Tregaron: tref farchnad Gymreig
Ar fap y cartograffydd o’r 16eg ganrif, John Speed, Tregaron yw’r unig dref Gymreig yng Ngheredigion. Trefi Normanaidd yw'r tair tref arall – Aberystwyth, Aberteifi a Llambed. Fe gafodd Tregaron siarter i gynnal marchnad yn 1292, ac mae marchnad da byw yn dal i gael ei chynnal yn Nhregaron hyd heddiw.
Mae amaethyddiaeth yn rhan annatod o fywyd Tregaron, gyda’r ardal yn arbenigo mewn defaid a gwartheg cadw. Mae nifer o fridwyr cobiau a merlod Cymreig yn yr ardal hefyd, yn ogystal â hyfforddwyr sy’n arbenigo mewn paratoi ceffylau ar gyfer rasio harnais.
Rasus Tregaron
Dair gwaith y flwyddyn - ym mis Mai, Awst a Medi, mae'r byd trotian yn ymgynnull yn Nhregaron ar gyfer gorchest rasio ceffylau mewn harnais. Mae Clasur Cymru - Welsh Classic yn ras o'r bri uchaf o fewn rasio harnais Prydain gyda gwobrau gwerth £100,000, a fydd yn gwneud y ras y gyfoethocaf o’i math yn y byd.
Tregaron: lle llawn llonyddwch
Mae’r eglwys, sy’n sefyll uwchlaw afon Brenig, wedi’i chysegru i Sant Caron. Fe godwyd Capel Bwlchgwynt, adeilad amlwg arall, yn 1775 ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd y dref.
Ar y prif sgwâr, fe welwch chi gerflun o un o feibion enwocaf Tregaron, Henry Richard. Bu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Merthyr Tudful, a bu’n ymgyrchwr diflino dros faterion Cymreig ac anghydffurfiol, rhywbeth a barodd iddo gael ei adnabod fel ‘yr Aelod dros Gymru’. Bu’n ymgyrchydd amlwg yn erbyn caethwasiaeth, a fe hefyd oedd sylfaenydd ac ysgrifennydd cyntaf yr Undeb Heddwch, rhagflaenydd Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig fel y mae erbyn heddiw. Ac yntau’n un o hoelion wyth y mudiad dirwestol, mae cerflun Henry Richard, wrth reswm, â’i gefn at y Talbot.
Mae Tregaron wedi’i lleoli mewn man strategol i groesi Mynyddoedd Cambria. Yno, byddai’r porthmyn yn casglu da byw ynghyd i’w gyrru ar hyd llwybrau hynafol ar draws y mynyddoedd i’w pesgi ar borfeydd Swydd Henffodd, cyn mynd â nhw i farchnadoedd canolbarth Lloegr, Llundain, a de-ddwyrain Lloegr.
Ar y ffordd i Lyn Brianne, mae capel Soar y Mynydd yn swatio yng nghysgod y bryniau. Fe gafodd y capel ei adeiladu yn 1822 gan dad Henry Richard i wasanaethu’r ffermwyr a’r porthmyn. Mae’n bur debyg mai hwn yw capel mwyaf anghysbell a thangnefeddus Cymru.
Ryw chwe milltir o Dregaron, mewn dyffryn coediog prydferth, mae adfeilion abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn dal i sefyll ar y safle tawel lle bu’r mynachod yn addoli ac yn astudio ganrifoedd yn ôl. Er i goron Lloegr ddinistrio’r abaty yn ystod rhyfeloedd yr Oesoedd Canol ac i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd yn y 16eg ganrif, mae Ystrad Fflur yn dal i fod yn eicon diwylliannol pwysig i bobl Cymru.
Cors Caron - gwlyptir o bwys byd-eang
Cors Goch Teifi yw enw'r gwlyptir mawr sydd bron â bod yn llenwi pen uchaf dyffryn Teifi. Mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol 2,000 erw. Mae hon yn gors o bwys byd-eang, gan mai hon yw un o’r enghreifftiau mwyaf cyflawn o dirwedd cyforgors yn y Deyrnas Unedig. Fe ddechreuodd y cromenni dwfn o fawn ffurfio dros 12,000 o flynyddoedd yn ôl, ac maen nhw’n dal i dyfu o hyd.
Ewch am dro ar hyd y llwybr pren i ganol y gors i fwynhau awren o lonyddwch ac i wylio’r bywyd gwyllt.