Mae Llwybr yr Arfordir rhwng Aberystwyth a Clarach yn mynd dros Craig Glais, neu 'Consti' (o'r enw roddwyd arni yn oes Victoria: 'Constitution Hill'). Gall Rheilffordd y Clogwyn leihau'r ymdrech sydd ei hangen i ddringo'r llethr serth, ac mae'r Camera Obscura ar y copa yn cynnig golygfa wahanol o Fae Ceredigion a thref Aberystwyth islaw.
Mae creigiau a nodweddion daearegol rhyfeddol i'w gweld ar hyd y darn yma o'r arfordir - rhai ohonynt yn sail i chwedlau. Yr un mwyaf trawiadol yw Sarn Cynfelyn, 'clawdd' llydan o gerrig sy'n ymestyn o Wallog am bron i saith milltir allan tua ardal o ddŵr bas - Caer Wyddno. Tybed wir os mai olion Cantre'r Gwaelod yw rhain?
Defnyddir y term 'Aberystwyth Grits' gan ddaearegwyr yn rhyngwladol. Mae'r cereigiau i'w gweld mewn haenau amlwg ar hyd y darn yma o'r arfordir. Mewn mannau maent yn llyfn a gwastad ac mewn mannau eraill maent wedi eu plygu ac yn unionsyth, gyda enwau disgrifiadol fel Craig y Delyn ger Borth.
Y tair milltir neasf, o Wallog i Borth efallai yw'r darn mwyaf heriol, gyda sawl esgynfa serth i'w dringo. Ond mae'n werth yr ymdrech - fel y dewch yn agosach at Borth, mae golygfeydd godidog tua aber y Ddyfi a Chadair Idris yn agor o'ch blaen.
Mae dewis ganddoch yn Borth, lle mae Llwybr Arfordir Ceredigion a Llwybr Arfordir Cymru'n gwahanu. Gallwch ddewis dilyn Llwybr Arfordir Ceredigion ar hyd y traeth am dwyni tywod Ynyslas ac aber llydan yr afon, gyda Aberdyfi bron o fewn eich gafael. Os dilynwch y trywydd ar hyd y traeth cadwch lygad am weddillion coedwig tanddwr hynafod pan mae'r llanw ar drai, ac efalli y dewch ar draws ol troed wedi ei adael yn y mawn dros fil o flynyddoedd yn ôl.