Ar Draeth yr Harbwr, mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion yn cynnal gweithgareddau o bob math, ac mae yno angorfeydd ar gyfer cychod hwylio. Bob mis Awst, bydd regata flynyddol Cei Newydd yn cael ei chynnal ar y traeth ac yn y dŵr. Yno hefyd bydd trigolion lleol yn myn ar ras i fod y cyntaf i’r dŵr ar Ddydd Calan.
Yr ochr arall i wal yr harbwr, fe welwch chi Draeth y Dolau. Mae yno greigiau, cerrig mân a thywod ychydig mwy bras.
I gyrraedd y ddau draeth, gallwch chi gerdded ar hyd rampiau sy’n troi’n fwy tywodlyd wrth i chi agosáu at y traeth.
Traeth Gwyn yw traeth arall Cei Newydd. Mae hwn yn llawer mwy gwyllt, a bydd pobl yn mwynhau mynd â’u cŵn yno i redeg ar hyd y traeth bob adeg o’r flwyddyn. Mae Traeth Gwyn yn estyn am bron i filltir o’r nant garegog sy’n gwahanu’r traeth oddi wrth Draeth yr Harbwr tua thrwyn Llanina. Pan fydd y llanw ar drai, bydd yno draeth tywodlyd llydan; ond gwyliwch rhag i chi gael eich dal ar y traeth pan fydd y llanw’n dod i mewn.