Saif Llangrannog ar ffin rhwn dau fath o graig: creigiau Silwraidd a rhai Ordofisiaidd. Mae'r enwau yma, sy'n cael eu defnyddio gan ddaearegwyr ar draws y byd, yn dod o enwau dau lwyth Celtaidd a arferai fyw yn ne a gorllewin Cymru. Os edrychwch yn ofalus ar waelodion Carreg Bica mae haenau clir i'w gweld yn y garreg, er eu bod wedi eu plygu'n dynn. Yn yr haenau tywyll o garreg fwd gallwch weld graptolytau, math cynhanesyddol o blancton. Mae eu holion yn aml yn cael eu defyddio i ddweud beth yw oedran creigiau. Daw'r enw o'r Groeg am 'garreg gyda ysgrifen arni'.
Cysylltir Carreg Bica ac Ynys Lochtyn gan chwedl adnabyddus. Caer o Oes yr Haearn yw Pendinas Lochtyn a dyma un o'r safleoedd mwyaf amlwg ac amddiffynol ar yr arfordir cyfan. Islaw mae olion anheiddiaid, a chaer fach arall ar y penrhyn bychan. Gyda chreigiau'n ei hamddiffyn ar bron bob ochr, dim ond un mur amddiffynnol sydd yma. Gallwch ei weld yn glir heddiw, ddwy fil o flynyddoedd ers iddo gael ei godi.
Y rhan nesaf o'r llwybr yw'r rhan mwyaf trawiadol ohonno gan ei fo yn ymestsyn fel rhuban ar draws llethr serth. Yr ochr draw iddo mae Cwmtydu. Mae'r cildraeth wedi ei guddio mewn hafn dwfn rhwng dau benrhyn creigiog gyda ogofau sydd yn cynnig lloches i'r morloi sy'n dod yma i fagu bob hydref, yn ogystal a lle i guddio i smyglwyr yr oes a fu. Mae'r llwybr yn cyrraedd gwaelod y cwm trwy'r coed cyn croesi afon Drywi dros bompren. Ger y traeth fe welwch odyn galch, ond sylwch hefyd ar lety unigryw wedi ei greu o flychau cargo llong.
Mae'r arfordir yma dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhan bwysig o'u gwaith yn yr ardal yw rheoli amgylchedd ar gyfer bywyd gwyllt. Byddwch yn sicr o weld brain coesgoch ar y creigiau, yn yn nolydd cysgodol Cwm Soden mae'n bosib y gwelwch loynod byw prin.
Rhwng Cwmtydu a Chwm Soden mae Castell Bach - caer arall o'r Oes Haearn. Mae'n hawdd adnabod y muriau er eu bod bellach yn dechrau diflannu fel mae'r môr yn erydu'r arfordir brau o'i chwmpas.
Ar y clogwyn ger Craag yr Adar mae hen gwt gwylwyr y glannau yn lle delfrydol i gysgodi ac i wylio'r môr am ddolffiniaid ac adar y glannau.
Wrth gerdded lawr i'r Cei Newydd, mae'n bosib eich bod yn dilyn yn ôl troed y bardd Dylan Thomas oedd yn adnabod yr ardal yma'n dda.