd yr ŵyl.

Rali Ceredigion yw un o ddigwyddiadau mwyaf y byd moduro ym Mhrydain gyda cefnogwyr o bob rhan o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth i fwynhau penwythnos cyffrous o ralio.
Mae Rali Ceredigion yn gymal ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA sy’n dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Dros dridiau ddiwedd Awst, bydd gwylwyr yn cael cyfleoedd gwych i archwilio’r ceir, cwrdd â’r gyrwyr a gwylio eu harwyr ar waith dros y penwythnos.
#RaliCeredigion

Cynhelir Gŵyl Gomedi Aberystwyth dros y penwythnos cyntaf ym mis Hydref.
Dewch i weld a chwerthin gyda sêr newydd y sîn comedi yng Nghymru, comedïwyr teledu adnabyddus, sioeau caboledig yn syth o'r Edinburgh Fringe yn ogystal â gweithiau ar y gweill a pherfformiadau newydd.
Mae’r ŵyl yn cynnwys tua 100 o sioeau unigol mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Aberystwyth o’r Pier ar lan y môr i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar allt Penglais.

Gwyl Lleisiau Eraill - Aberteifi
Mae Gwyl Lleisiau Eraill /Other Voices yn benwythnos o gerddoriaeth sy’n rhoi llwyfan i artistiaid newydd a mwyaf disglair Iwerddon a Chymru.
Cyflwynir cerddoriaeth o bob math, gan gynnwys o hip-hop ac electronica i'r traddodiadol a gwerin gyfoes. Mae'r perfformiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar y Llwybr Cerdd o amgylch Aberteifi, gan gynnwys tafrndai a bariau, bwytai a galeriau, yn ogystal a Theatr Mwldan.
Yn cyd-fynd â’r gerddoriaeth mae Clebran – cyfres o drafodaethau rhwngartistiaid, gwleidyddion ac athronwyr Cymru ac Iwerddon.

Gwyliau cerdd, drama, comedi a chyngherddau
Mae Aberystwyth ac Aberteifi yn ganolfannau creadigrwydd, yn byrlymu gyda gweithgaredd artistig trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â rhaglenni amrywiol o ddigwyddiadau yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, theatr, dawns, ffilm, darllediadau byw ac arddangosfeydd o ganolfannu celfyddydol ar draws y byd. Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Theatr Mwldan, Theatr Byd Bychan a Theatr Felinfach fe ddewch o hyd i'r celfyddydau yn cael eu dathlu ledled Ceredigion. Mae Ceredigion yn eich gwahodd i fwynhau gwyliau cyfeillgar i deuluoedd sy’n gwneud y gorau o’u lleoliadau tref a gwlad.

Mae Ceredigion yn llawn straeon gwych am ysbrydion, y bwci, toili a swynion.
Mae Calan Gaeaf a choelcerthi yn nodi’r newid yn y tymhorau, a nosonweithiau tân gwyllt yn cael eu trefnu gan grwpiau cymunedol i godi arian i achosion da.
Os ydych yn hoffi straeon, cael tipyn o hwyl a braw- mae digwyddiadau arbennig yma ar eich cyfer.
Mae hefyd yn wylilau Hanner Tymor, ac mae digon o weithgareddau crefft, natur a hwyl Calan Gaeaf i ddiddanu plant hefyd.

Dewch at ein gilydd i ddathlu.
Yma yng Ngheredigion mae cyfle i ymlacio a mwynhau Nadolig cysurus traddodiadol, cyfarfod ger tan agored cynnes mewn tafandai croesawgar, gwledda ar gynnych lleol, cerdded llwybrau hwylus. Mae digon yma i'ch diddanu hefyd gyda cyngherddau a hwyl a sbri Nadoligaidd. Fuoch chi erioed ym Mhantomeim Felinfach - os na mae'n bryd ei brofi!
Gwnewch y gorau o'r cyfle i siopa'n lleol ac yn hamddenol. Cewch ddewis arbennig o gynnyrch lleol ffres a ffeiriau lle byddwch yn darganfod dawn crefftwyr a chogyddion y sir.

Yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd trwy'r flwyddyn, mae gan Geredigion sawl gŵyl fwyd a diod yn ystod y flwyddyn, lle gallwch chi flasu danteithion a chynnyrch crefftus lleol.
Blaswch gwrw wedi’i fragu a gin a wisgi wedi’u distyllu’n lleol, blaswch fwyd môr Bae Ceredigion a sewin afon Teifi a darganfyddwch amrywiaeth o gaws, teisennau a chyffeithiau a gynhyrchwyd yn lleol.
Ymlaciwch, mwynhewch, a gwnewch ychydig o siopa am ddanteithion a chofroddion blasus o Geredigion.

Mae'n debyg bod gan Geredigion fwy o sioeau nag unrhyw ardal arall, gyda phob cymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu, cystadlu a chael hwyl. Dewch i edmygu'r anifeiliaid a chael eich syfrdanu gan y gorau o gefn gwlad Ceredigion.
Mae gan bob sioe ei chymeriad ei hun, ac mae ystod eang o ddosbarthiadau o goginio, crefft a gosod blodau i yrru cerbydau, cneifio defaid a chystadlaethau cŵn.
Efallai y byddech chithau hefyd am roi cynnig ar rai o'r dosbarthiadau hwyl?

Croesawyd yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd i Geredigion fwy na dwsin o weithiau erbyn hyn, ac maent wedi bod yn eisteddfodau bythgofiadwy.
Mae gan Geredigion draddodiad cryf o 'steddfota, gyda eisteddfodau'n cael eu cynnal mewn ysgolion, capeli a neuaddau tref a phentref ar draws y sir.
Dewch i fwynhau bwrlwm y cystadlu gan dalentau lleol ac adnabod sêr y dyfodol cyn iddynt ddod yn enwog.