Mae traeth Clarach yn swatio dan glogwyni llechi a siâl Craig Glais, ac fe allwch chi gerdded o Glarach dros Graig Glais i Aberystwyth ar hyd Llwybr yr Arfordir. Ar y traeth ei hun, fe welwch chi fancyn o gerrig mân a thywod garw. Ond pan fydd y llanw ar drai, bydd tua 500 llath o dywod meddal yn dod i’r golwg. Gallwch chi groesi pont dros afon Clarach sy’n hollti’r stormdraeth yn ddau.
I’r gogledd o’r prif draeth, fe welwch chi greigiau dramatig lle gallwch chi chwilota mewn pyllau glan môr.
Mae siâp y creigiau'n arwydd o’r ffordd y cafodd cerrig llaid, cerrig tywod a grutiau ar waelod y môr eu plygu, eu siapio a’u llyfnhau dros 400 miliwn o flynyddoedd.
Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi canfod bod y traeth yn lle delfrydol i dreialu cydrannau cerbyd a fydd yn mynd i archwilio planed Mawrth fel rhan o daith ExoMars.
Ychydig i’r gogledd o Glarach, fe gyrhaeddwch chi draeth preifat Wallog lle gallwch chi weld cerrig Sarn Gynfelyn. Marian rhewlifol sy’n estyn bron i saith milltir i’r môr yw'r sarn hon, ac mae'n bosibl ei bod wedi ysbrydoli chwedl Cantre’r Gwaelod. Gerllaw’r traeth, fe welwch chi hen odyn galch a phatshyn o laswellt sy’n lle perffaith i gael picnic.
Wallog a Sarn Cynfelyn.