Rheilffordd Cwm Rheidol
Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cysylltu Aberystwyth â Phontarfynach, gan ddilyn llwybr trawiadol drwy Gwm Rheidol. Ar ôl ymlwybro ar hyd dolydd yr iseldir, mae’r trên stêm yn pwffian ei ffordd i fyny’r llethrau coediog, gan roi cyfle i’r teithwyr fwynhau golygfeydd heb eu hail o’r llynnoedd a’r rhaeadrau. Mae’r trên yn galw mewn gorsafoedd bychain lle gallwch fynd am dro i weld Rhaeadrau Rheidol, gorsaf bŵer trydan-dŵr Cwm Rheidol gyda’i chanolfan ddŵr, ei chronfa ddŵr a’i grisiau pysgod, a’r Tŷ Glöyn Byw drws nesaf.
Beth am gerdded rhan o’r ffordd drwy’r coed i’r orsaf nesaf, a mwynhau picnic ar lan yr afon?
O orsaf Pontarfynach, wrth gwrs, gallwch fynd i weld y pontydd enwog dros Raeadr Mynach.
O bryd i’w gilydd, bydd Rheilffordd Cwm Rheidol yn trefnu teithiau a digwyddiadau arbennig gan gynnwys tripiau gyda'r hwyr yn yr haf, tren Sion Corn adeg y Nadolig. Gallwch hefyd roi cynnig ar yrru trên bach ym Mhontarfynach.
Ar hyd y Dyfi gyda bws a thrên
I ddarganfod ardal Biosffer Dyfi, gallwch deithio ar y trên o Aberystwyth i Fachynlleth. Gallwch alw yn y Borth i ddarganfod Cors Fochno, coedwig danddwr Cantre’r Gwaelod, afon Leri, a thwyni tywod Ynys-las?
Gallwch fynd ymlaen i Fachynlleth gyda'r trên, neu aros i newid yng Nghyffordd Dyfi er mwyn teithio i Aberdyfi ar ochr arall yr aber lle gallwch chwilio am y gloch sy’n canu adeg penllanw. Mae'r gyffordd yng nghanol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Nid yw’n gwbl ynysig: mae llwybr troed tua cilomedr o hyd yn arwain i Glandyfi a'r brif ffordd (yr A487).
Wrth deithio gyda bws, gallwch alw yn Nhalybont, Tre Taliesin a Thre'r Ddol i archwilio rhai o lwybrau'r mwynwyr. Yn Eglwysfach mae gwarchodfa natur Ynyshir yr RSPB. Gallwch alw yn eglwys Sant Mihangel Eglwysfach, lle bu RS Thomas yn rheithor.
Gerllaw yn Ffwrnais mae ffwrnes Dyfi, adeiladwyd ym 1755, a'r rhaeadr ar yr afon Einion. Grym yr afon fu'n gyrru olwyn ddŵr y ffwrnais.
O Fachynlleth gallwch ymweld a Chanolfan y Dechnoleg Amgen - mae bysus TrawsCymru yn pasio pen y ffordd yn rheolaidd. Gam ymhellach mae Corris, lle mae Rheilffordd fu gynt yn cario llechi o'r cloddfeydd, yn cael ei hadfer, ac ym mherfeddion y mynydd a gloddwyd mae atyniad Labyrinth y Brenin Arthur, ger Canolfan Grefft Corris.
Dyffryn y Teifi gyda bws
Beth am ddal bws rhif 460 i grwydro ar hyd gwaelod Dyffryn Teifi o Aberteifi, gan ymweld â rhaeadrau Cenarth, tref farchnad Castellnewydd Emlyn, ac Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhrefach Felindre? Mae bws 460 yn galw yn Henllan hefyd. Yma mae Rheilffordd Dyffryn Teifi yn cael ei hadfer gan grwp brwd o wirfoddolwyr. Mae'r trenau yn rhedeg yn ystod gwyliau'r haf, a gwyliau banc , ac mae trenau Sion Corn dros y Nadolig.
Neu beth am ddal bws rhif 551 neu 552 i deithio drwy’r wlad i Landysul, ac yna nôl i’r arfordir yng Nghei Newydd?
Crwydro cefn gwlad Ceredigion ar fws
O Aberystwyth, gallwch ddal bws rhif 585 sy’n teithio drwy Langeitho, Tregaron, Llanddewi Brefi a Chellan i Lambed. Ar y ffordd, cewch weld llefydd lle bu’r porthmyn yn casglu defaid a gwartheg ynghyd cyn dechrau ar eu siwrnai dros y mynyddoedd i farchnadoedd Lloegr. I gael blas ar yr hen lwybrau hyn, beth am fynd am dro ar hyd llwybrau cerdded sy'n dechrau yn y trefi a’r pentrefi hyn?
Mae bws rhif 588 hefyd yn cysylltu Aberystwyth â Llambed, gan deithio dros y Mynydd Bach, drwy gymunedau bach Trefenter a Bethania, i Langeitho, Llanio a Llangybi yn nyffryn afon Dulas.
Mae bws T1 TrawsCymru hefyd yn teithio o Aberystwyth i Lambed, gan ddilyn yr arfordir drwy Lanrhystud a Llannon i Aberaeron, cyn troi tua’r wlad a theithio drwy Ddyffryn Aeron i Felin-fach ac i Lambed.
Cysylltu gyda rheilffyrdd eraill arfordir Bae Ceredigion
Bob awr, mae trenau’n teithio o Lundain a chanolbarth Lloegr drwy’r Amwythig a Machynlleth i Aberystwyth. Lein Arfordir y Cambrian yw un o reilffyrdd mwyaf prydferth Ynysoedd Prydain ac, o Aberystwyth, Bow Street a’r Borth gellir teithio I Fachynlleth er mwyn teithio ar hyd arfordir Meirionnydd i Bwllheli ym Mhen Llŷn. Ar hyd y rheilffordd hon, gallwch aros ac ymweld â rhai o reilffyrdd bach Cymru.
Fe gafodd straeon Tomos y Tanc eu hysbrydoli gan Reilffordd Tal-y-llyn. I deithio yno heb gar o Aberystwyth, gallwch ddal trên Lein Arfordir y Cambrian drwy Gyffordd Dyfi neu Fachynlleth i Dywyn. Yno, gallwch ddal y trên stêm i Abergynolwyn dan gysgod Cadair Idris. Ychydig ymhellach i’r gogledd, rhwng llethrau Cadair Idris ac aber afon Mawddach, mae Rheilffordd y Frïog.
Awydd mentro ychydig ymhellach? Os felly, beth am deithio ar hyd Lein Arfordir y Cambrian drwy Harlech i Borthmadog cyn dal trên stêm Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru i ganol mynyddoedd Eryri?
Dewis arall yw teithio i’r dwyrain ar hyd Lein y Cambrian i’r Trallwng lle gallwch fynd am daith ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion.
Darganfod Ceredigion gyda tywysydd lleol
Mae pobl leol yn adnabod lonydd Ceredigion fel cefn eu llaw. Gadewch iddynt rannu eu brwdfrydedd am yr ardal a'ch diddanu gyda hanesion difyr tra maent yn dehongli'r tirwedd, ein treftadaeth, ein diwylliant a'n ffordd o fyw yma yng Ngheredigion.
Gallwch ddewis eich cludiant - bws bach neu fawr ar gyfer grwpiau, car cyfforddus neu hyd yn oed feic modur a 'sidecar' traddodiadol'. Gallwch ddewis hyd eich taith hefyd - o daith flasu fer tua dwyawr o hyd, i dripiau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Bydd yr amser yn hefan heibio!
Bydd taith hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yn eich galluogi i ddarganfod Ceredigion o safbwynt gwahanol, cymeryd hoe i werthfawrogi golygfa a darganfod llefydd gorau cefn gwlad Ceredigion am baned a theisen.