Pontrhydfendigaid

Ryw filltir o adfeilion abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, mae hen bentref mwyngloddio Pontrhydfendigaid ­– neu'r Bont yn lleol. Y bont grom yng nghanol y pentref yw’r groesfan gyntaf ar draws afon Teifi sy’n tarddu yn Llynnoedd Teifi gerllaw.  

 


Fe aeth y mynachod Sistersaidd ati i sefydlu’r abaty mewn dyffryn siâp pedol rhwng dwy fryngaer o’r Oes Haearn: Pen-y-bannau i’r gogledd, a Gilfach-y-dwn-fawr i’r de. Roedd hwn eisoes yn safle arwyddocaol ac mae’n ddigon posibl bod y mynachod yn gwybod am hanes y safle cyn sefydlu'r abaty yno.

 

Ond mae’r Bont hefyd yn bentref mwyngloddio. Yno, fe welwch chi resi o fythynnod nodweddiadol sydd wedi’u peintio mewn lliwiau tlws erbyn hyn. Mae adfeilion y mwyngloddiau’n britho llethrau’r bryniau, ac mae astudiaethau archeolegol yn dechrau datgelu bod y mynachod eu hunain wedi bod yn cloddio am fwynau gwerthfawr yn y bryniau o’u hamgylch.  

Uwchben Pontrhydfendigaid, ar y ffordd i Bontarfynach, mae Ffair Rhos, casgliad o dyddynnod yn hytrach na phentref mewn gwirionedd. Byddai abaty Ystrad Fflur yn cynnal ffair yno i werthu defaid. Ar ôl i Harri’r Wythfed ddiddymu’r mynachlogydd, fe ddaliwyd ati i gynnal ffeiriau yn Ffair Rhos gan ei fod wedi'i leoli ar groesffordd bwysig ar y llwybrau sy’n mynd o’r gogledd i’r de ac o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y mynyddoedd.

Fe sefydlwyd ysgol ramadeg yn Ystrad Meurig yn 1734. Roedd yn dysgu’r clasuron a diwinyddiaeth, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg gael eu hordeinio, cyn sefydlu Coleg Dewi Sant yn Llambed. Mae yno olion castell mwnt a beili a godwyd gan y barwn Normanaidd, Gilbert de Clare.