Wrth aber afon Aeron yn Aberaeron, mae’r harbwr yn hollti glan y môr yn ddau. I’r de o wal yr harbwr, mae bancyn serth o gerrig mân yn arwain at gyfres o grwynau. Rhwng y grwynau hyn, bydd darnau mawr o dywod yn dod i’r golwg pan fydd y llanw ar drai.
I’r gogledd o’r harbwr, tu hwnt i’r amddiffynfeydd môr newydd, mae traeth caregog yn estyn bron i ddwy filltir ar hyd yr arfordir i bentref Aber-arth, pentref a oedd unwaith yn ferw o bysgotwyr ac adeiladwyr cychod. Mae hon yn rhan boblogaidd o Lwybr Arfordir Ceredigion, gyda dewis o lwybrau ’nôl i Aberaeron.
Mae’r llwyfan caregog yn parhau i’r gogledd o Graig Ddu yn Llannon. Yno, mae clogwyni clai isel yn estyn ar hyd ymyl y traeth caregog, gydag ambell batshyn o dywod yn dod i’r golwg pan fydd y llanw ar drai.
Mae traeth hir, bron i filltir o hyd, yn Llanrhystud. Pan fydd y llanw ar drai, bydd traeth tywodlyd braf yn ymddangos tu draw i’r bancyn o gerrig mân.
Mae hwn yn lle perffaith i gael picnic neu i fynd am dro ar lan y môr, gan wylio’r arfordir yn newid o dymor i dymor.
Mae Aber-arth a Llanrhystud yn llefydd poblogaidd i syrffio.