Dyffryn Aeron, yr Arth, Wyre a'r Mynydd Bach

Mae dyffryn Aeron yn estyn o dref liwgar Aberaeron ar arfordir Ceredigion i lygad yr afon yn Llyn Eiddwen ger copa’r Mynydd Bach. Mae afon Arth hefyd yn tarddu ar y llethrau hyn, gan fyrlymu am saith milltir tua’r môr.


Enwau sy'n dweud y cyfan

Fel mae’r enw ‘Aeron’ yn ei awgrymu, mae dyffryn Aeron yn lle ffrwythlon. Ond beth am Ystrad Aeron a Chiliau Aeron? Wel, mae’r enwau hyn yn disgrifio'r dirwedd lle mae’r afon yn llifo drwy'r pentrefi bach: mae ‘ystrad’ yn disgrifio dyffryn llydan, tra mae ‘ciliau’ yn disgrifio cyfres o droeon cul.

Mae llethrau serth dyffryn Aeron wedi’u gorchuddio â choed. Ystyr ‘llannerch’, wrth gwrs, yw lle agored mewn coedwig. Mae hwn yn ddisgrifiad perffaith o leoliad hyfryd ystad Llanerchaeron, un o nifer o ystadau bach yn nyffryn Aeron.

Mae nifer o ffermydd llaeth yn y dyffryn o hyd, gydag enwau rhai ohonyn nhw’n cynnwys y gair ‘gwyn’ neu ‘llaeth’, ac eraill yn cynnwys geiriau sy’n cyfeirio at goedwigoedd neu goed. Tybed a wnaeth yr enwau hyn ysbrydoli teitl drama leisiau enwog Dylan Thomas, Under Milk Wood? Yn sicr, roedd yn gyfarwydd iawn â’r ardal, ac fe roddodd yr enw Aeronwy i’w ferch.

Llanerchaeron

Mae Llanerchaeron yn esiampl wych o blas ac ystad fonedd o’r 18fed ganrif. Fe gynlluniwyd y plas gan y pensaer Eingl-Gymreig, John Nash, a aeth yn ei flaen i gynllunio nifer o adeiladau adnabyddus, gan gynnwys Palas Buckingham a Phafiliwn Brighton i’r Rhaglyw Dywysog. Dyw plas Llanerchaeron ddim mor grand â’r adeiladau hwyrach hyn, ond mae’n arddangos llawer o nodweddion adeiladau Nash.

Mae iard gwasanaethau Llanerchaeron yn dal i fod yn gyflawn, gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu. Ar dir y plas, fe gewch chi hyd i erddi cegin muriog, llyn addurniadol, a thir parc. Mae’r fferm yn dal i weithio. Yno, fe welwch chi adeiladau fferm gwreiddiol a chasgliad penigamp o hen beiriannau amaethyddol, yn ogystal â da byw cynhenid fel gwartheg duon Cymreig, defaid Llanwenog, a dofednod a moch Cymreig.Mae archeolegwyr wedi darganfod bod anheddiad mawr yn Llanerchaeron yn yr Oesoedd Canol, ac mae sôn amdano yng nghroniclau tywysogion Cymru. Y cyfan sy’n weddill erbyn hyn yw eglwys o ddiwedd y 13eg ganrif sydd wedi’i chysegru i’r Santes Non, mam Dewi Sant.Yn Llanllŷr, fe sefydlodd yr Arglwydd Rhys leiandy Sistersaidd, yn chwaer i abaty Ystrad Fflur ryw 15 milltir i’r dwyrain ym Mynyddoedd Cambria.

Mae Dyffryn Aeron yn ardal y 'Smotyn Du' lle ceir clwstwr cryf o gapeli Undodaidd.  Mae hanes diddorol i Neuaddlwyd hefyd, lle roedd academi Fethodistiadd yn hyfforddi bechgyn o'r ardal ar gyfer y weinidogaeth. Yn eu mysg oedd cenhadon Cristnogol cyntaf ynys Madagascar.  

Y Mynydd Bach 

Cyfres o fryniau rhwng y môr a rhostir mynyddig Mynyddoedd Cambria yw’r Mynydd Bach mewn gwirionedd. Mae afonydd Aeron, Arth ac Wyre yn tarddu ar ei lethrau.

Yno hefyd mae Gwarchodfa’r Ymddiriedolaeth Natur yn Llyn Eiddwen. Mae’r llyn yn nodweddiadol o lynnoedd ucheldir Ceredigion gan ei fod wedi’i greu gan rewlif a bod rhostir gwyllt o’i amgylch. Cadwch lygad am blanhigion sy’n arnofio, fel crafanc-y-frân y dŵr a llyriad y dŵr, yn ogystal â bidoglys y dŵr, plu’r gweunydd, a llugaeron.  Mae hanes y Mynydd Bach yn ddifyr. Ar grib Trichrug, mae olion carneddau o’r Oes Efydd. Yno hefyd fe welwch chi fythynnod teuluoedd a ymfudodd i Ogledd America i chwilio am fywyd gwell, a’r man lle cafwyd gwrthryfel yn y 19eg ganrif yn erbyn cau tir comin.

Yn y coed uwchben afon Arth, fe welwch chi fwnt hen gastell canoloesol, Castell Dinerth. Byddai mynachod Ystrad Fflur yn teithio drwy'r dyffryn o’r abaty yn y bryniau i’r arfordir yn Aber-arth lle bydden nhw’n dal pysgod mewn coredau.

Mae afon Wyre yn llifo drwy ddyffryn coediog dwfn arall rhwng Llanrhystud a Llangwyryfon ar lethrau’r Mynydd Bach. Mae’r dyffryn dwfn yn parhau tua’r wlad i Langwyryfon a Lledrod lle mae’r Gaer Fawr, bryngaer o’r Oes Haearn, yn hawlio’i lle uwchben y dyffryn. O’r fryngaer drawiadol hon, fe gewch chi olygfeydd gwych dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.

Yn Llangwyryfon, mae’r eglwys wedi’i chysegru i’r santes Frythonaidd, Ursula.