Mae’r traethau'n swatio’n glyd rhwng penrhyn Trecregyn a phenrhyn Fathgarreg, gyda Phen Trwyn Cynwyl yn gwahanu’r ddau. Yn ôl yr hanes, roedd Cynwyl yn sant ac yn filwr a fu’n brwydro gyda’r Brenin Arthur ym Mrwydr Camlan. Mae’r pentiroedd hyn yn llefydd delfrydol i wylio bywyd gwyllt, gan gynnwys dolffiniaid trwyn potel Bae Ceredigion.
Pan fydd y llanw ar drai, gallwch chi gerdded o’r naill benrhyn i’r llall ar hyd y tywod, a mynd i chwilota mewn llawer o byllau glan môr ac ambell ogof.
Mae Traeth Dolwen yn y bae gorllewinol yn addas i deuluoedd ac yn lle poblogaidd i nofio ac i folaheulo. Yn ystod gwyliau’r haf, bydd achubwyr bywyd yn cadw llygad ar y traeth.
Fe welwch chi afon Howni’n naddu ei ffordd ar hyd ochr ddwyreiniol Traeth y Dyffryn. Gall cŵn fynd i’r traeth hwn drwy gydol y flwyddyn.
Gyda chysgod rhag y gwyntoedd cryfion, mae traethau Aberporth hefyd yn ddelfrydol i syrffwyr. Ar Ddydd San Steffan ( Rhagfur 26), beth am ymuno â’r trigolion lleol am 11 y bore i weld pwy fydd y cyntaf i fentro i’r dŵr?