Cymunedau Mynyddoedd Cambrian

Mae gan bob un o gymunedau mynyddig Ceredigion ei gymeriad a’i naws ei hun. Mae olion mwyngloddiau, adfeilion abaty, capeli ac eglwysi, a’r dirwedd ei hun, yn adrodd hanes cyfoethog Mynyddoedd Cambrian a’r llwybrau hynafol sy’n eu croesi.

 


Pontarfynach

Mae tair pont wahanol - un uwchben y llall - dros yr afon Mynach. Mae'r hanes am sut y cafodd y cyntaf ei hadeiladu yn un o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru. Mae’r lleoliad mewn cwm coediog yn hyfryd, yn arbennig os teithiwch yma ar drên stêm o Aberystwyth.

 

Pontarfynach


Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a Chwmystwyth

Ar un adeg, Cwmystwyth oedd un o brif ganolfannau mwyngloddio arian a phlwm Prydain, ac mae’r adeiladau a’r adfeilion yn dangos hyd a lled y diwydiant yno. Mae pentrefi bach y mwynwyr, Pont-rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth, hefyd ar lwybr y pererinion i abaty Ystrad Fflur.

 

Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a Chwmystwyth


Pontrhydfendigaid

Ryw filltir o adfeilion abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, mae hen bentref mwyngloddio Pontrhydfendigaid ­– neu'r Bont yn lleol. Y bont grom yng nghanol y pentref yw’r groesfan gyntaf ar draws afon Teifi sy’n tarddu yn Llynnoedd Teifi gerllaw.  

 

Pontrhydfendigaid


Llanddewi Brefi

Yn ôl yr hanes, fe gyflawnodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, un o’i wyrthiau enwocaf yn Llanddewi Brefi. Yn yr eglwys, fe welwch chi groesau carreg o’r cyfnod Cristnogol cynnar. Byddai’r porthmyn hefyd yn cwrdd yn Llanddewi Brefi cyn dechrau ar eu siwrnai dros y mynyddoedd i farchnadoedd Lloegr.

Llanddewi Brefi


Tregaron a'r cylch

Tregaron fyddai safle Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2020, ond dwy flynedd yn ddiweddarach, yn 2022 y'i cynhaliwyd yn y diwedd.  Mae Tregaron, sydd ag eisteddfod flynyddol ei hun,  yn dref wirioneddol Gymreig lle mae 60 y cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.  Mae Tregaron yn fan cychwyn delfrydol i grwydro yn ôl troed y porthmyn ar draws Mynyddoedd Cambria. 

Tregaron a'r cylch


Llanbedr Pont Steffan

Tref farchnad â hanes difyr o fasnach a dysg yw Llambed. Gallai rhywun ddadlau bod pob ffordd yn arwain i Lambed, a hithau’n gorwedd mewn man pwysig yn naearyddiaeth y de-orllewin lle gall teithwyr ddewis troi tua arfordir Bae Ceredigion neu barhau ar eu hynt i Fynyddoedd Cambria.

Llanbedr Pont Steffan