Yr Hafod – tirwedd Bictiwrésg
Bonheddwr a ddaeth yn Aelod Seneddol dros fwrdeistref Aberteifi ar ôl cwblhau Taith Fawr estynedig o amgylch Ewrop oedd Thomas Johnes. Ar ôl iddo etifeddu’r Hafod yn 1780, fe symudodd yno i fyw yn 1783 a dechrau adeiladu plas newydd mewn arddull Gothig, gyda choedwigoedd, rhaeadrau a chreigiau o’i amgylch. Fe aeth Johnes ati hefyd i gynllunio llwybrau cerdded a gosod nodweddion adeiledig hwnt ac yma i gyfoethogi’r golygfeydd, gan ddilyn y ffasiwn newydd o dirweddu ar sail egwyddorion Pictiwrésg.
Yr Hafod oedd un o’r tai cyntaf yng Nghymru i agor ei ddrysau’n ffurfiol i’r cyhoedd, gan gyhoeddi ei amseroedd agor a chyflwyno system docynnau. Fe ddaeth yn adnabyddus iawn ar ôl cyhoeddi llyfr George Cumberland, An Attempt to Describe Hafod (1795). Yn fuan iawn, fe ddaeth yr Hafod yn un o’r llefydd roedd yn rhaid i fonedd y dydd – y twristiaid cynnar –ymweld ag e.
Byddai Johnes hefyd yn darparu llety i ymwelwyr mewn bwthyn ar yr ystad (ac mae ar gael i’w rentu hyd heddiw). Fe adeiladodd dafarn yr Hafod Arms ym Mhontarfynach hefyd gan fod y rhaeadrau’n atyniad mawr i ymwelwyr. Heddiw, mae grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr yn cydweithio â thîm bach o staff Ymddiriedolaeth yr Hafod i adfer y llwybrau, y pontydd a’r strwythurau adeiledig eraill.
Fe gododd Johnes blas crand, gydag ystafell wydr, yn yr Hafod, ar sail cynlluniau Thomas Baldwin. Roedd Johnes yn cadw ei gasgliad o lawysgrifau Cymraeg a llyfrau am fyd natur mewn llyfrgell gain siâp octagon a gynlluniwyd gan John Nash. Ond ryw ugain mlynedd ar ôl ei adeiladu, fe ddinistriwyd y plas a’i lyfrgell gan dân. Dim ond y waliau oedd yn dal i sefyll. Hwn oedd y cyntaf o sawl digwyddiad trasig yn yr Hafod. Fe ddechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail blas, ond chafodd y gwaith mo’i gwblhau am ddegawdau. Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd y safle wedi mynd a’i ben iddo, ac fe gafodd yr hyn oedd yn weddill ei ddinistrio gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1958.
Ystad yr Hafod - ddoe a heddiw
Fe ddatblygodd Thomas Johnes ystad yr Hafod, gan blannu miliynau o goed, arbrofi â dulliau newydd o ffermio, a chyflwyno bridiau newydd o dda byw i'r sir.
Fe ddatblygodd Thomas Johnes ystad yr Hafod, gan blannu miliynau o goed, arbrofi â dulliau newydd o ffermio, a chyflwyno bridiau newydd o dda byw i'r sir.
Er enghraifft, fe aeth Johnes ati i fewnforio deugain buwch laeth o’r Iseldiroedd. Erbyn 1800, roedd llaethdy’r Hafod yn cynhyrchu tua phedair tunnell o gaws a 1,200 pwys (540kg) o fenyn.
Fe gyhoeddodd Thomas Johnes gyfrol A Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants yn 1790, ac fe gyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg yn fuan wedi hynny. Byddai’n annog ei denantiaid i wella eu dulliau amaethu, ac yn cynnig gwobrau am gnydau da. Fe enillodd Thomas Johnes ei hun fedal Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau bum gwaith am ei blanhigfeydd coed. Roedd hefyd yn un o brif gefnogwyr Sioe Amaethyddol Sir Aberteifi a sefydlwyd yn 1784.
Mae canolfan ymchwil ucheldir Prifysgol Aberystwyth, a sefydlwyd yn y 1930au, wedi’i lleoli ym Mhwllpeiran a fu unwaith yn rhan o ystad yr Hafod. Erbyn hyn, mae’r gwyddonwyr yn ymgymryd ag ymchwil ymarferol i ecoleg rheoli dŵr a charbon, gwyddorau’r pridd ac anifeiliaid, bio-ynni adnewyddadwy, a bridio planhigion, gan gynnwys gwaith arloesol i gynhyrchu galantamin, cyfansoddyn fferyllol sy’n cael ei gynhyrchu o gennin pedr a’i ddefnyddio i drin clefyd Alzheimer.
Cadwch lygad am ddiwrnodau agored i gael cyfle i ddysgu mwy am waith y ganolfan.
Pentrefi mwyngloddio Pontrhydygroes a Chwmystwyth
Roedd un o fwyngloddiau cynharaf Cymru wedi’i leoli ar lethrau Cwmystwyth. Rai blynyddoedd yn ôl, fe gafwyd hyd i ddisg aur gron o’r Oes Efydd yno. Fe fu pobl yn cloddio am arian, plwm a sinc yn y dyffryn ers cyfnod y Rhufeiniaid, ond roedd y diwydiant yn ei anterth yn y 18fed ganrif.
Fe barodd diwydiant mwyngloddio Mynyddoedd Cambria drwy’r 19eg ganrif, cyn dod i ben yn yr 20fed ganrif. Erbyn heddiw, mae’r hen fwyngloddiau’n segur, gyda’r adfeilion yn gofeb i’r rheini a fu’n gweithio dan y ddaear.
Ar y bryn uwchben ceunant Ystwyth, mae pentref bach Pont-rhyd-y-groes yn llechu yn y coed. Byddai rhai o’r twristiaid cynnar yn disgrifio’r pentref fel ‘Swistir bach’. Mae’r olwyn ddŵr fawr, pont y mwynwyr dros y ceunant, y tŷ cyfrif, a’r rhes dlws o fythynnod yn gofeb i orffennol diwydiannol y pentref.
Islaw ceunant Pont-rhyd-y-groes, mae’r afon yn plethu ei ffordd drwy fanciau tywod cyn lledu ac ymdroelli ar draws tir amaethyddol ffrwythlon rhwng Trawsgoed a Llanilar.
Yn sgil gweithgarwch rhewlifol, mae afonydd yr ardal wedi cyfnewid gwely sawl gwaith, ac mae gwaelod afon Ystwyth, ac yn wir afon Rheidol i’r gogledd, yn dilyn ôl ffawtlin.
Castell gwreiddiol Aberystwyth
Mae afon Ystwyth yn cyrraedd y môr dan gysgod Pen Dinas, bryngaer o’r Oes Haearn ac anheddiad gwreiddiol Aberystwyth. Mae afon Rheidol ac afon Ystwyth yn ymuno islaw Pen Dinas i greu harbwr presennol Aberystwyth.
Fe adeiladwyd castell cyntaf Aberystwyth gan Gilbert de Clare, barwn pwerus Eingl-Normanaidd, mewn man strategol sy’n edrych dros aber afon Ystwyth yn Nhan-y-bwlch. Roedd hwn yn un o nifer o gestyll cylchfur a beili a gafodd eu hadeiladu fel rhan o’r cyrch ar Geredigion o 1110. Byddai teulu de Clare yn chwarae rôl bwysig yn ymosodiadau’r Normaniaid ar Gymru ac Iwerddon.
Ond mae caerau cynharach ar gael ar hyd dyffryn Ystwyth. Bryngaer o’r Oes Haearn yw Castell Grogwynion, gyda golygfeydd trawiadol dros y dyffryn. Ac yn eu caer yn Nhrawsgoed, fe adeiladodd y Rhufeiniaid fila gain – y mwyaf gorllewinol ym Mhrydain – ar ffordd Sarn Helen sy’n mynd o’r gogledd i’r de ar draws gorllewin Cymru.