Ceredigion wyllt

Mae cefn gwlad Ceredigion yn noddfa i fywyd gwyllt. Mae ein rhostiroedd, ein coedwigoedd, ein hafonydd, a’n lonydd tawel gyda’u perthi blodeuog yn gynefinoedd gwych lle gallwch weld amrywiaeth cyfoethog o adar a chreaduriaid eraill. Ewch am dro; ewch i ymweld ag un o’n gwarchodfeydd natur neu’n canolfannau bywyd gwyllt; neu gadewch i dywysydd lleol profiadol rannu cyfrinachau Ceredigion â chi ar deithiau cerdded a gwibdeithiau.


Ar lwyfandir uchel Mynyddoedd Cambria, nid nepell o Lynnoedd Teifi, mae un o raeadrau mwyaf anghysbell Ceredigion yn disgyn i bwll tawel lle arferai cawr olchi ei ddwylo yn ôl y chwedl.

Mae rhaeadrau trawiadol Pontarfynach, a chwedl adeiladu'r bont wreiddiol ar draws y ceunant coediog, wedi denu ymwelwyr o bell ac agos ers canrifoedd lawer. Fel llawer o ymwelwyr eraill, fe gafodd rhaeadrau enwog Pontarfynach gryn argraff ar y bardd rhamantaidd, William Wordsworth a ofynnodd:

How art thou named? In search of what strange land,
From what huge height, descending?

Mae’r daith ar hyd Rheilffordd Cwm Rheidol o Aberystwyth i Bontarfynach yn ddramatig ynddi’i hun, gyda’r trên yn pwffian ei ffordd i fyny llethrau serth Cwm Rheidol. Os edrychwch chi'n ofalus, fe gewch chi gipolwg ar y rhaeadrau drwy'r coed.

Dafliad carreg o Bontarfynach mae ystad yr Hafod. Byddai ymwelwyr anturus y 18fed ganrif yn heidio i’r ystad goediog i fwynhau’r golygfeydd Pictiwrésg ffasiynol. I greu’r golygfeydd gwyllt a naturiol hyn, fe aeth y perchennog, Thomas Johnes, ati i symud dŵr a daear, gan greu llwybrau cerdded i swyno’r ymwelwyr cynnar. Yn ddiweddar, fe gafodd y llwybrau hyn eu hadfer i ni gael eu mwynhau heddiw.

Yng Nghenarth, fe welwch bont â thri bwa, gyda thyllau mawr crwn i adael i lifogydd lifo drwyddyn nhw. Wrth ymyl rhaeadr Cenarth, fe welwch felin ddŵr a fu’n defnyddio grym y dŵr am flynyddoedd lawer. Heddiw, mae’n lle perffaith i gael picnic. Cofiwch gadw llygad am eogiaid yn neidio dros y rhaeadr.

Coetiroedd a glannau afon  

Ewch am dro drwy’r tymhorau yng nghoedwigoedd Ceredigion i fwynhau carped o glychau’r gog a garlleg gwyllt yn y gwanwyn, cysgod rhag pelydrau’r haul yn yr haf, a chaleidosgop o ddail amryliw a ffwng yn yr hydref. Mae llawer o goetiroedd llydanddail Ceredigion yn 500 mlwydd oed a mwy. Ynddyn nhw, fe welwch dderw mes di-goes, coed cerddin, a choed cyll, a chyfoeth o fwsogl, rhedyn, a chennau sy’n ffynnu yn yr aer pur dan gysgod y coed.

Mae Coed Einion a’i raeadrau yn Eglwys-fach, a choed a cheunant Coed Rheidol yng Nghwm Rheidol, yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig oherwydd bod ynddyn nhw gyfoeth arbennig o blanhigion nodweddiadol fforest law Geltaidd, sef cennau, bryoffitau, mwsogl, a rhedyn.

Yng nghoedwigoedd mwy diweddar Ceredigion, fe gewch hyd i lwybrau cysgodol da sy’n arwain at olygfeydd trawiadol cyn i chi droi am adref. Un enghraifft yw Coed Maenarthur, tu draw i Bont y Mwynwyr ym Mhont-rhyd-y-groes, gerllaw ystad yr Hafod. Ar yr ystadau mawr, mae’r coed ffawydd yn ddigon o ryfeddod pan fydd y dail yn newid lliw a’r haf yn troi’n hydref

Gwarchodfeydd tir gwlyb

Does dim rhaid i chi wlychu’ch traed pan fyddwch chi’n ymweld â gwarchodfeydd tir gwlyb arbennig iawn Ceredigion. Gallwch grwydro ar hyd llwybrau pren i ganol ein cyforgorsydd a mwynhau awyrgylch unigryw’r dirwedd drawiadol hon. Mae tair cyforgors Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn llenwi 2,000 erw o’r dyffryn rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid ar ben uchaf afon Teifi. Mae Cors Caron yn warchodfa tir gwlyb o bwys rhyngwladol, ac yn un o’r enghreifftiau gorau o gyforgors iseldir ym Mhrydain.

Cors Goch Glanteifi yw'r enw arall ar Gors Caron, a hynny oherwydd gwawr goch nodweddiadol y llystyfiant: carped o hesg a migwyn wedi’i fritho â blodau melyn tlws llafn y bladur a gellesgen y gerddi, heb anghofio chwys yr haul sy’n dal pryfed i gael maeth. Hwn hefyd yw cynefin blodyn sirol Ceredigion, sef andromeda’r gors (Andromeda polifolia), blodyn bach pert sy’n debyg i’r grug. Gweddillion y planhigion hyn ac eraill sydd wedi creu’r cronfeydd dwfn o fawn sydd wedi datblygu yno dros ddwy fil o flynyddoedd. Mae’r rhain yn ffurfio cromenni bas sy’n dal i dyfu tu cefn i farian rhewlifol lle mae afon Teifi wedi naddu ei chwrs.

Mae cors arall o bwys rhyngwladol yng Ngheredigion hefyd, sef Cors Fochno. Mae’n gorwedd ar hyd afon Leri ger yr arfordir rhwng y Borth ac Ynys-las, ac yng nghalon Gwarchodfa Biosffer Dyfi. Cors Fochno yw un o gyforgorsydd iseldir lled-naturiol mwyaf Prydain, ac mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Beth am ymuno â wardeiniaid y warchodfa ar un o’u hymweliadau rheolaidd â’r gors? Cewch ddysgu mwy am blanhigion, mamaliaid, ac amffibiaid anghyffredin y gors, yn ogystal ag archaeoleg yr ardal a dulliau modern o reoli dŵr.