I ddathlu pymtheg mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion, mae cyfres o chwe taith gerdded dywysiedig yn cael eu harwain gan swyddogion gwasanaeth Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ceredigion yn ystod Mehefin a Gorffennaf eleni. Mae'r teithiau'n dilyn trywydd cylchol ar hyd llwybrau sy'n cysylltu gyda Llwybr yr Arfordir. Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dechrau/ diweddu yn Ynyslas ar lan afon Dyfi ac yn ymlwybro i Aberteifi. Mae'r gyfres os chwe taith yn archwilio'r tirweddau a'r cynefinoedd hynod sydd yn nodwedd o ardal Llwybr yr Arfordir.
Taith dywys 1: Borth / Ynys Las
Dydd Mercher, Mehefin 21. Cychwyn am 18:00 (6 o'r gloch yh) o faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, Ynys Las
Mae taith gerdded dywysiedig gyntaf o gyfres dathlu Llwybr Arfordir Ceredigion yn cael ei chynnal ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Dewiswch rhwng dau opsiwn:
Opsiwn 1: taith hawdd tua dwy filltir o hyd, saddas i'r teulu cyfan. Amrywaeth o arwynebedd gan gynnwys tywod, glaswellt a thraciau.
Opsiwn 2: taith hirach, hyd at bum milltir o hyd. Taith hamddenol dros dywod, glaswell a thraciau i wneud y gorau o'r oriau hir o olau dydd.
Mae'r teithiau tywys eu hunain yn rhad ac am ddim, ond nodwch bod codi tal am barcio.
Taith dywys 2: Aberystwyth
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 1 July. Cychwyn am 13.00 (1o'r gloch yp) o'r Bandstand ar y Promenâd
Golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
Opsiwn 1: Taith hawdd o dwy filltir a hanner dros Graig Glais ('Constitution Hill') Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais
Opsiwn 2: Taith gylchol chwech milltir sy'n cynnwys Craig Galis, Clarach, Coed y Cwm, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais.
Taith dywys 3: Aberaeron
Dydd Mercher, Gorffennaf 5. Dechrau am 18:00 (6 o'r gloch yh) o bont droed Pwllcam, harbwr Aberaeron.
Opsiwn 1 – Taith gylchol hawdd rhwng hanner milltir a milltir lawn yn dilyn yr afon Aeron a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Taith hawdd, ond gyda peth arwynebedd anwastad.
Opsiwn 2 – Taith o tua pump i chwe milltir i Lanerchaeron ac Aberarth a dychwelyd i Aberaeron ar hyd Llwybr yr Arfordir. Taith gymhedrol ar lwybrau sydd ag amrywiaeth o arwynebeddau.
Taith dywys 4: Cei Newydd
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 15. Cychwyn am 13:00 (1o'r gloch yp) ger y toiledau ger yr harbwr.
Taith gylchol o tua saith i wyth milltir i Gwm Soden a Chwmtydu ac yn ol. Taith gymhedrol ond gyda sawl rhiw serth ac amrywiaeth o arwynebedd. Clogwyni uchel uwch y môr mewn mannau.
Taith dywys 5: Llangrannog
Dydd Mercher, Gorffennaf 19. Cychwyn o Wersyll yr Urdd, Llangrannog am 18:00 (6o'r gloch yh)
Opsiwn 1 – Taith fer, gylchol neu un linellol a dychwelyd i'r gwersyll gyda bws.
Opsiwn 2 – Taith gylchol pum i chwe milltir gymhedrol o gwmpas Llangrannog ac Ynys Lochtyn.
Taith dywys 6: Aberteifi
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29. Cychwyn am 13.00 ( i o'r gloch yp) ofaes parcio Netpool, Aberteifi. (maes parcio talu ac arddangos)
Taith gylchol 13 milltir am Ferwig, Mwnt ac yn ôl. Taith gymhedrol gyda amrywiaeth o arwynebedd llwybr.