Yn ôl yr hanes, fe gyflawnodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, un o’i wyrthiau enwocaf yn Llanddewi Brefi pan gododd y tir o dan ei draed. Yn yr eglwys, fe welwch chi groesau carreg o’r cyfnod Cristnogol cynnar. Mae’n debyg bod pobl wedi bod yn addoli ar safle’r eglwys ers y 7fed ganrif. Mae gan yr eglwys fawr sydd wedi’i chysegru i Dewi Sant gasgliad o groesau o’r cyfnod Cristnogol cynnar. Os edrychwch chi’n ofalus ar waliau’r eglwys, fe welwch chi hefyd ddarnau o gerrig wedi’u cerfio.
Roedd Llanddewi Brefi a’r coedwigoedd o’i amgylch yn arfer bod yn rhan o ystadau Esgob Tyddewi. Fe gafodd yr eglwys ei sefydlu yn 1287 gan Esgob Tyddewi fel rhan o gynlluniau i sefydlu prifysgol ar batrwm colegau Rhydychen. Ond chafodd y cynlluniau mo’u gwireddu yn y pen draw.
Mae llawysgrif ganoloesol a gafodd ei llunio yn y pentref yn 1346, Llawysgrif Ancr Llanddewi Brefi, yn cynnwys y cyfieithiad Cymraeg cynharaf ry’n ni’n gwybod amdano o Fuchedd Dewi gan Rhygyfarch. Hwn yw'r testun sy'n adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Erbyn hyn, mae’r llawysgrif yn ddiogel yn Llyfrgell y Bodleian, Prifysgol Rhydychen.
Hwn yw un o blwyfi mwyaf Cymru, ond mae’r boblogaeth gyda’r teneuaf erbyn hyn.
Canolfan fusnes wledig
Ac yntau wedi’i leoli mewn man lle mae sawl afon yn cwrdd, gan greu llwybrau hwylus ar draws y mynyddoedd, fe ddatblygodd Llanddewi Brefi i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer masnach amaethyddol. Byddai’r anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llociau o amgylch y pentref a’u pedoli cyn dechrau ar eu siwrnai hir ar draws y mynyddoedd dan ofal y porthmyn.
Ar un adeg, roedd dwsin o dafarndai yn y pentref. Er mai dim ond dwy dafarn sy’n weddill heddiw, mae enwau a gerddi anarferol o fawr y bythynnod yn datgelu gorffennol prysur y pentref.
Roedd yno hefyd ddiwydiant gwlân llewyrchus, a byddai’r sanau a fyddai’n cael eu cynhyrchu yno’n cael eu cludo ar y trên o orsaf Llanio i feysydd glo’r De. Roedd ffatri brosesu llaeth fawr yn Llanio hefyd.