Rhedeg parc a mynydd

I deimlo’ch traed yn rhydd a chael llond ysgyfaint o awyr iach, beth am fynd i redeg ar hyd arfordir Ceredigion neu ym mryniau a choedwigoedd Mynyddoedd Cambria? Ry’ch chi’n siŵr o fwynhau ein dewis da o lwybrau, heriau, a chystadlaethau.


Llwybrau rhedeg Bwlch Nant yr Arian

Mae yna lwybrau rhedeg wedi'u cyfeirnodi yng Nhanolfan Bwlch Nant yr Arian, ac mae pob un ohonynt yn cychwyn o faes parcio'r ganolfan. Wedi eu henwi ar ôl cerrigfeini lleol, mae llwybrau Y Fuwch a'r Llo yn gyflwyniad gwych i lwybrau rhedeg Mynyddoedd Cambria.

Llwybr Y Fuwch yw'r hiraf o'r llwybrau (6.5 milltir, 10 cilomedr). Mae'n sydd ag amrywiaeth o arwynebau a sawl esgyniad serth, tra bod Y Llo ​​(3.1 milltir, 5 cilometr) yn cychwyn gyda darn gwastad bron ddau gilometr o hyd cyn dringo i fyny i'r grib a dychwelyd nôl  i'r maes parcio.

Mae Bwlch Nant yr Arian yn leoliad hanner marathon hefyd. Cynhelir hanner marathon y Llwybr Arian ym mis Mawrth.

Pontarfynach a'r Hafod

Mae Pontarfynach yn gartref i Sialens y Barcud Coch, cyfres o ddigwyddiadau cerdded a rhedeg mewn nifer o leoliadau.  Mae'r gyfres yn cynnwys rasus hanner marathon a 10 cilomedr, a rasus hwyl i blant yn ogystal a chystadlaethau cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau Cymru. ​

Mae'r ras hanner marathon 13 milltir yn mynd fyny a lawr ar hyd llwybrau, traciau a ffyrdd coedwig gyda esgynfa heriol tua'r diwedd i brofi coesau blinedig!

Mae'r llwybr 10k yn dilyn rhan o lwybr y marathon, gan gynnig opsiwn byrrach i'r rhai nad ydynt yn barod i fynd i'r afael â'r hanner marathon llawn eto.

Mae'r teithiau cerdded yn dilyn y llwybrau rhedeg ac yn rhoi digon o gyfleoedd i fwynhau golygfeydd gwych ac i ddewis y lle gorau i  aros i sefyll a chodi calon y rhedwyr. Mae’r teithiau cerdded yn cychwyn am 11am, ymhell cyn i’r cystadlaethau 10k a hanner marathon ddechrau yn y prynhawn, a gyda digon o amser i’r rasys plant a phobl ifanc gael eu cynnal hefyd.

Mae Ras yr Hafod yn ddigwyddiad rasio blynyddol ar gyfer oedolion a phlant, a gynhelir ym mis Mai, ychydig ddyddiau ar ol Sialens y Barcud Cooch ym Mhontarfynach. 

Yn ôl Cymdeithas Athletau Cymru, ystâd coetir Hafod oedd lle trefnwyd, ym 1860, y digwyddiadau athletau ffurfiol cyntaf yng Nghymru. Heddiw mae ystâd Hafod yn cael ei rheoli gan Adnoddau Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae yna sawl milltir o lwybrau ar gyfer cerdded sydd hefyd yn boblogaidd ymhlith rhedwyr

Rasio ar hyd glan môr ac ar y traeth

Does dim ots pa adeg o'r dydd y byddwch ar bromenad Aberystwyth rydych yn siwr o weld rhywun yn loncian arno. Mae'n le delfrydol i wneud hynny - milltir braf a gwasted -gyda golygfeydd bendigedig sy'n newid gyda'r tymhorau ac amser o'r dydd. 

Dyma hefyd lle cynhelir rasys Race for Life, Triathlon a'r ras Dau Gopa Aberystwyth.

Mae ras Y Ddau Gopa yn cychwyn ar y promenad yn yn mynd am yr harbwr a'r marina cyn esgyn 450 troedfedd at gofeb Wellington ar ben hen gaer Pendinas.  Mae'r rhedwyr yna'n troi nôl am gartref, ond nid dyna diwedd y daith. Yn gyntaf rhaid estyn yr ail gopa, sef Craig Glais, ac yna igam ogam lawr y llwybr serth a charegog am y cymal olaf un, a gorffen gyda un sbrint olaf i gyrraedd y llinell derfyn. 

Rhan o gystadlu'r dydd yw'r ras rhwng y Dref a'r Coleg, gyda aelodau Clwb Athletau Aberystwyth yn cystadlu yn erbyn rhedwyr y brifysgol am Gwpan y Dolffin. 

Mae traeth Y Borth a'r Ynyslas yn enwog am weddillion coediwg Cantre'r Gwaelod, ond mae digon o le i redeg hefyd, gan fod y traeth yn fwy na thair milltir o hyd. Mae ras 10 cilomedr traeth y Borth gyda pwynt troi am gartref yn Ynyslas, ac mae rhedeg ar lanw isel y traeth yn cynnig wyneb gwastad cadarn, os blinedig! 

​Sialensau cerdded, loncian a rhedeg 

Me ras 10 milltir y Teifi 10,  yn gwneud y gorau o drywydd  cyflym sy'n dilyn gwastadeddau godidog yr afon Teifi.  Mae'n ras achredig, ac un un sy'n sbarduno cystadleuwyr i wneud eu gorau glas. 

Mae Ras Fynydd Sarn Helen wedi hen ennill ei phlwyf, gan ei bod wedi bod yn cael ei chynnal ganol Mai ers dros 40 mlynedd. Mae'r diwrnod yn cynnwys y ras 16 milltir heriol i fyny rhiw, ras hwyl naw milltir a rasus i'r plant. 

Mae cwmni Hydro Dragon Events yn trefnu cyfres flynyddol o sialensau 'Cerdded, Loncian a Rhedeg' ar hyd llwybrau gorau Ceredigion. Cadwch lygad ar y rhestr digwyddiadau i wybod pryd bydd yr un nesaf.

Rasus hwyrnos yr haf 

Cynhelir cyfres o rasus ganol wythnos yn ystod y gwanwyn a'r haf.  Mae Ras Hwyrnos Nant yr Arian  yn cychwyn gyda ras un milltir ar gyfer plant oedran ysgol gynradd. Dilynir hyn gan ras 3 milltir i ddisgyblion ysgol uwchradd  a ras un filltir i bobl hyn.   

Mae Ras yr Hafod yn dilyn patrwm cyffelyb, gyda rasus plant yn dechrau am 6. Gellir cofrestru i redeg ar y noson. 

 Cynhelir y trydydd ras yng nghyfres Sialens y Barcud Coch yng nghoedwig Longwood, gan gychwyn o Glwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan.  

Clwb Sarn Helen sy'n trefnu Ras 6 milltir Felinfach. Fe'i cynhelir ym mis Mehefin ar gwrs cyflym a llyfn ar hyd lonydd tawel cefn gwlad Dyffryn Aeron o gwmpas pentrefi Talsarn, Abermeurig a Felindre cyn dychwelyd i Felinfach.

Cyfeiriannu

Defnyddiwch eich sgiliau darllen map i ddod o hyd i byst cyfeiriannu (neu rheolyddion) a'ch gallu i redeg rhyngddynt yn y drefn gywir ar bedwar cwrs cyfeiriannu parhaol sydd ar gael yng nghanolfan Bwlch Nant yr Arian.   Mae dewis o gyrsiau - un haws ar gyfer dechreuwyr, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn aml, a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol. Mae mapiau ar gael o'r ganolfan ymwelwyr. 

O gwmpas tref Aberystwyth ei hun mae llwybrau cyfeiriannu eraill sydd wedi'u cyfeirio'n barhaol. Mae Parc Natur Penglais yn le hyfryd i redeg, yn arbennig yn y gwanwyn pan mae clychau'r gog yn eu llawn flodau.  Mae cyrsiau cyfeiriannau yn agored i bawb ar draws tiroedd y Brifysgol hefyd. 

Heriau rhedeg ar draws Mynyddoedd Cambrian

Wedi’u hysbrydoli gan chwedl y ‘tair chwaer’ – yr afonydd sy’n codi ar lethrau Pumlumon - mae tîm Cambrian Mountain Events yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau dygnwch  ar draws tirweddau heriol Mynyddoedd Cambrian. Mae Llwybr Sabrina wedi’i seilio ar yr afon Hafren sy’n mynd trwy Lanidloes, lle mae’r llwybrau cylchol yn dechrau ac yn gorffen. Mae Llwybr Ystwyth hefyd yn cychwyn ar lethrau dwyreiniol Mynyddoedd Cambrian yn Llangurig. Mae'r llwybr yn croesi i Geredigion yng Nghwmystwyth er mwyn dilyn yr afon Ystwyth i Lanafan a Llanilar a chyrraedd y môr yn Aberystwyth. Nid yw hon yn gystadleuaeth i'r dibrofiad. 

Mae heriau anoddach fyth ar gael - mae'r Dragon Trail yn cychwyn yn  Y Borth ac yn mynd i fyny trwy Gwm Ceulan o Dal y Bont, o amgylch Banc Llechwedd Mawr i Lyn Llygad Rheidol a thros Bumlumon Fawr i barhau trwy Goedwig Hafren a heibio Llyn Clywedog gan ddilyn Llwybr Glyndŵr i orffen yn Llanidloes.