Ffurfwyd tirwedd Ceredigion dros filiynau o flynyddoedd gan symudiadau anferthol rhewlifoedd ac egni pwerus dŵr yn cerfio ceunentydd dwfn yn yr ucheldiroedd cyn nadreddu'n hamddenol ar draws dolydd bras am y môr. Ond gellir gweld ôl dyn hefyd fel mae wedi troi nerth y dŵr i'w felinau ac i gronfeydd ar gyfer diwydiant a hamdden.
Biosffer Dyfi
Mae afon Dyfi’n ffurfio ffin ogleddol naturiol Ceredigion. I lawer, hon yw’r ffin rhwng de a gogledd Cymru hefyd. Mae’r afon yn llifo drwy’r aber llydan i’r môr yng nghysgod mynyddoedd Eryri ar y naill law a Mynyddoedd Cambria ar y llall. Ar lannau deheuol yr afon, fe welwch chi Gors Fochno – cors iseldir fwyaf Ynysoedd Prydain – gyda’i bywyd gwyllt cyfoethog, a’i thrysorfa o chwedlau.
Rheidol
Mae afon Rheidol yn tarddu yn Llyn Llygad Rheidol ar lethrau Pumlumon, copa uchaf Mynyddoedd Cambria. Mae’r afon yn disgyn yn serth ac yn gyflym i’r môr drwy dirwedd goediog ddramatig.
Dilyn yr afon Ystwyth
Yn ôl yr Arolwg Ordnans, asiantaeth fapio swyddogol y Deyrnas Unedig, mae canolbwynt daearyddol Cymru ar lethr uwchlaw afon Ystwyth yng Nghwmystwyth.
Dyffryn Aeron, yr Arth, Wyre a'r Mynydd Bach
Mae dyffryn Aeron yn estyn o dref liwgar Aberaeron ar arfordir Ceredigion i lygad yr afon yn Llyn Eiddwen ger copa’r Mynydd Bach. Mae afon Arth hefyd yn tarddu ar y llethrau hyn, gan fyrlymu am saith milltir tua’r môr.
Afon Teifi
Ar lannau afon Teifi, mae tref Llandysul yn sefyll ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr. Mae'r Teifi yn un o brif afonydd Cymru. O’i tharddle yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria, mae’n mynd ar ei hynt drwy wlyptiroedd sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt ac ar hyd tir amaethyddol ffrwythlon, gan ruthro drwy geunentydd cul cyn cyrraedd y môr yn nhref borthladd hanesyddol Aberteifi. Uwchlaw glannau’r afon, un o afonydd pysgota enwocaf y wlad, mae’r bryniau’n frith o fryngaerau a charneddau o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn.