Pentref a thraeth Tresaith

Beth sydd i’w weled yn Nhre-saith? Dyna un o gwestiynau Cynan yn ei gerdd fawl i’r pentref. Wel, heddiw, fe welwch chi draeth o dywod euraid braf, Baner Las yn cyhwfan yn yr awel, pobl yn syrffio ac yn hwylio yn y tonnau, a phlant yn chwilota mewn pyllau glan môr. Mae enw’r pentref yn tarddu o chwedl Geltaidd, ac mae nofel boblogaidd wedi’i lleoli yno hefyd.

Boats on Tresaith beach, Ceredigion

Ar ddiwrnod tawel, mae naws drofannol ar draeth Tre-saith. Bryd arall, bydd y môr yn corddi wrth i wyntoedd y gorllewin hyrddio’r tonnau yn erbyn y clogwyni a’r creigiau. Ar ben gogleddol y traeth, fe welwch chi olion Oes yr Iâ. Yno, mae afon Saith yn disgyn yn syth o’r clogwyn i’r traeth gan fod rhewlif wedi rhwystro a newid ei chwrs ganrifoedd maith yn ôl. Yn y pyllau glan môr, fe welwch chi gregyn llong, cregyn gleision, brennig a gwymon yn glynu wrth y creigiau.

Mae traeth Tre-saith yn lle poblogaidd i syrffio, ac mae yno hefyd glwb hwylio prysur sy’n cynnal rasys bron bob dydd Sul drwy gydol y tymor. 

Ond beth am ddychwelyd at darddiad enw’r pentref? Yn ôl y chwedl, roedd gan frenin Gwyddelig saith o ferched trafferthus ac fe anfonodd y saith i’r môr mewn cwch. Fe laniodd y saith ar arfordir Ceredigion, cyn cwrdd â saith ffermwr lleol, cwympo mewn cariad â nhw, a byw’n ddedwydd weddill eu hoes. Tre-saith oedd y man lle glaniodd y merched, ac mae hyn yn egluro enw’r pentref bach.

Yn ei nofel, The Welsh Witch, mae Allen Raine wedi rhoi’r enw Treswnd i’r pentref.