Chwedl Pontarfynach
Yn ôl y chwedl, adeiladwyd y bont gyntaf dros geunant yr afon Mynach gan y Diafol, gan ei bod yn llawer rhy anodd i feidrolion cyffredin ei hadeiladu. Cytunodd y Diafol i adeiladu'r bont ar yr amod y byddai’n cael yr enaid cyntaf i groesi'r bont. Ond fe’i twyllwyd gan hen wreigen. Fe daflodd hi ddarn o fara ar draws y bont, y rhedodd ei chi ar ei ôl. ‘Nid dyna oedd Y Gŵr Drwg wedi ei ddisgwyl, ac fe ddiflanodd yn syth heb ei wobr.
Mae'n debygol mai mynachod Ystrad Fflur adeiladodd y bont isaf, rywbryd yn y 12fed ganrif, i hwyluso’r daith i Ysbyty Cynfyn. Adeiladwyd yr ail bont ym 1753 a’r bont uchaf ym 1901.
Tirwedd ceunentydd coediog Pontarfynach
Mae'r rhaeadrau dramatig ar afon Mynach ar un o lednentydd afon Rheidol. Mae'r Rheidol ei hun yn afon serth iawn, yn cwympo tua 1880 troedfedd (550 m) ar ei thaith fer o 24 milltir (39 km) i'r môr yn Aberystwyth.
Mae tirwedd systemau afonydd ucheldir Ceredigion a'r rhaeadrau dramatig yn dyst i'r broses gymhleth o erydiad gan rew a dŵr dros filoedd, falle filiynau o flynyddoedd.
Mae'r amgylchedd a'r awyrgylch gysgodol, a digonedd o ddŵr yn golygu bod llystyfiant diddorol i'w weld yn y ceunant, yn rhedynnau, cennau a mwsoglau.
Tirlun Pictiwrésg Ystad yr Hafod
Rhwng Pontarfynach a Phontrhydygroes (tua 12 milltir o Aberystwyth) mae tiroedd Hafod Uchtryd, fu unwaith yn rhan o diroedd Abaty Ystrad Fflur Ond yn y 18fed ganrif, dan berchnogaeth Thomas Johnes (1748-1816) y death Yr Hafod yn enwog.
Yn ogystal ac adeiladu blasty newydd mawreddog yn y lleoliad anghysbell hwn aeth Johnes ati I lunio tirwedd newydd, gan ddilyn egwyddorion y mudiad Pictiwrésg neu Darluniadol. Golygai hyn blannu coed, naddu creigiau, codi pontydd a chreu rhaeadrau a gosod adeiladwaith syml i fireinio’r golygfeydd. Ymhlith y nodweddion roedd amrywiaeth o lwybrau i dywys ymwelwyr o un olygfa odidog i’r nesaf.
Cydnabyddir Yr Hafod fel un o'r tirweddau Pictiwrésg gorau yn Ewrop, mae’r gwaith adfer yn parhau, ond does prin ddim ar ôl, heblaw am y stablau , o adeiladau plasty’r Hafod. Mae eglwys osgeiddig yr Hafod ar gyrion yr ystâd. Ymwelwch i ddysgu am y cerfluniau a'r gwydr lliw yr oedd Thomas Johnes wedi'u gosod yno, a hanes trist ei deulu.
Un o'r strwythurau a adeiladodd Thomas Johnes i wella'r golygfeydd ar ei ystâd yw’r Bwa, lan y rhiw o bentref Pontarfynach. Dwedir arni ei bod wedi ei chyflwyno fel teyrnged i'r Brenin Siôr III.
Buan y daeth Hafod yn gyrchfan hanfodol i uchelwyr y 18fed ganrif ar eu taith o amgylch Cymru. Disgrifiwyd yr ardal gan yr awdur a'r teithiwr, George Borrow yn ei lyfr Wild Wales, sydd mor boblogaidd heddiw â phan y'i cyhoeddwyd nôl ym 1854. Daeth Pontarfynach yn hoff gyrchfan i ymwelwyr, gan gynnwys artistiaid o nod, ac mae'r rhaeadrau, y pontydd enwog a'r dirwedd hynod yn parhau i greu argraff ar ymwelwyr heddiw.