Y Cei Newydd - Aberaeron

Mae’r llwybr rhwng Y Cei Newydd ac Aberaeron yn un o'r rhannau mwyaf poblogaidd o Lwybr Arfordir Ceredigion, ac mae’n cynnwys un o hoff lwybrau’r bardd Dylan Thomas ar hyd y traeth pan fydd y llanw ar drai. O Lanina, mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen drwy Gei Bach a Chwm Buwch lle mae afon Drywi’n naddu patrwm diddorol yn y dirwedd cyn troi’n rhaeadr.

 


Mae traeth y Cei Newydd yn harbwr naturiol cysgodol, ac adeiladwyd 'y cei newydd' o garreg ar ddechau’r 19eg pan oedd y diwydiant adeiladu llongau yn tyfu’n gyflym. Uchlaw traeth yr harbwr mae cerflun o ferch ifanc yn chwythu cusan tua'r gorwel. Mae'n nodi pwynt hanner ffordd Llwybr Arfordir Cymru, ac yn ein hatgoffa o hiraeth teuluoedd y Cei Newydd am y morwyr dreuliai fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd bant yn hwylio'r cefnforoedd. Tan ganol yr ugeinfed ganrif roedd un o bob pump o ddynion y dref yn gapten llong, a nifer ohonynt yn 'Cape Horners'.

O'r Cei Newydd pan mae'r llanw ar drai, gallwch ddilyn yn ôl troed Dylan Thomas ar hyd y traeth i Lanina, lle bu'n barddoni mewn stordy afalau yng nghornel gardd plas ei noddwr, yr arglwydd Howard de Walden. 

 Gerllaw mae eglwys Llanina, sef, efallai'r bedwaredd i gael ei chodi ar y penrhyn bychan yma. Dywedir mai brenin Wessex oedd Ina, gafodd ei longddryllio gerllaw, a gododd yr eglwys gyntaf.   

Yr ochr draw i bont Llanina ma'er Cei Bach. Oddi yno mae'r llwybr yn codi'n raddol ar draws llethr coediog. 

Mae nifer o afonydd byrion yn rhedeg drwy gymoedd coediog cyn cwympo dros y clogwyn i draethellau carregog islaw. Un o'r rhain yw Gilfach yr Halen, sy'n crybwyll hanes o smyglo halen, oedd rhaid talu tollau drutach arano ym Mhrydain na dros dŵr yn Iwerddon.   

Ar y bryn, ychydig oddi ar y llwybr, mae eglwys Henfynyw, sydd ar safle hen fynachlog, lle dywedir y treuliodd Dewi Sant ei blentyndod.